Mae Coleg Cambria wedi cadarnhau ei le ymhlith sefydliadau gorau’r wlad am ei waith gydag oedolion ifanc sy’n ofalwyr

Cambria oedd un o’r 10 coleg cyntaf yn y DU i ennill y dystysgrif QSCS (Safon Ansawdd mewn Cymorth i Ofalwyr) gyntaf erioed yn 2020, ac mae wedi cael ail achrediad gan y Ffederasiwn Gofalwyr. Roedd enghreifftiau o arfer dda yn cynnwys cynnig llawer o gyfleoedd i fyfyrwyr ymgysylltu a rhoi adborth; adolygiad ac ystyriaeth […]
Mae ymrwymiad Coleg Cambria i gynhwysiant, cydraddoldeb ac amrywiaeth wedi ei arwain unwaith eto at gyrraedd rowndiau terfynol gwobrau cenedlaethol o fri
Bydd y coleg – sydd wedi’i leoli yn Wrecsam, Glannau Dyfrdwy, Llysfasi a Llaneurgain – yn cystadlu yng Ngwobr y British Council am Ragoriaeth mewn Gwaith Rhyngwladol yng nghategori Beacon Sefydliad y Colegau (AoC). Cafodd Cambria eu canmol am eu gwaith ym myd addysg ar y llwyfan rhyngwladol; mae’r anrhydedd yn ymwneud ag ymweliad gan […]
Mae’r prawf yn y pwdin i bobydd talentog sy’n mwynhau bywyd yng ngheginau bwyty coleg blaenllaw

Yn dilyn ei buddugoliaeth fel Rising Star yn seremoni Gwobrau’r Diwydiant Pobi (BIA), mae Naomi Spaven yn gwneud ei marc fel prif bobydd a chef patisserie ym Mecws Iâl Coleg Cambria yn Wrecsam. Mae hi a’r pobydd a’r chef cynnyrch crwst, Ella Muddiman – cydweithiwr a enwebwyd yn yr un categori – wedi denu cwsmeriaid […]
Bu Coleg Cambria yn dathlu ymroddiad a sgiliau dysgwyr a phrentisiaid yn ei Gwobrau Myfyrwyr blynyddol

Cynhaliwyd digwyddiadau ar gyfer Addysg Bellach ac Uwch (AB ac AU) a Dysgu yn y Gwaith (DyyG) a Dysgu Oedolion a’r Gymuned (ACL) yn safle Iâl y coleg yn Wrecsam yr wythnos hon. Llywyddwyd y seremonïau gan y Prif Weithredwr Yana Williams a Cath Sullivan, Dirprwy Brif Weithredwr Pobl, Profiadau a Diwylliant dros ddwy noson. […]
Mae Darlithydd a chyn-filwr o’r Fyddin a roddodd 37 mlynedd o wasanaeth i Wobr Dug Caeredin wedi cael anrheg ymddeoliad euraidd

Cafodd Alan Lowry – sy’n gadael ei swydd fel Darlithydd Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus a Chydlynydd DofE yng Ngholeg Cambria yr haf hwn, ar ôl dros chwarter canrif gyda’r sefydliad – wahoddiad i ddathliad arbennig ym Mhalas Buckingham. Ymunodd ag enillwyr gwobrau Aur o’r coleg, ac ar draws y wlad, ar gyfer digwyddiad ar thema […]
“Mae Coleg Cambria wedi rhoi sgiliau gweithio fel tîm, bod yn drefnus a gwytnwch i ni. Mae bob sgil rydych chi wedi’i dysgu yn ystod eich amser chi yma yn hollol amhrisiadwy – cofiwch eu rhoi nhw ar waith yn eich gyrfa a’ch bywyd personol yn y dyfodol.”

Roedd geiriau’r cyn-fyfyriwr Lauren Baker yn llenwi Ysgol Fusnes Coleg Cambria Llaneurgain ddydd Gwener, wrth iddi hi ymuno â hyd at 50 o ddysgwyr sydd wedi cwblhau cymwysterau Cenedlaethol Uwch a phroffesiynol ar gyfer y seremoni raddio yn y Ganolfan Brifysgol eleni. Gwnaeth Lauren gwblhau cynllun prentisiaeth Airbus gan ymgymryd â’r BSc mewn Rheoli Busnes […]
Mae gan gôr talentog leisiau gwych ac maen nhw’n mynd o nerth i nerth ar ôl ennill cystadleuaeth ganu genedlaethol

Daeth dysgwyr Cymraeg sy’n cynrychioli Coleg Cambria yn fuddugol yn y Gystadleuaeth Côr Dysgwyr Cymraeg yn yr Eisteddfod Genedlaethol ddiweddar a gafodd ei chynnal ym Moduan, Gwynedd. Ymysg y caneuon a gafodd eu perfformio gan Gôr Cambria oedd emyn poblogaidd, Calon Lan. Bu Tim Heeley, darlithydd Cerddoriaeth yn y coleg yn llongyfarch y grŵp am […]
Mae enw mawr ei barch yn niwydiant cig Cymru yn cerfio gyrfa lwyddiannus fel asesydd a mentor i’r genhedlaeth nesaf o gigyddion

Mae Matt Edwards, o Wrecsam, yn Ymarferydd blaenllaw Dysgu yn y Gwaith ar gyfer Cigyddiaeth Coleg Cambria. Mae Matt wedi ennill medal aur yng nghystadleuaeth WorldSkills UK, dechreuodd ei yrfa yn 14 oed mewn siop gigydd leol, cyn symud ymlaen i ddod yn brentis mewn siopau sydd wedi ennill gwobrau gan gynnwys Siop Fferm Swans, […]
Dychwelodd cyn-fyfyriwr o’r coleg sydd bellach yn dilyn gyrfa lwyddiannus mewn gwleidyddiaeth i ddathlu llwyddiant dysgwyr a phrentisiaid yn y gwaith mewn seremoni wobrwyo flynyddol

Roedd AS Alun a Glannau Dyfrdwy Jack Sargeant yn westai arbennig yng Ngwobrau Myfyrwyr Coleg Cambria, lle cyflwynodd wobrau i 29 o enillwyr mewn amrywiaeth o gategorïau, o Beirianneg ac Adeiladu i Ofal Plant a Gweinyddu Busnes. Mewn araith ysbrydoledig yn adeilad yr Hafod yn Wrecsam, soniodd Jack am ei amser ei hun yn Cambria, […]
Cafodd gwytnwch a doniau dysgwyr Coleg Cambria eu dathlu yn ei seremoni gwobrau myfyrwyr blynyddol

Cafodd y digwyddiad ei gynnal ar safle Iâl y coleg yn Wrecsam, cafodd ei gynnal wyneb yn wyneb am y tro cyntaf ers pandemig Covid-19. Kimberly Wyatt oedd y gwestai arbennig, sef seren rhaglenni Got to Dance, Celebrity Masterchef, Dancing on Ice, ac aelod o’r grŵp pop merched Pussycat Dolls. “Mae’n anrhydedd ac yn fraint […]