Cyfrifadureg - Lefel A

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LA00052
Lleoliad
Iâl
Hyd
Llawn Amser, Mae’r cynnwys UG yn cael ei addysgu ym mlwyddyn gyntaf yr astudio.
Mae’r cynnwys Safon Uwch yn cael ei addysgu yn ail flwyddyn yr astudio.
Adran
Cyrsiau Safon Uwch
Dyddiad Dechrau
01 Sep 2026
Dyddiad gorffen
19 Jun 2027

Trosolwg o’r Cwrs

Ydych chi’n barod i lunio'r dyfodol digidol? Mae Cyfrifiadureg Lefel A wedi'i chynllunio ar gyfer myfyrwyr sydd am symud ymlaen i addysg uwch neu gyflogaeth lle mae dealltwriaeth gadarn o gyfrifiadura yn hanfodol. Mewn byd sy'n dod yn fwyfwy dechnolegol, mae gwybod sut mae cyfrifiaduron yn cael eu defnyddio i ddatrys amrywiaeth o broblemau yn sgil sydd mewn galw mawr. Mae'r cwrs hwn - gyda'i bwyslais ar grynhoi data, datrys problemau, algorithmau, rhesymu mathemategol, a meddwl sy’n seiliedig ar wyddoniaeth a pheirianneg - yn sylfaen dda ar gyfer deall heriau’r dyfodol.

Beth Fyddwch chi'n ei Ddysgu
Mae'r cymhwyster Safon Uwch hwn yn eich annog chi i ddatblygu dealltwriaeth fanwl o gyfrifiadureg a'i gymwysiadau. Byddwch chi'n meithrin:

*Dealltwriaeth a'r gallu i gymhwyso egwyddorion sylfaenol cyfrifiadureg, gan gynnwys crynhoi, dadelfennu, rhesymeg, algorithmau a chynrychiolaeth data.
*Y gallu i ddadansoddi problemau mewn termau cyfrifiadurol a'u datrys yn ymarferol gan ddefnyddio methodoleg sy'n canolbwyntio ar wrthrychau.
*Y gallu i feddwl yn greadigol, arloesol, dadansoddol, rhesymegol a beirniadol.
*Y gallu i weld perthnasoedd rhwng gwahanol agweddau ar gyfrifiadureg.
*Sgiliau mathemategol, gan fod cyfrifiadureg yn defnyddio mathemateg i fynegi deddfau a phrosesau cyfrifiadurol (e.e., algebra Boole, cymhlethdod algorithmau, cynrychioli rhif a basau).
*Y gallu i fynegi mewn geiriau, y cyfleoedd unigol (moesol), cymdeithasol (moesegol), cyfreithiol a diwylliannol technoleg ddigidol yn ogystal â’i pheryglon.

Mae Cyfrifiadureg yn cyd-fynd yn dda â phynciau ar draws y cwricwlwm, oherwydd yr angen am ddisgyblaeth resymegol a chreadigrwydd dychmygus wrth ddylunio algorithmau ac ysgrifennu, profi a dadfygio rhaglenni. Byddwch chi hefyd yn ennill dealltwriaeth o reolau iaith ar lefel sylfaenol ac yn datblygu ymwybyddiaeth o reoli a threfnu systemau cyfrifiadurol. Gallech chi symud ymlaen i yrfa mewn peirianneg, busnes, fforenseg, gemau, amlgyfrwng, neu unrhyw fath o wyddoniaeth gyda chymhwyster Cyfrifiadureg.

Dyma sut y bydd eich taith ddysgu yn datblygu:
*Lefel UG (40% o gymhwyster Safon Uwch llawn):
Uned 1 – Hanfodion Cyfrifiadureg: Byddwch chi’n ymchwilio i bensaernïaeth gyfrifiadurol, cyfathrebu, cynrychioli data, strwythurau data, cymwysiadau meddalwedd, rhaglenni, algorithmau, rhesymeg, methodolegau rhaglennu, ac effaith cyfrifiadureg ar gymdeithas.
Uned 2 – Rhaglennu Ymarferol i Ddatrys Problemau: Mae'r uned hon yn cynnwys cyfres o dasgau ar y sgrin lle byddwch chi'n rhoi eich gwybodaeth ar waith yn ymarferol, gan ddefnyddio Visual Basic.Net fel eich iaith raglennu.

*Safon Uwch (fel yr uchod yn ogystal â 3 uned arall):
Safon Uwch (60% o gymhwyster Safon Uwch llawn)
Uned 3 – Rhaglennu a Datblygu Systemau: Mae'r uned hon yn canolbwyntio ar ddadansoddi algorithmau, strwythurau data, algorithmau, rhesymeg, methodolegau rhaglennu, ac effaith cyfrifiadureg ar gymdeithas.
Uned 4 – Pensaernïaeth Gyfrifiadurol, Data, Cyfathrebu a Chymwysiadau: Byddwch yn ymchwilio i bensaernïaeth gyfrifiadurol, cyfathrebu, cynrychioli data, trefniadaeth a strwythur data, rhaglenni, algorithmau a chymwysiadau meddalwedd.
Uned 5 – Datrysiad Rhaglenedig i Broblem: Mae'r uned ddi-arholiad hon yn cynnwys darn sylweddol o waith cwrs lle byddwch chi’n trafod, ymchwilio, dylunio, creu prototeip, mireinio, gweithredu, profi a gwerthuso eich datrysiad cyfrifiadurol eich hun i broblem gan ddefnyddio cod gwreiddiol.

Y prif iaith raglennu ar gyfer Cyfrifiadureg UG/Safon Uwch ydy Visual Basic.Net 2015, gydag amrywiaeth o ieithoedd gwahanol yn cael eu cefnogi ar Lefel A2.
5 TGAU gradd C/4 neu uwch gan gynnwys Iaith Saesneg / Cymraeg Iaith Gyntaf a bodloni’r meini prawf canlynol:

– TGAU Mathemateg haen uwch, gradd B/6 neu uwch.

*Byddem ni’n cynghori ymgeiswyr I astudio Mathemateg Safon Uwch os ydyn nhw’n dymuno astudio Cyfrifiadureg yn y brifysgol.

Yng Ngholeg Cambria, byddem ni’n eich annog chi I wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau fydd eich canlyniadau, y mwyaf o ddewisiadau fydd gennych chi, gallai hynny arwain at gael mynediad I gwrs lefel uwch.
Blwyddyn 1:
Uned 1: Hanfodion Cyfrifiadureg (papur arholiad ysgrifenedig: 2 awr, 25% o’r cymhwyster)
Uned 2: Rhaglennu Ymarferol i Ddatrys problemau (Arholiad ar y sgrin: 2 awr, 15% o’r cymhwyster).

Blwyddyn 2:
Uned 3: Rhaglennu a Datblygu Systemau (papur arholiad ysgrifenedig: 2 awr, 20% o’r cymhwyster).
Uned 4: Pensaernïaeth Gyfrifiadurol, Data, Cyfathrebu a Chymwysiadau (papur arholiad ysgrifenedig: 2 awr, 20% o’r cymhwyster)
Uned 5: Y Prosiect Ymarferol (uned di-arholiad yn seiliedig ar waith cwrs: 20% o’r cymhwyster).
Mae cymhwyster Safon Uwch mewn Cyfrifiadureg yn berthnasol iawn ar gyfer ystod eang o gyrsiau Addysg Uwch, gan baratoi dysgwyr yn dda iawn ar gyfer astudio gradd yn y brifysgol mewn Cyfrifiadureg, Peirianneg Meddalwedd, Systemau Gwybodaeth, Dylunio Gemau, a mwy. Er nad yw llawer o sefydliadau yn ei gwneud hi’n ofynnol bod gennych chi gymhwyster Safon Uwch mewn Cyfrifiadureg i gael mynediad i radd gyfrifiadura, bydd ei chael yn sicr o wneud i’ch cais sefyll allan.

Ar hyn o bryd mae galw sylweddol am raglenwyr yn y diwydiant, a bydd yn parhau i fod felly. Mae’r swyddi hyn yn aml yn cael eu talu’n dda, gyda llawer o raglenwyr hyd yn oed yn gweithio o gartref. Mae yna hefyd nifer o gyfleoedd mewn meysydd sy’n canolbwyntio ar galedwedd, megis rheoli/gosod rhwydweithiau a dadansoddi/cynnal a chadw systemau.
Lawrlwythiadau Defnyddiols

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llaneurgain
14/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llysfasi
07/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i’ch helpu i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
13/11/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/11/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost