GWNEUTHURO A WELDIO

Dysgwch sgiliau gwneuthuro a weldio arbenigol yng Ngholeg Cambria, lle byddwn yn agor y drws i yrfa gyffrous mewn diwydiant cystadleuol a gwerth chweil.

Bydd ein tiwtoriaid profiadol yn y diwydiant yn rhoi’r holl sgiliau ymarferol a throsglwyddadwy y byddwch eu hangen i lwyddo yn eich maes yn y dyfodol, p’un a ydych chi eisiau bod yn Weithiwr Masnach Weldio, Gweithiwr Metel neu Oruchwyliwr Masnach Metel. Bydd ein holl addysgu yn digwydd mewn gweithdai arbenigol sy’n adlewyrchu gweithleoedd go iawn, felly gallwch sicrhau eich bod yn barod ar gyfer eich dyfodol ym maes peirianneg.

Play Video
Pethau Defnyddiol i'w Lawrlwytho

A oes gennych chi gwestiwn?

An engineering student with safety glasses on

Lucy Powell

Wedi astudio – Lefel 1 mewn Gwneuthuro a Weldio

Erbyn hyn – Gwneuthurwr Weldiwr / Ffitiwr Pibellau yn DRB

“Dwi’n mwynhau bod yn brysur ac ers erioed dwi wedi dysgu rhagor wrth i mi fynd i’r afael â gwaith yn gorfforol. Dwi wrth fy modd bod cymaint o agweddau i’r diwydiant, un wythnos gallwch chi fod yn gosod peipen laeth mewn distyllfa, swydd lle rydych chi’n aros yn lân ac yn cael weldio prosiectau sy’n edrych yn ddeniadol ac yna gallwch chi fod i lawr mewn lle cyfyng yn y budreddi yn profi eich sgiliau!

“Dwi wrth fy modd gyda’r amgylchedd dwi’n gweithio ynddo a dwi’n gweithio gyda phobl anhygoel sy’n addysgu cymaint i mi bob dydd. 

“Mae’n rhaid i mi ddiolch i’r cymhwyster a’r tiwtoriaid yng Ngholeg Cambria am fy helpu i gyrraedd lle rydw i heddiw. Hebddyn nhw, buaswn i ddim yn gweithio yn y cwmni yma yn gwireddu fy mreuddwyd.”

Ymweld â'n horiel
Dewch i edrych o gwmpas i weld yn union sut beth yw astudio gyda ni yn Cambria.
Neu edrychwch o gwmpas ein safleoedd coleg trwy ymweld yma .
Previous
Next
Digwyddiadau Diweddaraf
Digwyddiad Agored – Glannau Dyfrdwy
08/03/2023

Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i’ch helpu i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored – Llysfasi
11/03/2023

10:00

Digwyddiad Agored Llysfasi wedi’i aildrefnu ar gyfer dydd Sadwrn 18 Mawrth

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost