Rhagor o fanylion | |
|---|---|
Cod y Cwrs | LA00031 |
Lleoliad | Iâl |
Hyd | Llawn Amser, Mae’r cynnwys UG yn cael ei addysgu yn y flwyddyn gyntaf o astudio. Mae’r cynnwys Safon Uwch yn cael ei addysgu yn yr ail flwyddyn o astudio. |
Adran | Cyrsiau Safon Uwch |
Dyddiad Dechrau | 01 Sep 2026 |
Dyddiad gorffen | 19 Jun 2027 |
Trosolwg o’r Cwrs
Ydych chi'n chwilfrydig am y byd o'ch cwmpas, o'r atomau lleiaf i'r adweithiau mwyaf mawreddog? Mae'r cwrs Cemeg Safon Uwch hwn yn berffaith i chi! Mae Cemeg yn ymwneud ag astudio deunyddiau, eu nodweddion, eu hadweithiau a sut maent yn cael eu defnyddio. Yng Ngholeg Cambria, byddwn ni’n eich annog chi i ddatblygu eich sgiliau personol a threfniadol, gan eich helpu i gyflawni eich potensial academaidd.
Beth Fyddwch chi'n ei Ddysgu
Mae gan y cwrs hwn elfen ymarferol sylweddol, gyda damcaniaeth a gwaith ymarferol wedi'u hintegreiddio'n ddi-dor. Byddwch chi'n profi gweithio'n annibynnol ac fel rhan o grŵp. Mae ein myfyrwyr Cemeg wrth eu bodd yn cymryd rhan mewn profiadau cysylltiedig cyffrous fel rhagbrofion Dadansoddwr Ifanc Cymdeithas Frenhinol Cemeg, cwis Chemnet, gweithdai sbectrosgopeg, dosbarthiadau meistr prifysgol, a Chymdeithas Gwyddoniaeth a Mathemateg Pennant.
Ar ôl cwblhau'r cwrs, byddwch chi wedi magu hyder wrth ryngweithio ag eraill, wedi datblygu sgiliau rhesymu rhesymegol, ac wedi cael ymarfer gwerthfawr o ddulliau ymchwilio a diogelwch wrth weithio mewn labordy.
Mae cwrs Cemeg Safon Uwch yn dilyn manyleb CBAC, gan adeiladu ar y pynciau rydych chi wedi’u hastudio yn ystod TGAU. Mae Safon UG yn cynnwys dwy uned, ac arholiad ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf. Os ydych chi’n dewis dilyn y cymhwyster Safon Uwch llawn, byddwch chi’n astudio tair uned ychwanegol yn yr ail flwyddyn, ac mae un ohonyn nhw’n cynnwys arholiad ymarferol.
Dyma drosolwg byr o gynnwys y cwrs:
* UNED 1: Iaith Cemeg, strwythur mater ac adweithedd cemegol. Byddwch chi’n archwilio fformwlâu a hafaliadau, strwythur atomig, cyfrifiadau, bondio, strwythurau solidau, dosbarthiad elfennau yn y Tabl Cyfnodol, ecwilibria, ac adweithiau asid-bas.
* UNED 2: Egni, cyfradd adwaith a chemeg cyfansoddion carbon. Mae'r uned hon yn ymdrin â dadansoddi thermogemegol a chinetig, effaith ehangach cemeg mewn cymdeithas, cyfansoddion organig gan gynnwys hydrocarbonau, halogenoalcanau, alcoholau ac asidau carbocsilig, a dulliau dadansoddi offerynnol.
* UNED 3: Cemeg Ffisegol ac Anorganig. Byddwch chi’n ymchwilio i botensial rhydocs a photensial electrod safonol, cemeg bloc-p a bloc-d, newidiadau enthalpi, entropi a dichonoldeb adweithiau, cysonion ecwilibriwm, ac ecwilibria asid-bas.
* UNED 4: Cemeg Organig a dadansoddi. Mae'r uned hon yn cynnwys stereoisomeredd, aromatigedd, alcoholau a ffenolau, aldehydau a chetonau, asidau carbocsilig a deilliadau, aminau, asidau amino, peptidau a phroteinau, synthesis organig, a dadansoddi.
* UNED 5 – Uned Cemeg Ymarferol: Yn ogystal ag ymarferion ymarferol penodol a osodir gan CBAC, byddwch chi’n ymgymryd ag ystod eang o waith ymarferol i gefnogi eich unedau theori. Bydd angen i chi gynnal ffeil drefnus o'ch gwaith labordy i baratoi ar gyfer yr asesiad yn yr uned hon.

5 TGAU gradd C/4 neu uwch gan gynnwys Iaith Saesneg / Cymraeg (Iaith Gyntaf) a bodloni’r meini prawf canlynol:
– TGAU Mathemateg gradd B/6 neu uwch ar yr haen uwch.
– TGAU Gwyddoniaeth gradd B/6 neu uwch ar yr haen uwch yn y wyddoniaeth rydych chi’n dymuno ei hastudio.
*Argymhellir i fyfyrwyr astudio Cemeg Safon Uwch ochr yn ochr â Mathemateg Safon Uwch a/neu bynciau Gwyddoniaeth eraill.
Yng Ngholeg Cambria rydyn ni’n eich annog chi i wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau fydd eich canlyniadau y mwyaf o ddewisiadau fydd gennych chi a gallai hynny arwain at ddechrau cwrs lefel uwch.

Caiff unedau 1 a 2 eu hasesu drwy bapur ysgrifenedig 1½ awr o hyd gan gynnwys cwestiynau sy’n gysylltiedig â’ch profiad ymarferol. Bydd y ddwy uned yn cyfrannu’n gyfartal at y cymhwyster Safon UG ac gyda’i gilydd byddan nhw’n ffurfio 40% o’r cymhwyster Safon Uwch llawn.
Caiff Unedau 3 a 4 eu hasesu drwy bapur ysgrifenedig 1¾ awr o hyd. Bydd y ddwy uned gyda’i gilydd yn ffurfio 50% o’r cymhwyster Safon Uwch llawn.
Yn y papurau ar gyfer Unedau 1-4 bydd cwestiynau yn seiliedig ar waith ymarferol penodol a wnaed drwy gydol y cwrs.
Uned 5: Mae hyn yn cynnwys dau brawf sy’n cael eu marcio’n allanol gan CBAC; Tasg Arbrofol a Thasg Dadansoddi Data. Mae’r ddau o’r rhain wedi’u gosod yn nhymor cynnar yr haf o flwyddyn Safon Uwch.
Byddwn ni’n cynnal ffug arholiadau ar ddyddiadau y byddwn ni’n eu cyhoeddi, i roi profiad gwirioneddol o amodau ac ymarfer arholiadau i ymgeiswyr.

Mae cymhwyster Cemeg Safon Uwch yn cael ei dderbyn yn eang ar gyfer mynediad i bob sefydliad Addysg Uwch. Mae’n darparu cefnogaeth hanfodol ar gyfer cyrsiau gradd mewn meysydd cyffrous fel Meddygaeth, Deintyddiaeth, Gwyddor Filfeddygol, Fferylliaeth, Peirianneg Gemegol, a Gwyddorau Biofeddygol.
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Barod i ddechrau ar eich taith?
Ein diwrnodau agored
Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llaneurgain
14/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llysfasi
07/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i’ch helpu i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
13/11/2025
17:00
Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch.
Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/11/2025