Rhagor o fanylion | |
|---|---|
Cod y Cwrs | LP81016 |
Lleoliad | Glannau Dyfrdwy |
Hyd | Llawn Amser, Dyma gwrs 2 flynedd llawn amser. Blwyddyn 1af – Diploma, paratoad addas ar gyfer cyflogaeth, prentisiaethau neu Brifysgol (gyda chymwysterau lefel 3 eraill) yn symud ymlaen at yr 2il Flwyddyn – Diploma Estynedig sy’n addas ar gyfer symud ymlaen yn uniongyrchol i’r Brifysgol neu gyflogaeth yn y diwydiant. |
Adran | Perfformio a Chynhyrchu Cerddoriaeth |
Dyddiad Dechrau | 01 Sep 2026 |
Dyddiad gorffen | 18 Jun 2027 |
Trosolwg o’r Cwrs
Mae Diploma UAL mewn Cynhyrchu Cerddoriaeth yn cynnig y cyfle i edrych ar egwyddorion craidd gwaith sain dechnegol a chynhyrchu cerddoriaeth trwy ddysgu galwedigaethol a dysgu’n seiliedig ar brosiectau. Mae'r cwrs yn canolbwyntio ar feithrin sgiliau ymarferol sy'n hanfodol ar gyfer gyrfa fel Peiriannydd Sain mewn amrywiol feysydd yn cynnwys Sain Fyw, Cynhyrchu Cerddoriaeth Stiwdio, Peirianneg Darlledu, Acwsteg ac Ôl-gynhyrchu Sain ar gyfer Ffilm, Teledu a Gemau Cyfrifiadurol. Mae hefyd yn darparu'r wybodaeth dechnegol ac academaidd sy'n angenrheidiol ar gyfer astudiaeth arbenigol bellach yn y brifysgol.
- Cynhyrchu Sain Byw: Byddwch chi'n datblygu sgiliau mewn peirianneg blaen tŷ, cymysgu monitorau a goleuadau llwyfan a hynny ochr yn ochr ag ehangu eich gallu i drefnu a rheoli digwyddiadau byw
- Recordio mewn Stiwdio: Byddwch chi’n dysgu sut i gynllunio, gosod a rheoli sesiynau stiwdio safonol y diwydiant wrth weithio'n uniongyrchol â cherddorion i greu a chynhyrchu traciau o ansawdd uchel gan ddefnyddio offer recordio modern y diwydiant mewn amgylchedd stiwdio bwrpasol
- Cynhyrchu Cerddoriaeth: Bydd yr adran hon yn gwella eich sgiliau wrth ddefnyddio meddalwedd dilyniannu cerddoriaeth (DAW) i gynhyrchu cerddoriaeth wedi’i gymysgu o safon broffesiynol gan ddefnyddio technegau golygu MIDI a sain ar gyfer caneuon wedi’u hailgymysgu a chaneuon gwreiddiol.
Yn ddiweddarach yn y cwrs bydd dysgwyr yn cael y cyfle i ganolbwyntio ar feysydd megis cynhyrchu sain ar gyfer ffilmiau a’r cyfryngau, creu recordiadau estynedig proffesiynol a datblygu sgiliau cymysgu a golygu o ansawdd proffesiynol sy'n cynnwys technegau dosbarthu a meistroli o safon.
Mae cyfleoedd profiad gwaith ar gael drwy gydol y cwrs gyda chysylltiadau cryf â'r diwydiant â lleoliadau cerddoriaeth a stiwdios recordio yng Ngogledd Cymru a'r Gogledd Orllewin. Mae llawer o fyfyrwyr yn cymryd rhan yn yr uchod ochr yn ochr â'u hastudiaethau. Mae galw mawr am weithredwyr aml-fedrus ledled y diwydiannau creadigol ehangach. Rhagwelir y bydd twf o £100 biliwn y flwyddyn ar gyfer economi'r DU a fydd yn creu 900,000 o swyddi ychwanegol erbyn 2030.

5 TGAU gradd C/4 neu uwch gan gynnwys Saesneg Iaith/Cymraeg (Iaith Gyntaf), NEU gwblhau rhaglen Lefel 2 berthnasol yn llwyddiannus y mae’n rhaid iddi gynnwys cyflawniad mewn rhifedd a llythrennedd.
Yng Ngholeg Cambria byddwn yn eich annog i wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Bydd ennill graddau da yn rhoi rhagor o ddewisiadau i chi a byddant yn gallu arwain at gael lle ar gwrs lefel uwch

Mae’r cwrs yn cynnwys hyd at 168 pwynt UCAS ac mae’n addas ar gyfer mynediad at ystod eang o gyrsiau gradd israddedig uchel eu parch yn genedlaethol. Mae gan Goleg Cambria enw da ar gyfer datblygu myfyrwyr i’r brifysgol ac yn uniongyrchol i ddiwydiant. Trwy gydol y cwrs byddwch yn datblygu eich dealltwriaeth o’r diwydiant cerddoriaeth a sut i baratoi eich hun yn effeithiol ar gyfer cyflogaeth yn y maes.
Mae gradd llwyddo / methu i bob uned o astudiaeth meithrin sgiliau. Ar ddiwedd bob blwyddyn byddwch yn astudio uned brosiect mawr terfynol sy’n eich galluogi i arbenigo mewn maes o’ch dewis a bydd yn ffurfio eich gradd gyfansawdd derfynol. Byddwch yn cael eich asesu ar bortffolio, gwaith cwrs a thasgau ymarferol yn ogystal â chymryd rhan mewn cynyrchiadau galwedigaethol go iawn.

Gall y cwrs agor drysau i’r gyrfaoedd canlynol:
– Peiriannydd Sain Byw
– Peiriannydd Recordio
– Cynhyrchydd Radio
– Recordydd Sain ar gyfer Teledu neu Ffilm
– Golygydd
– Artist Foley
– DJ
– Cynhyrchydd Cerddoriaeth
– Rheolwr Cerddoriaeth

Efallai y bydd rhai cyrsiau yn gofyn am brynu cit/offer. Edrychwch ar y rhestr cit atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Lawrlwythiadau Defnyddiol
Rhestr OfferBarod i ddechrau ar eich taith?
Ein diwrnodau agored
Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llaneurgain
14/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llysfasi
07/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i’ch helpu i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
13/11/2025
17:00
Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch.
Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/11/2025