Rhagor o fanylion | |
|---|---|
Cod y Cwrs | LA00043 |
Lleoliad | Iâl |
Hyd | Llawn Amser, Mae’r cynnwys UG yn cael ei addysgu ym mlwyddyn gyntaf yr astudio. Mae’r cynnwys Safon Uwch yn cael ei addysgu yn ail flwyddyn yr astudio. |
Adran | Cyrsiau Safon Uwch |
Dyddiad Dechrau | 01 Sep 2026 |
Dyddiad gorffen | 19 Jun 2027 |
Trosolwg o’r Cwrs
Ydych chi'n barod i archwilio'r grymoedd pwerus sy'n llunio ein byd? Mae Llywodraeth a Gwleidyddiaeth Lefel A yn bwnc hynod ddiddorol a deinamig a fydd yn eich arfogi ag ystod o sgiliau gwerthfawr gan agor drysau i gyrsiau prifysgol gyffrous a gyrfaoedd gwerth chweil.
Beth Fyddwch chi'n ei Ddysgu
Yn eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn ymchwilio i weithrediadau'r llywodraeth yng Nghymru a'r Deyrnas Unedig. Byddwch yn archwilio cwestiynau allweddol ynghylch ble mae pŵer mewn gwirionedd o fewn system wleidyddol Prydain a sut y mae'r rhai sydd mewn grym yn cael eu dwyn i gyfrif, a dylanwad ffactorau allanol. Byddwch hefyd yn darganfod beth mae dinasyddiaeth yn ei olygu yn y DU, deall eich hawliau a sut y gallwch ddylanwadu ar brosesau gwleidyddol.
Yn eich ail flwyddyn byddwch yn ymchwilio i gysyniadau a damcaniaethau gwleidyddol gan archwilio ideolegau amrywiol fel Sosialaeth, Ceidwadaeth, Rhyddfrydiaeth a Chenedlaetholdeb. Yna byddwch yn troi eich sylw at lywodraeth a gwleidyddiaeth UDA gan barhau i gwestiynu pŵer, democratiaeth a chyfranogiad o fewn y system wleidyddol.
Y Tu Hwnt i'r Ystafell Ddosbarth
Rydyn ni’n credu mewn cyfoethogi’r profiad dysgu. Bydd gennych gyfleoedd anhygoel i ddatblygu eich diddordebau a pharatoi ar gyfer eich dyfodol. Mae’r rhain yn cynnwys:
* Teithiau i gynadleddau ac ymweliadau â chanolfannau gwleidyddol arwyddocaol fel Tai’r Senedd yn Llundain neu Senedd Cymru yng Nghaerdydd.
* Dadleuon a thrafodaethau diddorol gydag amryw o siaradwyr gwadd gwahanol gan gynnwys ASau, Aelodau’r Senedd a chyn-fyfyrwyr sydd wedi dechrau gyrfaoedd cyffrous sy’n gysylltiedig â gwleidyddiaeth.

5 TGAU gradd C/4 neu uwch gan gynnwys Iaith Saesneg / Cymraeg (Iaith Gyntaf) a Mathemateg.
Yng Ngholeg Cambria byddem ni’n eich annog chi i wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau fydd eich canlyniadau y mwyaf o ddewisiadau fydd gennych chi, a gallai hynny arwain at ddechrau cwrs lefel uwch.

Caiff eich cymwysterau UG a Safon Uwch eu hasesu drwy arholiadau diwedd blwyddyn. Does dim gwaith cwrs ond byddwn yn eich paratoi’n drylwyr ar gyfer asesiadau allanol gydag arholiadau ffug pwysig a chwestiynau rheolaidd ar ffurf arholiad.
Bydd astudio Llywodraeth a Gwleidyddiaeth yn eich arfogi â sgiliau dadansoddi a chyfathrebu hynod werthfawr y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt mewn gwirionedd. Mae’r cwrs hwn yn darparu sylfaen ardderchog ar gyfer ystod eang o yrfaoedd, gan gynnwys:
* Y Gyfraith
* Newyddiaduraeth a Darlledu
* Busnes, Rheoli a Gweinyddu
* Cysylltiadau Cyhoeddus a Marchnata
* Gweinyddiaeth (Gwasanaeth Sifil, Llywodraeth Leol, Gwasanaeth Iechyd)
* Gwaith Cymdeithasol
* Lluoedd Arfog a’r Heddlu
* Gweithio yn yr Undeb Ewropeaidd neu sefydliadau gwleidyddol eraill fel y Cynulliad
* Sector Elusennol
* Addysgu

Lawrlwythiadau Defnyddiols
Barod i ddechrau ar eich taith?
Ein diwrnodau agored
Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llaneurgain
14/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llysfasi
07/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i’ch helpu i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
13/11/2025
17:00
Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch.
Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/11/2025