Croeso gan y Pennaeth
Croeso i Goleg Cambria lle byddwch yn astudio mewn cyfleusterau ardderchog, gan ddefnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf, ac yn cael eich cefnogi gan staff arbenigol a fydd yn eich ysbrydoli i lwyddo. Rydym yn goleg sydd wedi ennill gwobrau sy’n annog ein holl ddysgwyr trwy ein dull cynhwysol i’ch cefnogi chi yn y ffordd orau bosibl.
Efallai eich bod yn poeni am symud o ysgol lai i goleg mawr ond byddwch yn cael cymorth bob cam o’r ffordd. Rydym yn ymfalchïo nid yn unig yn y ddarpariaeth ystafell ddosbarth a’r cymorth ychwanegol yn y dosbarth yr ydym yn eu darparu, ond hefyd y cymorth bugeiliol pwrpasol ychwanegol y byddwch yn ei gael gan eich Anogwr Cynnydd personol i sicrhau eich bod yn cyflawni eich rhaglen.
Yn y blynyddoedd diweddar rydym wedi cynyddu’r cymorth cwmpasog y tu allan i’r dosbarth i sicrhau eich bod yn cyflawni eich nodau gyda chymorth penodedig ar gyfer eich anghenion unigol gan ein staff iechyd a llesiant a’n hanogwyr gwytnwch. Byddwch yn cael cyfle i wneud ystod eang o chwaraeon a gweithgareddau llesiant am ddim trwy ein rhaglen Cambria Heini, yn ogystal â’r cyfle i gymryd rhan mewn ystod eang o glybiau Llais Myfyrwyr. Gall ein holl fyfyrwyr gael brecwast a chinio am ddim hefyd o’n mannau bwyd ar bob safle i’w helpu i gael dechrau da i’r diwrnod!
Rydym yma i’ch helpu chi i ennill y sgiliau a’r cymwysterau cywir i’ch paratoi chi ar gyfer bywyd ar ôl y coleg, p’un a ydych chi eisiau mynd ymlaen i astudio ar lefel Prifysgol, dechrau prentisiaeth neu ddechrau gyrfa wych.
Sue Price
Pennaeth
Coleg Cambria
Cawsom ein sefydlu yn 2013 ac ers hynny rydym wedi sefydlu ein hunain yn gyflym fel darparwr addysg blaenllaw yn y Deyrnas Unedig. Rydym yn un o’r colegau mwyaf yn y DU, gyda thua 6,000 o fyfyrwyr llawn amser, 20,000 o ddysgwyr rhan amser a nifer o gysylltiadau rhyngwladol.
Rydym yn cynnig amrywiaeth eang o gyrsiau llawn amser a rhan amser ar draws ein deg safle gan gynnwys, Safon Uwch, TGAU, BTEC, Cymraeg i Oedolion ac Addysg Uwch. Mae’r coleg yn gweithio mewn partneriaeth gyda dros 1,000 o gyflogwyr lleol a chenedlaethol hefyd i’ch helpu i ennill cyfleoedd prentisiaeth a hyfforddeiaeth.
Creu dyfodol mwy disglair trwy ragoriaeth mewn addysg wrth feithrin sgiliau a gwybodaeth dechnegol mewn amgylchedd cefnogol ac arloesol.
Dangos gonestrwydd ac uniondeb
Cael eich parchu a'ch gwerthfawrogi
Bod yn garedig a chefnogol
Gweithio gydag eraill
Teimlo'n gyfartal a chynhwysol
Bod yn gymuned
Bod yn rhagorol ac ysbrydoledig
Annog ac ysgogi
Bod yn frwdfrydig
Bod yn arloesol
Mae’r Uwch Dîm Arwain yn arwain y coleg i gyflawni ein gweledigaeth strategol. Maent yn hynod angerddol am rôl addysg, hyfforddiant a sgiliau fel arweinwyr datblygiad economaidd a chyfiawnder cymdeithasol yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.
Cafodd Yana swydd fel Prif Weithredwr Cambria ym mis Ionawr 2020. Cyn hyn bu’n Bennaeth a Phrif Weithredwr yng Ngholeg Hugh Baird yn Lerpwl am 8 mlynedd. Mae Yana wedi bod yn ymwneud â chefnogi’r sector Addysg Bellach ar draws nifer o gyrff lleol a chenedlaethol ers blynyddoedd lawer. Wedi ei magu yng Ngogledd Cymru, aeth Yana i’r ysgol yn yr Wyddgrug ac yna ymlaen i Brifysgol Caerdydd.
Mae Steve wedi gweithio yn Cambria ers 1994 ac mae ganddo flynyddoedd lawer o brofiad fel uwch arweinydd. Mae ganddo brofiad helaeth o arwain prosiectau strategol allweddol, cyflawni strategaeth ystad uchelgeisiol a sicrhau bod cyllid ac adnoddau digonol ar gael i gyflawni amcanion strategol Cambria. Mae Steve yn ceisio dod â gweledigaeth, ysgogiad, profiad a gwelliannau ar draws y Gwasanaethau Corfforaethol a Masnachol. Mae wedi’i hyfforddi’n broffesiynol fel cyfrifydd siartredig.
Mae Cath yn Gymrawd y Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu, gyda dros 30 mlynedd o brofiad mewn sectorau amrywiol, gan gynnwys Iechyd, Llywodraeth Leol ac Addysg. Ymunodd â Cambria ym mis Medi 2020 ar ôl bod yn Is-Bennaeth (Pobl, Datblygiad Sefydliadol a Diwylliant) yng Ngholeg Hugh Baird yn Lerpwl. Mae Cath yn atebol am swyddogaethau Adnoddau Dynol, Marchnata, Derbyniadau a Digidol, Gwasanaethau Dysgwyr, a Chanolfannau Adnoddau Dysgu.
Ymunodd Sue â Cambria fel Pennaeth yn 2016. Mae ganddi dros 25 mlynedd o brofiad yn y sector Addysg Bellach ar ôl gweithio mewn sawl coleg yng Ngogledd Orllewin Lloegr. Mae Sue hefyd wedi gweithio yn y Gwasanaeth Sifil yn y Gwasanaeth Prentisiaethau Cenedlaethol a’r Asiantaeth Ariannu Sgiliau. Mae gan Sue gefndir academaidd a galwedigaethol, mae wedi’i hyfforddi’n athrawes ac mae ganddi radd Meistr mewn Rheolaeth Addysgol.