Technoleg Ddigidol - Lefel A

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LA16217
Lleoliad
Iâl
Hyd
Llawn Amser, Mae’r cynnwys UG yn cael ei addysgu ym mlwyddyn gyntaf yr astudio.
Mae’r cynnwys Safon Uwch yn cael ei addysgu yn ail flwyddyn yr astudio.
Adran
Cyrsiau Safon Uwch
Dyddiad Dechrau
01 Sep 2026
Dyddiad gorffen
19 Jun 2027

Trosolwg o’r Cwrs

Ydych chi'n barod i neidio i fyd cyffrous technolegau digidol? Bydd y cwrs hwn yn eich arfogi â'r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen arnoch chi i ffynnu yn y diwydiant technoleg cyflym a newidiol. P'un a ydych chi'n ddatrysydd problemau creadigol neu'n feddyliwr rhesymegol, byddwch chi'n datblygu'r gallu i feddwl yn arloesol, yn ddadansoddol ac yn feirniadol.

Beth Fyddwch chi'n ei Ddysgu
Mae'r cwrs Safon Uwch hwn wedi'i gynllunio i'ch helpu i ddatblygu'r sgiliau sydd mewn galw mawr yn y proffesiwn TG. Byddwch chi'n dysgu sut i gymhwyso'ch gwybodaeth a'ch dealltwriaeth o TGCh mewn amrywiaeth o gyd-destunau i ddatrys problemau yn y byd go iawn.

Blwyddyn 1: Eich Sylfaen Ddigidol
Yn eich blwyddyn gyntaf, byddwch chi’n archwilio sut i ddefnyddio TGCh i ddatrys problemau a deall cyfleoedd ac effeithiau technoleg yn y byd heddiw. Byddwch chi’n cael profiad ymarferol gydag amrywiaeth o feddalwedd i greu atebion ar gyfer heriau sy'n gysylltiedig â busnes. Dyma lle byddwch chi'n adeiladu eich sgiliau craidd.

Blwyddyn 2: Dod yn Arloeswr Digidol
Yn eich ail flwyddyn, byddwch chi’n astudio cysyniadau allweddol TGCh yn yr 21ain ganrif. Dyma eich cyfle i feithrin sgiliau ymarferol fel gweithio cydweithredol a rheoli prosiectau, sy'n hanfodol yn y proffesiwn TG. Gallwch chi hyd yn oed ganolbwyntio ar feysydd TGCh sydd fwyaf diddorol i chi, gan ddefnyddio eich sgiliau newydd fel man dechrau ar gyfer cymwysterau pellach neu yrfa.
5 TGAU gradd C/4 neu uwch gan gynnwys Saesneg Iaith / Cymraeg (Iaith Gyntaf) a Mathemateg

Yng Ngholeg Cambria rydyn ni’n eich annog chi i wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau fydd eich canlyniadau y mwyaf o ddewisiadau fydd gennych chi a gallai hynny arwain at ddechrau cwrs lefel uwch.
Bydd eich cynnydd yn cael ei asesu drwy gyfuniad o arholiadau ysgrifenedig allanol a gwaith ymarferol mewnol. Byddwch chi’n cwblhau papurau ysgrifenedig ar gyfer Unedau 1 a 3 o dan amodau arholiad, ac ar gyfer Unedau 2 a 4, byddwch chi’n cynhyrchu adroddiad yn seiliedig ar eich gwaith ymarferol ac ymchwiliadau. Byddwn ni hefyd yn cynnal arholiadau ffug mewnol i roi ymarfer gwerthfawr i chi mewn amgylchedd arholiad realistig.
Gyda’r cymhwyster hwn, byddwch chi’n barod i ddilyn addysg uwch neu neidio’n syth i un o’r nifer o feysydd galwedigaethol sy’n dod i’r amlwg mewn TGCh. Mae’r diwydiant technoleg yn faes enfawr gydag amrywiaeth eang o gyfleoedd swyddi, ac mae bron pob diwydiant yn defnyddio TGCh mewn rhyw ffordd. Gallech chi weithio ym maes dylunio, datblygu, gosod, neu gynnal a chadw, dim ond i enwi rhai o’r posibiliadau.
Lawrlwythiadau Defnyddiols

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llaneurgain
14/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llysfasi
07/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i’ch helpu i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
13/11/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/11/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost