main logo

CYRSIAU DIGIDOL A TG I OEDOLION

PLA

Dewch i ddatblygu eich sgiliau technegol! Bydd ein cyrsiau digidol, cyfrifiadura a TG yn eich arfogi chi gyda’r wybodaeth a’r arbenigedd sydd eu hangen arnoch chi i ffynnu mewn gweithle modern.

Yn ein byd digidol sy’n symud yn gyflym, mae cadw ar y blaen yn golygu datblygu eich sgiliau yn gyson. P’un ai eich bod chi eisiau dechrau gyrfa newydd, datblygu yn eich swydd bresennol, uwchsgilio, neu ddychwelyd i waith, mae ein hystod o gyrsiau digidol yng Ngholeg Cambria wedi’u dylunio’n arbennig ar eich cyfer chi.

Mae ein cyrsiau, wedi’u teilwra ar gyfer dysgwyr sy’n oedolion, yn amrywio o lythrennedd digidol sylfaenol i gyfrifiadura uwch, gan sicrhau bod rhywbeth at ddant pawb. Gallwch chi ddysgu codio, seiberddiogelwch, rhaglenni meddalwedd, a rhagor gyda hyfforddwyr profiadol.

Cofrestrwch rŵan a buddsoddwch yn eich dyfodol – mae’r dechnoleg yn aros amdanoch chi!

I gael rhagor o wybodaeth am PLA a sut i wneud cais, gweler y dudalen PLA.

Anfonwch E-bost atom ni

Tystysgrif Ryngwladol Llythrennedd Digidol (ICDL)

Mae’r cymhwyster ICDL (ECDL gynt), yn hyfforddiant parod sy’n darparu cymwysterau achrededig. Mae tair lefel ICDL.

Cyrsiau ICDL

Caiff y cymhwyster ei gyflwyno mewn modd hyblyg ar ffurf gweithdy, sy’n canolbwyntio ar y dysgwr. Bydd dysgwyr yn dysgu ar eu cyflymder a’u lefel gallu eu hunain, trwy ddeunyddiau electronig a/neu brint. Mae tiwtor wrth law bob amser yn ystod y sesiynau i roi arweiniad a chymorth. Gall dysgwyr ymuno â’r cwrs a’i adael unrhyw bryd yn ôl y galw ac yn ôl eu gwybodaeth a’u lefelau gallu.

Pob Cwrs Digidol i Oedolion

Cyrsiau Diwrnod/Hanner Diwrnod

Cyrsiau Byrion

Cyrsiau Hir

Cyrsiau Byr

Prentisiaethau a Phrentisiaethau Gradd

Siaradwch â'r tîm

Ffoniwch neu anfonwch e-bost at ein tîm heddiw am ragor o wybodaeth.

mobile phone svg

Cysylltwch â ni

0300 30 30 007

mail svg

E-bost