main logo

Adeiladu a Gwasanaethau Adeiladau

Play Video

Pam Dewis Prentisiaeth?

Dechreuwch eich gyrfa gyda phrentisiaeth i ennill cyflog wrth ddysgu.

Mae cwmnïau ledled Gogledd Cymru a thu hwnt yn recriwtio pobl ar gyfer prentisiaethau a hyfforddiant yn y sgiliau sydd eu hangen arnynt i lwyddo yn eu gyrfa.

Fel prentis byddwch chi’n ennill cyflog wrth ddysgu, ennill sgiliau, gwybodaeth, profiad a chymwysterau cydnabyddedig ar hyd y ffordd. P’un ai rydych chi rhwng 16 ac 19 oed neu’n 20 oed neu’n hŷn, gallai ystod o opsiynau prentisiaeth fod ar gael i chi.

Mae sector adeiladu’r DU yn ddiwydiant sydd werth biliynau o bunnoedd ac mae prentisiaid adeiladu yn rhan enfawr o’r gweithlu ar draws disgyblaethau adeiladu amrywiol.

Mae’r sector hwn yn gyfle gwych i ddysgwyr y mae’n well ganddynt fod yn ymarferol yn eu gwaith a gall arwain at swyddi rheoli a thechnegol mewn swyddfa.

Bydd Prentisiaid Adeiladu yn treulio amser yn ein cyfleusterau o’r radd flaenaf a adnewyddwyd yn ddiweddar yn ein safleoedd yng Nglannau Dyfrdwy neu Ffordd y Bers i gael eu rhyddhau am y dydd o’r gwaith neu i gael eu hasesu yn ogystal â chael eu hasesu ar y safle gan ein timau asesu sydd â phrofiad yn y diwydiant.

Efallai y bydd myfyrwyr sydd am astudio tuag at gymhwyster crefftau adeiladu, plymwaith neu osod trydan yn gallu cwtogi hyd y rhaglen os ydynt wedi cwblhau blwyddyn sylfaen yn llawn amser yn y coleg.

Mae angen i gyflogwyr crefft ac adeiladu gynnwys ystod eang o waith yn eu maes i fodloni gofynion tystiolaeth y cymhwyster.

Bydd gofyn i brentisiaid sy’n astudio cymhwyster adeiladu wneud cymysgedd o dasgau corfforol ar y safle yn y gweithle a bydd angen iddynt fod yn fanwl gywir yn eu gwaith.

Y Prentisiaethau Rydym yn eu Cynnig

Rydym yn cynnig hyfforddiant prentisiaeth lefel 3 mewn crefftau adeiladu, plymwaith a gosod trydan.

Lefel 3 mewn Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu – Gosod Electrodechnegol  

Gofynion Mynediad – Cyflogaeth mewn diwydiant perthnasol,  TGAU A-C (9-4) mewn Mathemateg, Saesneg a Phwnc Technegol*

Hyd Arferol – 48 mis

Dull Astudio ac Asesu – Asesiad yn y gwaith a rhyddhau o’r gwaith am ddiwrnod

Lleoliad – Glannau Dyfrdwy a Ffordd y Bers

Lefel 3 mewn Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu – Crefftwr Gosodiadau Gwresogi ac Awyru 

Gofynion Mynediad – Cyflogaeth mewn diwydiant perthnasol, TGAU A-C (9-4) mewn Mathemateg, Saesneg a Phwnc Technegol*

Hyd Arferol – 48 mis

Dull Astudio ac Asesu – Asesiad yn y gwaith a rhyddhau o’r gwaith am ddiwrnod

Lleoliad – Glannau Dyfrdwy

Lefel 3 mewn Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu – Plymwaith a Gwresogi

Gofynion Mynediad – Cyflogaeth mewn diwydiant perthnasol, TGAU A-C (9-4) mewn Mathemateg, Saesneg a Phwnc Technegol*

Hyd Arferol – 48 mis

Dull Astudio ac Asesu – Asesiad yn y gwaith a rhyddhau o’r gwaith am ddiwrnod

Lleoliad – Glannau Dyfrdwy a Ffordd y Bers

Lefel 3 mewn Adeiladu – Saernïaeth Bensaernïol

Gofynion Mynediad – Cyflogaeth mewn diwydiant perthnasol, TGAU A-D (9-3) mewn Mathemateg, Saesneg a Phwnc Technegol*

Hyd Arferol – 36 mis

Dull Astudio ac Asesu – Asesiad yn y gwaith a rhyddhau o’r gwaith am ddiwrnod

Lleoliad – Glannau Dyfrdwy a Ffordd y Bers

Lefel 3 mewn Adeiladu – Gwaith Saer ar Safle

Gofynion Mynediad – Cyflogaeth mewn diwydiant perthnasol, TGAU A-D (9-3) mewn Mathemateg, Saesneg a Phwnc Technegol*

Hyd Arferol – 36 mis

Dull Astudio ac Asesu – Asesiad yn y gwaith a rhyddhau o’r gwaith am ddiwrnod

Lleoliad – Glannau Dyfrdwy a Ffordd y Bers

Lefel 3 mewn Adeiladu – Gosod Brics 

Gofynion Mynediad – Cyflogaeth mewn diwydiant perthnasol, TGAU A-D (9-3) mewn Mathemateg, Saesneg a Phwnc Technegol*

Hyd Arferol – 42 mis

Dull Astudio ac Asesu – Asesiad yn y gwaith a rhyddhau o’r gwaith am ddiwrnod

Lleoliad – Glannau Dyfrdwy a Ffordd y Bers

Lefel 3 mewn Adeiladu – Plastro Soled

Gofynion Mynediad – Cyflogaeth mewn diwydiant perthnasol, TGAU A-D (9-3) mewn Mathemateg, Saesneg a Phwnc Technegol*

Hyd Arferol – 42 mis

Dull Astudio ac Asesu – Asesiad yn y gwaith a rhyddhau o’r gwaith am ddiwrnod

Lleoliad – Ffordd y Bers

Lefel 3 mewn Adeiladu – Paentio ac Addurno

Gofynion Mynediad – Cyflogaeth mewn diwydiant perthnasol, TGAU A-D (9-3) mewn Mathemateg, Saesneg a Phwnc Technegol*

Hyd Arferol – 36 mis

Dull Astudio ac Asesu – Asesiad yn y gwaith a rhyddhau o’r gwaith am ddiwrnod

Lleoliad – Ffordd y Bers

*Er enghraifft – gwyddoniaeth neu dechnoleg ddylunio

Siaradwch â'r tîm

Os rydych yn chwilio am brentisiaeth, cysylltwch â ni heddiw!

mobile phone svg

Cysylltwch â ni

0300 30 30 006

mail svg

Cyfeiriad e-bost

Ymweld â'n horiel
Dewch i edrych o gwmpas i weld yn union sut beth yw astudio gyda ni yn Cambria.
Neu edrychwch o gwmpas ein safleoedd coleg trwy ymweld yma .
Previous slide
Next slide
Astudiaethau Achos
Hairdresser, Kimberly Jones taking a hero shot at her salon looking at the camera

Kimberly Jones

“During my apprenticeship I was getting the training as well as getting paid. It opens your eyes up to the working environment and gets you ready for your future.

I think it’s brilliant to have the opportunity to do an apprenticeship as a mature person.”

Dangos Rhagor
A hairdressing student cutting someone's hair in a salon

Jane Moore

“During my apprenticeship I was getting the training as well as getting paid. It opens your eyes up to the working environment and gets you ready for your future.

I think it’s brilliant to have the opportunity to do an apprenticeship as a mature person.”

Dangos Rhagor
A Construction Apprentice in their office looking towards the camera with plans on the stand up table below her

Alice Stansford

“During my apprenticeship I was getting the training as well as getting paid. It opens your eyes up to the working environment and gets you ready for your future.

I think it’s brilliant to have the opportunity to do an apprenticeship as a mature person.”

Dangos rhagor
Chwilio am brentisiaeth? Cymerwch gip ar ein Siop Swyddi i weld y prentisiaethau gwag!
Chwilio am ragor o wybodaeth am Wasanaeth Prentisiaethau Gwag Llywodraeth Cymru!

Y Cyflogwyr Rydym yn Gweithio gyda Nhw

The Magellan Aerospace logo
The Electroimpact logo
The Flintshire County Council Logo

Tudalen Pynciau Llawn Amser

Gwybodaeth am y Cyflogwr

Digwyddiadau Diweddaraf
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llysfasi
11/04/2024

17:30

Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.