Mathemateg - Lefel A

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LA00035
Lleoliad
Iâl
Hyd
Llawn Amser, Mae’r cynnwys UG yn cael ei addysgu yn y flwyddyn gyntaf o astudio.
Mae’r cynnwys Safon Uwch yn cael ei addysgu yn yr ail flwyddyn o astudio.
Adran
Cyrsiau Safon Uwch
Dyddiad Dechrau
01 Sep 2026
Dyddiad gorffen
19 Jun 2027

Trosolwg o’r Cwrs

Yn barod i fynd â’ch brwdfrydedd am rifau i’r lefel nesaf? Bydd Mathemateg Safon Uwch yn eich helpu i ddatblygu mwy o ddealltwriaeth o gysyniadau mathemategol a’ch cyfarparu gyda’r sgiliau sy’n hanfodol ar gyfer eich dyfodol. Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio i'ch helpu i ddatrys problemau cymhleth, i feddwl yn feirniadol ac i gymhwyso modelau mathemategol i sefyllfaoedd yn y byd go iawn.

Beth Fyddwch chi'n ei Ddysgu
Byddwch yn archwilio byd cyffrous mathemateg pur, mecaneg ac ystadegau. Bydd y cwrs hwn yn eich herio i ddefnyddio rhesymeg, gwybodaeth a phrawf mathemategol i ddatrys problemau ac i ddefnyddio data i ddynwared sefyllfaoedd yn y byd go iawn. Byddwch hefyd yn dysgu sut i ddeall perthnasedd mathemateg i bynciau eraill, y gweithle a chymdeithas yn ei chyfanrwydd.

Mae'r cwrs wedi'i rannu'n ddwy flynedd o astudio:
* Blwyddyn 1 (Safon UG): Byddwn yn astudio Mathemateg Pur yn Uned 1 a chyfuniad o Ystadegau a Mecaneg yn Uned 2.
* Blwyddyn 2 (Lefel Safon Uwch): Byddwch yn adeiladu ar eich gwybodaeth gyda mwy o Fathemateg Pur yn Uned 3 a chyfuniad o Ystadegau, Hafaliadau Gwahaniaethol, Dulliau Rhifol a Mecaneg yn Uned 4.

I'r rhai sy'n fathemategwyr angerddol, galluog a hyderus rydym yn argymell ystyried Mathemateg Bellach Safon Uwch. Mae galw mawr am y cymhwyster hwn mewn llawer o brifysgolion i'r rhai sydd eisiau astudio pynciau fel Ffiseg, Peirianneg neu Gemeg.
5 TGAU gradd C/4 neu uwch gan gynnwys Iaith Saesneg / Cymraeg (Iaith Gyntaf) a bodloni’r meini prawf canlynol:

TGAU Mathemateg gradd B/6 neu uwch ar yr haen UWCH yn unig

Yng Ngholeg Cambria, byddem ni’n eich annog chi i wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau fydd eich canlyniadau y mwyaf o ddewisiadau fydd gennych chi, a gallai hynny arwain at ddechrau cwrs lefel uwch.


Bydd eich gwybodaeth yn cael ei hasesu trwy bapurau ysgrifenedig ar ddiwedd pob blwyddyn.

Lefel UG:
Uned 1: Mathemateg Pur (papur ysgrifenedig 2.5 awr, 25% o gymhwyster Safon Uwch llawn)
Uned 2: Mathemateg Gymhwysol (yn cynnwys Ystadegau a Mecaneg, papur ysgrifenedig 1.75 awr, 15% o gymhwyster Safon Uwch llawn)

Lefel Safon Uwch:
Uned 3: Mathemateg Pur (papur ysgrifenedig 2.5 awr, 35% o gymhwyster Safon Uwch llawn)
Uned 4: Mathemateg Gymhwysol (yn cynnwys Ystadegau, Hafaliadau Gwahaniaethol, Dulliau Rhifiadol, a Mecaneg, papur ysgrifenedig 1.75 awr, 25% o gymhwyster Safon Uwch llawn)
I’ch helpu i baratoi byddwch hefyd yn sefyll arholiadau ffug mewnol i roi profiad realistig i chi.
Mae Lefel A mewn Mathemateg yn gymhwyster dymunol iawn ar gyfer ystod eang o gyrsiau addysg uwch ac amrywiaeth o alwedigaethau. Gyda’r cymhwyster hwn gallech ddilyn gyrfa yn y Gwasanaeth Sifil, cyllid, bancio, neu weithio mewn meysydd technegol, cyfrifiadura, gwyddonol neu beirianneg. Mae’r sgiliau a ddatblygwch yn y cwrs hwn yn berthnasol i bron bob maes o’r diwydiant.
Lawrlwythiadau Defnyddiols

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llaneurgain
14/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llysfasi
07/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i’ch helpu i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
13/11/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/11/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost