Cymraeg (Ail Iaith) - Lefel A

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LA00060
Lleoliad
Iâl
Hyd
Llawn Amser, Mae’r cynnwys UG yn cael ei addysgu ym mlwyddyn gyntaf yr astudio.
Mae’r cynnwys Safon Uwch yn cael ei addysgu yn ail flwyddyn yr astudio.
Adran
Cyrsiau Safon Uwch
Dyddiad Dechrau
01 Sep 2026
Dyddiad gorffen
19 Jun 2027

Trosolwg o’r Cwrs

Yn barod i wella eich cysylltiad â diwylliant Cymru a’ch sgiliau cyfathrebu? Mae'r cwrs Cymraeg Safon Uwch (Ail Iaith) hwn wedi'i gynllunio ar gyfer dysgwyr llawn amser sy'n awyddus i astudio'r Gymraeg ar gyfer Safon UG a Safon Uwch. Mae'n berffaith os ydych chi wedi cwblhau'r cwrs TGAU mewn Cymraeg fel Ail Iaith, neu os oes gennych chi ddiddordeb brwd mewn diwylliant Cymru, gan gynnwys ffilm, barddoniaeth a hanes.

Beth fyddwch chi'n ei brofi
Mae'r cwrs hwn yn ymwneud â’ch helpu chi i ymgysylltu â'r Gymraeg gyda brwdfrydedd a hyder. Byddwch chi'n dysgu cyfathrebu'n rhugl ac yn gywir, ar lafar ac yn ysgrifenedig, ar draws amrywiaeth o sefyllfaoedd. Byddwch hefyd yn datblygu eich sgiliau ysgrifennu creadigol a ffeithiol ac yn dysgu dadansoddi testunau cyfarwydd a newydd yn annibynnol. Byddwch yn barod i fynegi eich safbwyntiau yn eglur a hyderus gan chwarae rôl weithgar mewn cymdeithas ddwyieithog.
Rydym yn annog darllen eang ac archwiliad trylwyr o weithiau llenyddol. Byddwch hefyd yn dysgu gwerthfawrogi treftadaeth ddiwylliannol Cymru drwy ymateb i lenyddiaeth ac amlgyfrwng cyfoes. Mae'r cwrs yn cynnwys testunau modern i apelio at ddysgwyr 16 oed a hŷn, gan ehangu eich gwybodaeth am agweddau diddorol ar hanes a diwylliant Cymru.
5 TGAU gradd C/4 neu uwch gan gynnwys Saesneg/Cymraeg (Iaith Gyntaf) a Mathemateg.

Nodyn: Ni all ymgeiswyr sydd wedi sefyll TGAU Cymraeg / Llenyddiaeth Gymraeg (Iaith 1af) wneud Cymraeg fel ail iaith.

Yng Ngholeg Cambria rydyn ni’n eich annog chi i wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau fydd eich canlyniadau y mwyaf o ddewisiadau fydd gennych chi a gallai hynny arwain at ddechrau cwrs lefel uwch.

Y flwyddyn gyntaf o astudio:

Mae tri maes astudio yn seiliedig ar yr asesiadau craidd sef siarad, darllen, gwrando ac ysgrifennu:
CA1: Astudio’r ffilm PATAGONIA ac arholiad siarad mewn grŵp o 2-3 o bobl yn profi eich astudiaeth o’r ffilm. Mae yna hefyd asesiad byr (unigol) gyda’r arholwr am eich pwnc gwaith cwrs dewisol.
CA2: GWAITH CWRS Mae hwn wedi’i gynllunio i ddatblygu eich sgiliau ysgrifennu’n syml ond yn effeithiol yn y Gymraeg. Byddwch chi’n dewis pwnc sydd o ddiddordeb i chi ac yn eich ysbrydoli. Rhaid i’r pwnc hwn fod â chysylltiad Cymreig e.e. Cestyll, chwedlau, hanes, diwylliant.
CA3: Arholiad ysgrifenedig yn seiliedig ar RAMADEG a BARDDONIAETH. Byddwch chi’n ymateb i gwestiynau sy’n profi eich dealltwriaeth o ramadeg. Byddwch hefyd yn ysgrifennu am gerdd a ddewiswyd o blith 5 cerdd a astudiwyd yn y dosbarth. Mae’r cerddi hyn yn bleserus, yn gyfoes a byddant yn galluogi’r myfyriwr i ddysgu termau newydd a gwella eu rhuglder trwy astudio testunau llenyddol yn yr iaith Gymraeg.

Yr ail flwyddyn o astudiaeth:

Mae tair uned astudio yn yr ail flwyddyn:
CA4: Astudiaeth o ddrama gyfoes Gymreig o’r enw CRASH. Bydd myfyrwyr yn cymryd rhan mewn arholiad siarad mewn grwpiau ac yn ymateb i gwestiynau sy’n profi eu gwybodaeth am y ddrama. Bydd arholiad unigol hefyd yn seiliedig ar astudiaeth o themâu Cymreig yn y cwrs. Gelwir hyn yn SYNOPTIG.
CA5: Arholiad ysgrifenedig 2 awr sy’n profi’r meysydd canlynol: Y Gymraeg yn y Gymdeithas a Thrawsieithu. Mae’r uned hon yn gofyn am astudio hanes Cymru: gwleidyddol, cymdeithasol ac ati. Mae’r uned hon hefyd yn cynnwys ymarfer y sgil o drawsieithu – nid cyfieithu – ond dehongli deunydd Saesneg drwy ymateb yn y Gymraeg.
CA6: Arholiad ysgrifenedig 2 awr yn seiliedig ar gyfres o brofion gramadeg ac adran yn profi gwybodaeth am bedair stori fer Gymraeg ac ymatebion iddynt gan gynnwys traethawd yn cymharu ag yn cyferbynnu themâu ar draws y cwrs Cymraeg.

Sgiliau: Mae pwyslais cryf ar sgiliau llafar a gwrando ym mhob gwers ac mae digon o gyfle i weithio mewn parau a grwpiau, gyda’r cynorthwyydd Cymraeg ac yn annibynnol. Datblygir sgiliau ysgrifenedig yn systematig drwy gydol y cwrs, yn ogystal â’r gallu i ymdrin â ffurfiau llafar ac ysgrifenedig o’r iaith mewn amrywiaeth o gyd-destunau.
Mae astudio’r Gymraeg yn agor llawer o ddrysau, beth bynnag fo’ch dyheadau gyrfa. Mae cyflogwyr yn rhoi mwy a mwy o werth ar gymwysterau Cymraeg. Er y gallech astudio er mwynhad personol, gall cymhwyster yn y Gymraeg arwain at yrfaoedd mewn addysgu, cyfieithu, dehongli a gweithio gyda busnesau sydd angen cyfathrebu yn y Gymraeg.

Mae ieithoedd yn cyfuno’n dda ag unrhyw bwnc, ac mae mwy o sefydliadau addysg uwch bellach yn cynnig mwy o bosibiliadau ar gyfer astudio ieithoedd yn barhaus. Mae astudio iaith yn meithrin dychymyg, hunanddisgyblaeth, a sgiliau cyfathrebu cryf – rhinweddau y mae cyflogwyr yn eu ffafrio’n fawr.
Lawrlwythiadau Defnyddiols

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llaneurgain
14/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llysfasi
07/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i’ch helpu i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
13/11/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/11/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost