Home > Safleoedd y Coleg > Iâl
Iâl
Croeso
Mae gan Iâl enw da ers oes ac mae’n gartref i lawer o gyrsiau galwedigaethol a phrentisiaethau. Ar ôl cael 2 ailddatblygiad gwerth miliynau o bunnoedd yn ddiweddar, mae gan Iâl gyfleusterau addysgu arbenigol, labordai gwyddoniaeth, ystafelloedd cyfrifiaduron a stiwdios celf.
Mae pob myfyriwr yn gallu cyrchu’r dechnoleg ddiweddaraf ac rydym yn annog iddynt ddefnyddio’r llyfrgell arddull prifysgol. Mae cyfleusterau diwydiannau creadigol Iâl ymhlith y gorau yn y rhanbarth.
Ymhlith y cyfleusterau mae Bwyty Iâl sy’n newydd sbon, Blodau Iâl a Salon Iâl a chafodd ei hadnewyddu’n ddiweddar.
Ein hadeilad diweddaraf ydy’r Ganolfan Ragoriaeth Gofal Iechyd a Therapïau sydd wedi’i chwblhau’n ddiweddar ar ein safle yn Iâl. Mae’r datblygiad £14m hwn yn cynnwys sba masnachol a bar iach sydd wedi’u cyfarparu’n llawn, o safon y diwydiant, gan gynnig cyfle i ddysgwyr hyfforddi ochr yn ochr â gweithwyr proffesiynol y diwydiant. Mae hefyd yn cynnwys wardiau iechyd efelychiedig ac amgylcheddau Rhith-realiti.
Taith Rithwir 360°
Os ydych chi erioed wedi bod eisiau gweld sut olwg sydd ar y safle cyn i chi ymweld neu ddechrau eich taith gyda ni, gallwch wneud hynny o gysur eich cartref eich hun. Os oes gennych benset Rhithrealiti, gallwch weld y daith mewn Rhithrealiti.
Ein Cyfleusterau
Edrychwch ar rai o’n datblygiadau newydd ac uchafbwyntiau’r safle!
Dewiswch un o’r darluniau i weld cynrychioliad 3D o’r cyfleuster hwnnw.
Os oes gennych glustffonau rhithrealiti, gallwch hefyd weld y cyfleusterau yn rhithrealiti.
Dewch o hyd i gwrs sy'n addas i chi yn Iâl
Gweld ein safleoedd eraill
Edrychwch ar ein tudalennau eraill trwy ddewis un o’r lluniau isod!
Llogi Lleoliad
Edrychwch ar ein cyfleusterau llogi lleoliad drwy glicio’r botwm isod!
Ble ydym ni
Iâl Coleg Cambria
Ffordd Parc y Gelli
Wrecsam
LL12 7AB
Ffôn
0300 30 30 007







