Bioleg - Lefel A

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LA00045
Lleoliad
Iâl
Hyd
Llawn Amser, Mae’r cynnwys UG yn cael ei addysgu yn y flwyddyn gyntaf o astudio ac mae’r cynnwys A2 yn cael ei addysgu yn yr ail flwyddyn.
Adran
Cyrsiau Safon Uwch
Dyddiad Dechrau
01 Sep 2026
Dyddiad gorffen
19 Jun 2027

Trosolwg o’r Cwrs

Ydych chi'n chwilfrydig am y byd o'ch cwmpas? Ydych chi'n pendroni am ddiogelwch bwydydd wedi'u haddasu'n enetig, y posibiliadau o glonio pobl neu sut allwn ni fynd i'r afael â newid hinsawdd? Os yw'r cwestiynau hyn yn ennyn eich diddordeb, yna mae Bioleg Safon Uwch ar eich cyfer chi!

Beth Fyddwch chi'n ei Ddysgu:
Byddwch yn ennill dealltwriaeth sylweddol o gysyniadau biolegol allweddol gan adeiladu ar yr hyn yr ydych wedi'i ddysgu yn eich TGAU. Mae ein cwrs ymgysylltiol yn dilyn manyleb CBAC ac yn canolbwyntio ar brofiad ymarferol a chymwysiadau yn y byd go iawn.

Dyma gipolwg ar yr hyn y byddwch chi'n ei astudio:
*Strwythur a Swyddogaeth Cell: Darganfod blociau adeiladu bywyd o foleciwlau biolegol i drefn celloedd a sut y mae ymatebion yn cael eu rheoleiddio gan ensymau. Byddwch hefyd yn edrych ar asidau niwclëig, mitosis a meiosis.
* Bioamrywiaeth a Systemau’r Corff: Edrych ar amrywiaeth anhygoel bywyd, dosbarthiad ac addasiadau ar gyfer prosesau hanfodol fel cyfnewid nwyon, cludiant mewn planhigion ac anifeiliaid a maeth.
* Egni, Homeostasis a’r Amgylchedd Deall pwysigrwydd ATP, y prosesau ffotosynthesis ac anadlu a’r byd hynod ddiddorol o ficrobioleg. Byddwch yn edrych ar ddeinameg poblogaeth, ecosystemau, effaith dynol ar yr amgylchedd a’r gwaith cymhleth y mae’r system nerfol a’r arennau yn ei wneud.
* Etifeddu ac Amrywiad: Dysgu am atgenhedlu rhywiol mewn bodau dynol a phlanhigion, ymchwilio i egwyddorion etifeddiaeth, amrywiad ac esblygiad ac edrych ar gymwysiadau atgenhedlu a geneteg. Byddwch hefyd yn astudio un o’r tair uned ddewisol ganlynol: Imiwnoleg a Chlefydau, Anatomeg Cyhyrysgerbydol Dynol neu Niwrobioleg ac Ymddygiad.

Bydd gennych ddigon o sesiynau ymarferol yn ein labordy i ddatblygu sgiliau hanfodol ar gyfer eich arholiadau ysgrifenedig ac ymarferol. Byddwch hefyd yn cadw llyfr labordy pwrpasol i gofnodi eich holl waith ymarferol sy'n ffurfio tystiolaeth ar gyfer eich arholiad ymarferol.
5 TGAU gradd C/4 neu uwch gan gynnwys Iaith Saesneg / Cymraeg (Iaith Gyntaf) a bodloni’r meini prawf canlynol:

– TGAU Mathemateg gradd B/6 neu uwch ar yr haen uwch yn unig
– TGAU Gwyddoniaeth gradd B/6 neu uwch ar yr haen uwch yn y wyddoniaeth yr ydych yn dymuno ei astudio.

Yng Ngholeg Cambria rydyn ni’n eich annog chi i wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau fydd eich canlyniadau y mwyaf o ddewisiadau fydd gennych chi a gallai hynny arwain at ddechrau cwrs lefel uwch.
Caiff y cymhwyster Bioleg Safon Uwch ei asesu drwy gyfuniad o bapurau ysgrifenedig ac arholiad ymarferol:

* Blwyddyn 1 (Safon UG): Caiff unedau 1 a 2 eu hasesu drwy bapur ysgrifenedig 1½ awr o hyd gan gynnwys cwestiynau sy’n gysylltiedig â’ch profiad ymarferol. Mae’r unedau hyn yn cyfrannu’n gyfartal at eich cymhwyster UG a gyda’i gilydd maent yn ffurfio 40% o’ch Lefel A llawn.
* Blwyddyn 2 (Lefel A2): Mae unedau 3 a 4 yn cael eu hasesu trwy bapur ysgrifenedig 2 awr gan ffurfio 50% o’ch Lefel A llawn.
* Arholiadau ymarferol: Mae Uned 5 yn arholiad ymarferol ar ddechrau tymor yr haf sy’n cyfrif am 10% o’ch cymhwyster Safon Uwch. Bydd y cwestiynau yn yr holl bapurau ysgrifenedig yn seiliedig ar waith ymarferol penodedig.

Byddwn hefyd yn cynnal arholiadau ffug yn fewnol ar ddyddiadau wedi’u cyhoeddi i roi profiad realistig o amodau arholiad ac ymarfer gwerthfawr.
Mae Bioleg Safon Uwch yn gymhwyster academaidd uchel ei barch sy’n cael ei dderbyn gan bob sefydliad Addysg Uwch. Mae llawer o’n myfyrwyr Bioleg yn symud ymlaen at astudio graddau mewn gwyddorau biolegol arloesol fel:
Gwyddor Fiofeddygol
Gofal iechyd
Geneteg
Biotechnoleg
Ffarmacoleg
Bioleg Amgylcheddol
Microbioleg

Mae’r cymhwyster yn arbennig o fuddiol os ydych yn gobeithio dilyn cyrsiau gradd mewn meddygaeth, meddygaeth filfeddygol neu ddeintyddiaeth. Mae hefyd yn gam gwerthfawr ymlaen at broffesiynau gofal iechyd fel seicoleg, offthalmoleg, nyrsio a bydwreigiaeth.
Gallech hefyd ddilyn gyrfaoedd cyffrous mewn nyrsio, radiograffeg a ffisiotherapi a chyfrannu at waith hanfodol y GIG. Mae rhai myfyrwyr yn mynd i mewn i labordai ysbytai sy’n gofyn am gymwysterau a chofrestriadau penodol. Mae eraill yn mentro i fyd ymchwil fiolegol neu’r diwydiant fferyllol. Os oes gennych chi angerdd dros natur efallai y byddwch chi’n mwynhau gweithio yn y maes ecoleg a gwyddor amgylcheddol sy’n prysur dyfu.

Lawrlwythiadau Defnyddiols

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llaneurgain
14/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llysfasi
07/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i’ch helpu i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
13/11/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/11/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost