main logo

Technolegau Digidol, Cyfrifiadura a TG

Play Video

Pam dewis Prentisiaeth?

Dechreuwch eich gyrfa gyda phrentisiaeth i ennill cyflog wrth ddysgu.

Mae cwmnïau ledled Gogledd Cymru a thu hwnt yn recriwtio pobl ar gyfer prentisiaethau a hyfforddiant yn y sgiliau sydd eu hangen arnynt i lwyddo yn eu gyrfa.

Fel prentis byddwch chi’n ennill cyflog wrth ddysgu, ennill sgiliau, gwybodaeth, profiad a chymwysterau cydnabyddedig ar hyd y ffordd. P’un ai rydych chi rhwng 16 ac 19 oed neu’n 20 oed neu’n hŷn, gallai ystod o opsiynau prentisiaeth fod ar gael i chi.

Ar hyn o bryd mae Technolegau Digidol yn un o’r ychydig bynciau yng Nghymru y gallwch chi wneud prentisiaeth gradd ynddynt, mae’r sector hwn yn tyfu’n gyflym ac mae bob amser yn chwilio am bobl dawnus newydd!

Mae dysgwyr yn y diwydiant hwn angen llygad da am fanylion, y gallu i addasu a
gweithio fel rhan o dîm.

Mae’r cyrsiau hyn yn cael eu hasesu yn y gweithle gan ein timau sydd â phrofiad yn y diwydiant a gall fod angen rhyddhau am ddiwrnod o’r gwaith i’n safleoedd coleg Glannau Dyfrdwy neu Iâl lle bydd dysgwyr yn cael cyrchu cyfleusterau a thechnoleg o’r radd flaenaf i helpu eu dysgu.

Y Prentisiaethau rydym yn eu cynnig

Rydym yn cynnig hyfforddiant prentisiaeth technolegau digidol ar Lefel 2, 3 a 4 yn ogystal â lefel gradd.

I gael rhagor o wybodaeth am y cyrsiau prentisiaeth hyn ewch i’n tudalen Cyrsiau Digidol i Oedolion.

Karol Gorzym

Karol Gorzym

Wedi astudio – Lefel 3 mewn Meddalwedd TG, Gwe a Thelathrebu ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol

Erbyn hyn – Gweithio ym Maelor Foods

“Dwi wedi dysgu cymaint drwy gwblhau’r cymhwyster hwn, dwi wedi llenwi’r holl fylchau gwybodaeth TG, yn enwedig am rwydweithiau a rhwydweithio.

“Dwi wedi ennill rhagor o sgiliau, wedi bod yn fwy proffesiynol, ac wedi cael codiad cyflog hyd yn oed ers i mi orffen y cymhwyster!”

Dangos rhagor
frankie - Yale 6 (1)

Frankie McCamley

Wedi astudio – Cyrsiau Safon Uwch Saesneg, Drama, Mathemateg a Ffrangeg

Erbyn hyn – Cyflwynydd a Gohebydd Newyddion ar gyfer y BBC. 

“Doeddwn i ddim yn siŵr beth oedd gen i eisiau ei wneud yn y dyfodol felly fe wnes i ddewis amrywiaeth o bynciau Safon Uwch i’w astudio. Fe gefais i’r hyder a’r sgiliau’r oedd eu hangen i symud ymlaen i’r brifysgol wrth astudio yn Chweched Iâl a dwi’n Gyflwynydd a Gohebydd Newyddion erbyn hyn. Mi wnes i ffrindiau arbennig yno, roedd gen i athrawon gwych y bydda i’n eu cofio am byth a chefais amser gwych yn Wrecsam!

“Mae gen i atgofion hyfryd o fy amser yn Iâl y gwna i fyth eu hanghofio!”

Dangos rhagor

Lefel 2 mewn Gweithiwr Proffesiynol TG

Gofynion Mynediad – Cyflogaeth mewn diwydiant perthnasol

Hyd Arferol – 18 mis

Dull Astudio ac Asesu – Yn y gwaith

Lleoliad – Gweithle

Lefel 2 mewn Defnyddiwr TG

Gofynion Mynediad – Cyflogaeth mewn diwydiant perthnasol

Hyd Arferol – 18 mis

Dull Astudio ac Asesu – Yn y gwaith

Lleoliad – Gweithle

 

Lefel 3 mewn Gweithiwr Proffesiynol TG

Gofynion Mynediad – Cyflogaeth mewn diwydiant perthnasol

Hyd Arferol – 18 mis

Dull Astudio ac Asesu – Yn y gwaith

Lleoliad – Gweithle

Lefel 3 mewn Defnyddiwr TG

Gofynion Mynediad – Cyflogaeth mewn diwydiant perthnasol

Hyd Arferol – 18 mis

Dull Astudio ac Asesu – Yn y gwaith

Lleoliad – Gweithle

Lefel 4 mewn Gweithiwr Proffesiynol TG

Gofynion Mynediad – Cyflogaeth mewn diwydiant perthnasol

Hyd Arferol – 24 mis

Dull Astudio ac Asesu – Yn y gwaith

Lleoliad – Gweithle

Prentisiaeth Gradd Ddigidol Seiber Ddiogelwch Gymhwysol

Gofynion Mynediad – Cyflogaeth mewn diwydiant perthnasol

Hyd Arferol – 3 blynedd

Dull Astudio ac Asesu – Yn y gwaith a diwrnod rhyddhau o’r gwaith

Lleoliad – Iâl

Prentisiaeth Gradd Ddigidol Gwyddor Data Cymhwysol

Gofynion Mynediad – Cyflogaeth mewn diwydiant perthnasol – Asesir fesul achos

Hyd Arferol – 3 blynedd

Dull Astudio ac Asesu – Yn y gwaith a diwrnod rhyddhau o’r gwaith

Lleoliad – Iâl

Prentisiaeth Gradd Ddigidol Peirianneg Meddalwedd Cymhwysol

Gofynion Mynediad – Cyflogaeth mewn diwydiant perthnasol – Asesir fesul achos

Hyd Arferol – 3 blynedd

Dull Astudio ac Asesu – Yn y gwaith a diwrnod rhyddhau o’r gwaith

Lleoliad – Iâl

Siaradwch â'r tîm

Os ydych yn chwilio am brentisiaeth, cysylltwch â ni heddiw!

mobile phone svg

Cysylltwch â ni

0300 30 30 006

mail svg

Cyfeiriad e-bost

Cyrsiau Digidol i Oedolion

Ydych chi eisiau ennill sgiliau newydd, uwchsgilio, newid gyrfa neu ddychwelyd i waith?
Ymweld â'n horiel
Dewch i edrych o gwmpas i weld yn union sut beth yw astudio gyda ni yn Cambria.
Neu edrychwch o gwmpas ein safleoedd coleg trwy ymweld yma .
Previous slide
Next slide
Astudiaethau Achos
Hairdresser, Kimberly Jones taking a hero shot at her salon looking at the camera

Kimberly Jones

“Yn ystod fy mhrentisiaeth roeddwn yn cael yr hyfforddiant yn ogystal â chael fy nhalu. Mae’n agor eich llygaid i’r amgylchedd gwaith ac yn eich paratoi ar gyfer eich dyfodol.

Dwi’n meddwl bod cael y cyfle i wneud prentisiaeth fel person aeddfed yn wych.”

Dangos Rhagor
A hairdressing student cutting someone's hair in a salon

Jane Moore

“Yn ystod fy mhrentisiaeth roeddwn yn cael yr hyfforddiant yn ogystal â chael fy nhalu. Mae’n agor eich llygaid i’r amgylchedd gwaith ac yn eich paratoi ar gyfer eich dyfodol.

Dwi’n meddwl bod cael y cyfle i wneud prentisiaeth fel person aeddfed yn wych.”

Dangos Rhagor
A Construction Apprentice in their office looking towards the camera with plans on the stand up table below her

Alice Stansford

“Yn ystod fy mhrentisiaeth roeddwn yn cael yr hyfforddiant yn ogystal â chael fy nhalu. Mae’n agor eich llygaid i’r amgylchedd gwaith ac yn eich paratoi ar gyfer eich dyfodol.

Dwi’n meddwl bod cael y cyfle i wneud prentisiaeth fel person aeddfed yn wych.”

Dangos Rhagor
Chwilio am brentisiaeth? Cymerwch gip ar ein Siop Swyddi i weld y prentisiaethau gwag!
Chwilio am ragor o wybodaeth am Wasanaeth Prentisiaethau Gwag Llywodraeth Cymru!

Cyflogwyr yr ydym yn gweithio â nhw

Tudalen Pynciau Llawn Amser

Gwybodaeth am y Cyflogwr

Digwyddiadau Diweddaraf
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llysfasi
11/04/2024

17:30

Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.