Rhagor o fanylion | |
|---|---|
Cod y Cwrs | LA00048 |
Lleoliad | Iâl |
Hyd | Llawn Amser, Mae’r cynnwys UG yn cael ei addysgu ym mlwyddyn gyntaf yr astudio. Mae’r cynnwys Safon Uwch yn cael ei addysgu yn ail flwyddyn yr astudio. |
Adran | Cyrsiau Safon Uwch |
Dyddiad Dechrau | 01 Sep 2026 |
Dyddiad gorffen | 19 Jun 2027 |
Trosolwg o’r Cwrs
Ydych chi'n barod i edrych ar fyd deinamig busnes a deall sut mae'n siapio ein bywydau? Mae’r cwrs Busnes Safon Uwch hwn yn eich helpu i ennill dealltwriaeth o sut y mae busnesau yn gweithredu ac yn cael eu heffeithio gan achosion cenedlaethol a rhyngwladol.
Beth Fyddwch chi'n ei Ddysgu
Byddwch yn edrych ar enghreifftiau o fusnes yn y byd go iawn i roi ystyr i'r ddamcaniaeth rydych chi'n ei hastudio. Trwy gydol y cwrs byddwch yn cymryd rhan mewn gweithgareddau difyr fel chwarae rôl, trafodaethau dosbarth, a gwaith grŵp ac unigol. Byddwn hefyd yn eich annog i gadw i fyny â materion cyfoes i weld sut maen nhw'n effeithio ar fusnesau yng Nghymru, y DU, ac yn fyd-eang.
Yn eich blwyddyn gyntaf byddwch yn canolbwyntio ar ddau fodiwl:
* Dechrau Busnes Newydd: Byddwch yn dysgu am fyd cyffrous entrepreneuriaeth ac yn deall yr ystod o weithgareddau sy'n gysylltiedig â sefydlu busnes bach o ymchwilio i'r farchnad a phenderfynu ar strwythur cyfreithiol y busnes a dod o hyd i gyllid.
* Mesur Effeithiolrwydd Busnes: Byddwch yn edrych ar sut mae busnesau mwy yn mesur eu llwyddiant trwy eu pedwar prif swyddogaeth: Marchnata (cyfathrebu'n effeithiol â chwsmeriaid), Cyllid (cynllunio, monitro ac asesu cyllid), Rheoli Gweithrediadau (pa mor effeithlon y mae deunyddiau crai yn cael eu trawsnewid yn gynhyrchion neu wasanaethau) ac Adnoddau Dynol (sut mae gweithwyr yn cael eu trefnu a'u rheoli er mwyn cynhyrchiant).
Yn eich ail flwyddyn, byddwch yn adeiladu ar eich gwybodaeth ac yn archwilio gweithrediadau busnes o safbwynt cenedlaethol a byd-eang ar lefel strategol.
* Technegau a Strategaethau Dadansoddol: Mae'r pwyslais ar ddeall a defnyddio technegau dadansoddol a datblygu strategaethau busnes priodol fel defnyddio modelau gwneud penderfyniadau.
* Addasu i Amgylchedd Ddeinamig: Byddwch yn dysgu sut mae busnesau'n addasu i lwyddo mewn amgylchedd allanol deinamig trwy ddeall sut y gall ystod o ffactorau allanol effeithio ar weithgareddau bob dydd, ar wneud penderfyniadau a strategaeth.
Bydd myfyrwyr yn cymryd rhagor o gyfrifoldeb dros ddysgu eu hunain ar y lefel hon ac yn darllen o amgylch y meysydd pwnc a chadw eu gwybodaeth materion cyfoes yn gyfredol. Er bod yna ddim gwaith cwrs mi fyddwch yn gwneud traethodau ac adroddiadau ar lefel Safon Uwch.

5 TGAU gradd C/4 neu uwch gan gynnwys Iaith Saesneg / Cymraeg (Iaith Gyntaf) a Mathemateg.
Yng Ngholeg Cambria byddem ni’n eich annog chi i wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau fydd eich canlyniadau y mwyaf o ddewisiadau fydd gennych chi, a gallai hynny arwain at ddechrau cwrs lefel uwch

Mae Astudiaethau Busnes UG / Safon Uwch yn gwrs modiwlaidd dwy flynedd sy’n seiliedig ar arholiadau. Bydd dau arholiad ar ddiwedd bob blwyddyn.
* Arholiadau Lefel UG: Bydd y rhain yn cynnwys cwestiynau atebion byr a chwestiynau strwythuredig sy’n gofyn am ymateb i ddata.
* Arholiadau Lefel Safon Uwch: Bydd y rhain yn canolbwyntio ar gynnwys o unedau UG a Safon Uwch. Bydd yr arholiad cyntaf yn canolbwyntio ar gwestiynau sy’n ymateb i ddata, rhai cwestiynau byr a rhai’n gofyn am atebion estynedig yn seiliedig ar astudiaethau achos. Bydd yr ail arholiad yn cynnwys dwy adran: Bydd nifer o gwestiynau yn Adran A a’r rhan fwyaf ohonynt yn gofyn am atebion estynedig yn seiliedig ar astudiaeth achos. Bydd Adran B yn gofyn i chi ysgrifennu traethodau synoptig. Bydd gan bob arholiad ffocws meintiol yn rhai o’r cwestiynau.

Ar ôl cwblhau ein Astudiaethau Busnes Safon Uwch yn llwyddiannus bydd yn bosib i chi ddilyn sawl siwrne gyrfaol cyffrous.
* Graddau Prifysgol: Astudio graddau mewn meysydd sy’n gysylltiedig â busnes fel Rheoli Busnes, Marchnata, Cyfrifeg, Seicoleg, Adnoddau Dynol a Busnes Rhyngwladol.
* Ehangu eich Gorwelion: Mae Astudiaethau Busnes Safon Uwch hefyd yn cael ei werthfawrogi’n fawr mewn meysydd nad ydynt yn gysylltiedig fel y Gwyddorau, y Celfyddydau, Rheolaeth Hamdden/Twristiaeth ac Arlwyo.
* Mynediad Uniongyrchol i Broffesiynau: Mae hefyd yn bosibl dechrau mewn rhai proffesiynau yn uniongyrchol mewn sectorau y mae galw mawr amdanynt fel bancio, marchnata ac adwerthu.
* Prentisiaethau: Mae Busnes Safon Uwch hefyd yn fuddiol wrth ddilyn prentisiaethau mewn busnesau blaenllaw fel Airbus, Unilever, Nestlé a PWC.
* Entrepreneuriaeth: Efallai y bydd rhai myfyrwyr entrepreneuraidd yn dewis sefydlu eu busnes eu hunain.

Lawrlwythiadau Defnyddiols
Barod i ddechrau ar eich taith?
Ein diwrnodau agored
Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llaneurgain
14/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llysfasi
07/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i’ch helpu i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
13/11/2025
17:00
Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch.
Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/11/2025