Y Gyfraith - lefel A

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LA00050
Lleoliad
Iâl
Hyd
Llawn Amser, Mae’r cynnwys UG yn cael ei addysgu ym mlwyddyn gyntaf yr astudio.
Mae’r cynnwys Safon Uwch yn cael ei addysgu yn ail flwyddyn yr astudio.
Adran
Cyrsiau Safon Uwch
Dyddiad Dechrau
01 Sep 2026
Dyddiad gorffen
19 Jun 2027

Trosolwg o’r Cwrs

Ydych chi'n barod i archwilio sut mae'r system gyfreithiol yn gweithio a herio'ch ffordd o feddwl? Bydd y cwrs Safon Uwch yn y Gyfraith yn rhoi’r sgiliau i chi a fydd yn eich galluogi chi i ddadansoddi materion, llunio dadleuon rhesymegol, a deall y cyfreithiau sy'n llunio ein cymdeithas.

Yr Hyn Fyddwch Chi'n ei Ddarganfod
Yn ystod y cwrs hwn, byddwch chi’n ymchwilio i sut mae’r system gyfreithiol yn gweithio ac yn gwerthuso ei heffeithiolrwydd. Byddwch chi’n dysgu am wahanol ffynonellau deddfu, o'r Senedd i Gynulliad Cymru, ac yn gwerthuso dylanwadau ar ddiwygio'r gyfraith. Byddwch chi hefyd yn ennill dealltwriaeth gadarn o sut mae'r gyfraith yn gweithredu'n ymarferol drwy astudio systemau a dedfrydu'r llysoedd sifil a throseddol.

Blwyddyn 1: Eich Sylfaen yn y Gyfraith
Yn ystod eich blwyddyn gyntaf, byddwch chi’n adeiladu sylfaen gadarn drwy archwilio Systemau Cyfreithiol Cymru a Lloegr. Byddwch chi’n dysgu sut mae deddfau’n cael eu llunio, gan gynnwys deddfwriaeth ddirprwyedig a rôl Cynulliad Cymru. Byddwch chi’n cael profiad ymarferol drwy gymryd rhan mewn dadleuon a threialon ffug.

Dyma gipolwg ar yr hyn y byddwch chi'n ei astudio:
* Y System Gyfreithiol: Cyfle i ddarganfod rhagor am ddeddfu, dehongli statudol, a defnyddio cynsail a chyfraith achosion.
* Llysoedd Sifil: Dysgwch am y system llys sifil a'r broses droseddol.
* Cyfraith Camwedd: Ewch ati i archwilio hawliadau sifil, gan gynnwys Camwedd Esgeulustod ac Atebolrwydd Meddianwyr, a dysgwch sut mae iawndal yn cael ei gyfrifo.

Blwyddyn 2: Ymchwilio i Gyfraith Droseddol a Hawliau Dynol
Yn eich ail flwyddyn, byddwch chi’n astudio’n feirniadol swyddogaeth gorfodi’r gyfraith a’r heddlu. Byddwch chi hefyd yn archwilio cyfraith droseddol a hawliau dynol, gan roi dealltwriaeth well i chi o'r system gyfiawnder.

Byddwch chi’n mynd i’r afael â:
Hawliau Dynol: Ewch ati i archwilio hawliau dynol yn feirniadol, fel rhyddid mynegiant a'r hawl i breifatrwydd, yn ogystal â'r cyfyngiadau ar yr hawliau hyn.
Cyfraith trosedd: Byddwch chi’n dysgu beth ydy’r diffiniad o drosedd, atebolrwydd llym, a ffactorau a all negyddu atebolrwydd troseddol.
Troseddau ac Amddiffyniadau Byddwch chi’n astudio troseddau corfforol, troseddau eiddo, ac amddiffyniadau cyfreithiol gwahanol.

5 TGAU gradd C/4 neu uwch gan gynnwys Saesneg Iaith / Cymraeg (Iaith Gyntaf) a Mathemateg.

Yng Ngholeg Cambria rydyn ni’n eich annog chi i wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau fydd eich canlyniadau y mwyaf o ddewisiadau fydd gennych chi a gallai hynny arwain at ddechrau cwrs lefel uwch.
Drwy gydol y cwrs, bydd amrywiaeth o asesiadau’n cael eu defnyddio i’ch helpu chi i olrhain eich cynnydd. Byddwch chi hefyd yn cwblhau ffug arholiad mewnol ym mis Ionawr ar gyfer cynnwys UG a Safon Uwch. Mae’r arholiadau’n cynnwys cwestiynau i’w hateb ar ffurf traethawd, tasgau ymateb i symbyliad ac enghreifftiau o astudiaethau achos.
Nid cwrs ar gyfer darpar gyfreithwyr yn unig ydy hwn — mae’n brofiad dysgu a fydd yn eich helpu chi i ddatblygu’r gallu i ddadansoddi materion ac adeiladu dadleuon cryf a rhesymegol. Mae cymhwyster Safon Uwch yn y gyfraith yn cael ei barchu’n fawr gan brifysgolion a gall arwain at ystod eang o yrfaoedd.

Mae ein myfyrwyr wedi mynd ymlaen i swyddi cyffrous mewn:
* Rheolaeth a masnach
* Llywodraeth leol a gwaith cymdeithasol
* Rolau’r heddlu a’r weithrediaeth gyfreithiol
* Ac wrth gwrs, y proffesiwn cyfreithiol.
Lawrlwythiadau Defnyddiols

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llaneurgain
14/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llysfasi
07/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i’ch helpu i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
13/11/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/11/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost