Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LP01023
Lleoliad
Glannau Dyfrdwy
Hyd
Llawn Amser, Dyma gwrs blwyddyn lawn amser.
Adran
Therapïau Harddwch, Sba a Chyflenwol, Dysgu Sylfaen
Dyddiad Dechrau
01 Sep 2026
Dyddiad gorffen
31 Jul 2027

Trosolwg o’r Cwrs

Ydych chi'n barod i archwilio byd cyffrous harddwch? Mae'r cwrs hwn yn berffaith os ydych chi’n chwilio am gyflwyniad i'r sector gwallt, gan eich helpu chi i ennill y sgiliau a'r hyder sydd eu hangen arnoch chi i lwyddo.

Beth Fyddwch chi'n ei Ddysgu:
Byddwch chi’n datblygu sgiliau harddwch hanfodol a sgiliau cyflogadwyedd, gan ennill ystod eang o wybodaeth i'ch helpu chi i symud ymlaen yn y diwydiant. Dewch i fwynhau gweithdai ymarferol i fireinio’ch sgiliau, ochr yn ochr â theori yn yr ystafell ddosbarth i adeiladu eich dealltwriaeth.

Byddwn ni hefyd yn canolbwyntio ar hybu eich llythrennedd a'ch rhifedd. Bydd gennych chi’r cyfle i fynd i’r afael â chymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Cyfathrebu a Chymhwyso Rhif. Bydd y cymwysterau hyn yn eich helpu chi i symud ymlaen i lefelau uwch o ddysgu.

Bydd gennych chi Anogwr Cynnydd pwrpasol a fydd yn eich cefnogi chi drwy gydol eich amser gyda ni. Byddan nhw'n sicrhau bod gennych chi'r holl gefnogaeth sydd ei hangen arnoch chi, boed hynny ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol neu unrhyw beth newydd sy'n codi, fel y gallwch chi lwyddo go iawn. Mae'r cwrs hwn wedi'i gefnogi'n llawn i fodloni eich anghenion unigol a'ch gwahaniaethau dysgu.

Mae'r rhaglen hon yn rhedeg dros dridiau, gan gyfuno sesiynau ystafell ddosbarth difyr â chyflwyno gweithdai ymarferol.
4 TGAU gradd E/2 neu uwch, gan gynnwys Mathemateg ac Iaith Saesneg/Cymraeg (iaith gyntaf).

I’r holl ddysgwyr sy’n bwriadu symud ymlaen i’r cwrs Lefel 1 hwn o Raglen Lefel Mynediad – rhaid eich bod wedi cyflawni eich prif gymhwyster, wedi symud ymlaen mewn mathemateg a Saesneg ac wedi cyrraedd yr holl dargedau yn eich CDU.

Yng Ngholeg Cambria, byddem ni’n eich annog chi i wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau fydd eich canlyniadau, y mwyaf o ddewisiadau fydd gennych chi, a gallai hynny arwain at ddechrau cwrs lefel uwch.



Byddwch chi’n cyflawni’r cymhwyster trwy waith cwrs a fydd yn cael ei asesu’n fewnol. Gallai hyn gynnwys tasgau cyffrous fel prosiectau, creu taflenni, neu aseiniadau ysgrifenedig.
Ar ôl ei gwblhau, byddwch chi’n barod i gymryd eich cam nesaf! Gallech chi symud ymlaen i gwrs Lefel 2, fel Therapi Harddwch, neu archwilio cyfleoedd gyda Thwf Swyddi Cymru+, prentisiaeth, neu gyflogaeth llawn amser.
Bydd angen prynu offer a/neu wisg hanfodol ar gyfer rhai cyrsiau. Edrychwch ar y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Lawrlwythiadau Defnyddiol
Rhestr Offer

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llaneurgain
14/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llysfasi
07/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i’ch helpu i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
13/11/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/11/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost