Cymraeg (Iaith Gyntaf) - Lefel A

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LA10342
Lleoliad
Iâl
Hyd
Llawn Amser, Mae’r cynnwys UG yn cael ei addysgu ym mlwyddyn gyntaf yr astudio.
Mae’r cynnwys Safon Uwch yn cael ei addysgu yn ail flwyddyn yr astudio.
Adran
Cyrsiau Safon Uwch
Dyddiad Dechrau
01 Sep 2026
Dyddiad gorffen
19 Jun 2027

Trosolwg o’r Cwrs

Barod i gymryd eich cam nesaf i feistroli'r iaith Gymraeg? Bydd y cwrs Safon Uwch hwn yn caniatáu i chi archwilio'r pwnc yn fanwl iawn, gan ddatblygu eich gallu i ddefnyddio'r Gymraeg at ddibenion ymarferol a chael cywirdeb yn yr iaith. Byddwch chi’n archwilio diwylliant a hanes Cymru drwy astudio llenyddiaeth, ffilm, barddoniaeth a rhagor.

Beth Fyddwch chi'n ei Ddysgu
Yn y cwrs hwn, byddwch chi’n cael eich annog i ddarllen yn eang a dysgu gweithiau llenyddol penodol yn drylwyr. Byddwch chi’n datblygu'r gallu i ymateb i lenyddiaeth a deunyddiau diwylliannol amlgyfrwng cyfoes, gan eich helpu i werthfawrogi treftadaeth ddiwylliannol Cymru yn ddyfnach.
5 TGAU gradd C/4 neu uwch gan gynnwys Saesneg Iaith / Cymraeg (Iaith Gyntaf) a Mathemateg, ynghyd â’r meini prawf canlynol:

TGAU Cymraeg iaith gyntaf gradd B/6 neu uwch

Yng Ngholeg Cambria rydyn ni’n eich annog chi i wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau fydd eich canlyniadau y mwyaf o ddewisiadau fydd gennych chi a gallai hynny arwain at ddechrau cwrs lefel uwch.
Y flwyddyn UG (Y flwyddyn gyntaf o astudio)

Mae tri maes astudio yn seiliedig ar yr asesiadau craidd sef siarad, darllen, gwrando ac ysgrifennu:
CA1: Arholiad siarad yn seiliedig ar y ffilm Gymraeg “Hedd Wyn” a drama Gymraeg dewisol, gan weithio mewn grŵp o 2-3 yn profi eich astudiaeth o’r ffilm a’r ddrama.
CA2: Gwaith cwrs:. Mae hwn wedi’i gynllunio i ddatblygu eich sgiliau ysgrifennu’n greadigol, er enghraifft ysgrifennu stori fer, pennod gyntaf nofel, dyddiadur, monolog a chyfres o flogiau.
CA3: Arholiad ysgrifenedig yn seiliedig ar ramadeg a barddoniaeth. Byddwch chi’n ymateb i gwestiynau sy’n profi eich dealltwriaeth o ramadeg. Byddwch chi hefyd yn ysgrifennu am gerddi’r ugeinfed ganrif a’r unfed ganrif ar hugain a astudiwyd yn y dosbarth.

Yn yr ail flwyddyn o astudio mae tair uned i’w cwblhau.
CA4: Arholiad sy’n seiliedig ar astudiaeth o nofel Gymraeg: Un Nos Ola Leuad, Dan Gadarn Goncrit, Martha, Jac a Sianco neu Blasu. Bydd myfyrwyr yn cymryd rhan mewn arholiad siarad mewn grwpiau ac yn ymateb i gwestiynau sy’n profi eu gwybodaeth am y nofel a ddewiswyd.
CA5: Arholiad ysgrifenedig 2 awr sy’n profi’r meysydd canlynol: Rhyddiaith ganoloesol a barddoniaeth ganoloesol gynnar.
CA6: Arholiad ysgrifenedig 2 awr ar werthfawrogi llenyddiaeth Gymraeg.
Mae astudio’r Gymraeg yn fantais sylweddol ar gyfer unrhyw yrfa yng Nghymru. Mae cyflogwyr yn chwilio fwyfwy am gymwysterau yn y Gymraeg. Bydd y cwrs hwn yn eich arfogi â rhinweddau hynod ddymunol ar gyfer darpar gyflogwyr, fel dychymyg, hunanddisgyblaeth, a sgiliau cyfathrebu cryf.

Ar ôl cwblhau, byddwch chi wedi’ch paratoi i ddilyn:
* Addysgu
* Cyfieithu
* Cyfieithu ar y Pryd
* Gweithio gyda busnesau sydd angen cyfathrebu yn y Gymraeg

Mae cymhwyster iaith yn cyfuno’n dda ag unrhyw bwnc arall, ac mae mwy o sefydliadau addysg uwch yn cynnig cyfleoedd i barhau ag astudiaethau iaith.
Lawrlwythiadau Defnyddiols

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llaneurgain
14/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llysfasi
07/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i’ch helpu i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
13/11/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/11/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost