Busnes, Rheoli ac Arwain

Pam Dewis Prentisiaeth?

Dechreuwch eich gyrfa gyda phrentisiaeth i ennill cyflog wrth ddysgu.

Mae cwmnïau ledled Gogledd Cymru a thu hwnt yn recriwtio pobl ar gyfer prentisiaethau a hyfforddiant yn y sgiliau sydd eu hangen arnynt i lwyddo yn eu gyrfa.

Fel prentis byddwch chi’n ennill cyflog wrth ddysgu, ennill sgiliau, gwybodaeth, profiad a chymwysterau cydnabyddedig ar hyd y ffordd. P’un ai rydych chi rhwng 16 ac 19 oed neu’n 20 oed neu’n hŷn, gallai ystod o opsiynau prentisiaeth fod ar gael i chi.

Os ydych chi’n gweithio ym maes rheoli ac eisiau cymhwyster i brofi eich sgiliau, gall Prentisiaeth mewn rheoli gael ei deilwra i fod yn addas i’ch gweithle ac amrywiaeth anferth o ddiwydiannau i bobl â phob lefel o brofiad.

Bydd dysgwyr yn gweithio tuag at gwblhau cymhwyster Sefydliad Arwain a Rheoli (ILM) trwy asesiad yn y gwaith a chael y cyfle i fynd i hyfforddiant dosbarth yn ein Hysgol Fusnes Cambria i hybu sgiliau a gwybodaeth y gellir eu defnyddio mewn tasgau rheoli o ddydd i ddydd.

Mae angen i ddysgwyr sy’n cwblhau’r cymwysterau hyn fod yn llawn cydymdeimlad, yn drefnus a bod â sgiliau cyfathrebu ardderchog.

Y Prentisiaethau Rydym yn eu Cynnig

Rydym yn cynnig hyfforddiant prentisiaeth lefel 2,3,4 a 5 mewn rheoli.

Diploma Lefel 2 ILM mewn Arwain Tîm 

Gofynion Mynediad – Cyflogaeth mewn diwydiant perthnasol

Hyd arferol – 15 mis

Dull Astudio ac Asesu – Rhyddhau o’r gwaith am ddiwrnod (dewisol) ac asesiad yn y gwaith

Lleoliad – Y Gweithle ac Ysgol Fusnes Cambria (dewisol)

Diploma Lefel 3 ILM mewn Rheoli

Gofynion Mynediad – Cyflogaeth mewn diwydiant perthnasol

Hyd arferol – 17 mis

Dull Astudio ac Asesu – Rhyddhau o’r gwaith am ddiwrnod (dewisol) ac asesiad yn y gwaith

Lleoliad – Y Gweithle ac Ysgol Fusnes Cambria (dewisol)

Diploma Lefel 4 ILM mewn Arwain a Rheoli 

Gofynion Mynediad – Cyflogaeth mewn diwydiant perthnasol

Hyd arferol – 18 mis

Dull Astudio ac Asesu – Rhyddhau o’r gwaith am ddiwrnod ac asesiad yn y gwaith

Lleoliad – Y Gweithle ac Ysgol Fusnes Cambria

Diploma Lefel 5 ILM mewn Arwain a Rheoli 

Gofynion Mynediad – Cyflogaeth mewn diwydiant perthnasol

Hyd arferol – 21 mis

Dull Astudio ac Asesu – Rhyddhau o’r gwaith am ddiwrnod ac asesiad yn y gwaith

Lleoliad – Y Gweithle ac Ysgol Fusnes Cambria

Photo of April Wilkinson wearing TATA Steel safety wear  stading outside of on  of their buildings

April Wilkinson

Wedi astudio – Lefel 5 mewn Arwain a Rheoli 

Erbyn hyn – Rheolwr Technegol yn Tata Steel

Er fy mod i wedi rheoli pobl ers nifer o flynyddoedd, doedd gen i ddim unrhyw gymwysterau rheoli ffurfiol. Roeddwn i eisiau gwneud y cymhwyster yma oherwydd bod staff a oedd yn atebol i mi yn cychwyn ar y cymhwyster Lefel 4, felly roeddwn i’n meddwl y byddai’n dda gwneud hyn ar yr un pryd.

“Fe wnes i ddysgu offer newydd y galla’ i eu defnyddio yn y gweithle a wnaeth fy helpu i ystyried a deall sut mae unigolion yn perfformio fel rhan o dîm, ac oherwydd bod yr elfen NVQ yn cael ei chyflwyno yn y swydd fe helpodd fi i adfyfyrio ar y gweithgareddau yr ydw i’n eu perfformio o ddydd i ddydd yn fy swydd.

“Erbyn hyn dwi’n Rheolwr Technegol yn Tata Steel a dwi’n ystyried opsiynau ar gyfer astudio gradd mewn Arwain a Rheoli.”

Dangos Rhagor
Level 5 management apprentice Gwen Thomas

Gwen Thomas

Wedi astudio –Lefel 5 ILM mewn Arwain a Rheoli

Erbyn hyn – Rheolwr Cludiant Strategol ar Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Roeddwn i eisiau astudio tuag at gymhwyster ILM gan fy mod i mewn swydd rheoli ond does gen i ddim cymhwyster, dwi’n ei weld yn ddiddorol iawn hefyd.
Mae’r cwrs yn darparu sgiliau ymarferol i wella fy ngwaith.

Mae Coleg Cambria wedi bod yn wych o ran y sesiynau dan arweiniad tiwtor a chymorth dysgu yn y gwaith.

Fel siaradwr Cymraeg mae wedi bod yn ddefnyddiol iawn gallu cyflwyno fy holl aseiniadau i fy nhiwtor yn Gymraeg. Mae gwneud fy ngwaith yn Gymraeg wedi bod yn ffordd dda i mi ymarfer fy sgiliau ysgrifennu Cymraeg yn ogystal ag ehangu fy ngeirfa.

 

Dangos Rhagor

Siaradwch â'r tîm

Os ydych yn chwilio am brentisiaeth, cysylltwch â ni heddiw!

mobile phone svg

Cysylltwch â ni

0300 30 30 006

mail svg

Cyfeiriad e-bost

Ymweld â'n horiel
Dewch i edrych o gwmpas i weld yn union sut beth yw astudio gyda ni yn Cambria.
Neu edrychwch o gwmpas ein safleoedd coleg trwy ymweld yma .
Astudiaeth Achos
April Wilkinson

April Wilkinson
Rheolwr Technegol yn Tata Steel

Er fy mod i wedi rheoli pobl am nifer o flynyddoedd, doedd gen i ddim cymwysterau rheoli ffurfiol. Roeddwn i eisiau gwneud y cymhwyster hwn oherwydd roedd y staff roeddwn i’n rheolwr arnyn nhw yn dechrau’r cymhwyster Lefel 4, felly roeddwn i’n meddwl y byddai’n dda i mi wneud y cymhwyster hwn ar yr un pryd. 

Gwnes i ddysgu sgiliau newydd er mwyn i fi eu rhoi ar waith yn y gweithle, mae hyn wedi fy helpu i ystyried a deall sut mae unigolion yn perfformio fel rhan o dîm. Roedd yr elfen NVQ yn cael ei gyflwyno yn y swydd felly gwnaeth hynny fy helpu i adfyfyrio ar y gweithgareddau dwi’n eu gwneud yn fy swydd o ddydd i ddydd.

Erbyn hyn dwi’n Rheolwr Technegol yn Tata Steel a dwi’n ystyried opsiynau ar gyfer astudio gradd mewn Arwain a Rheoli.

Dangos Rhagor
A hairdressing student cutting someone's hair in a salon

Jane Moore

“During my apprenticeship I was getting the training as well as getting paid. It opens your eyes up to the working environment and gets you ready for your future.

I think it’s brilliant to have the opportunity to do an apprenticeship as a mature person.”

Dangos Rhagor
A Construction Apprentice in their office looking towards the camera with plans on the stand up table below her

Alice Stansford

“During my apprenticeship I was getting the training as well as getting paid. It opens your eyes up to the working environment and gets you ready for your future.

I think it’s brilliant to have the opportunity to do an apprenticeship as a mature person.”

Dangos Rhagor
Chwilio am brentisiaeth? Cymerwch gip ar ein Siop Swyddi i weld y prentisiaethau gwag!
Chwilio am ragor o wybodaeth am Wasanaeth Prentisiaethau Gwag Llywodraeth Cymru!

Y Cyflogwyr Rydym yn Gweithio Gyda Nhw

Tudalen Pynciau Llawn Amser

Gwybodaeth i'r Cyflogwr

Digwyddiadau Diweddaraf
Digwyddiad Agored – Iâl a Chweched Iâl
12/11/2025

17:30

Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i’ch helpu chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
06/11/2025

17:30

Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.