UAL Lefel 3 Diploma mewn Perfformio cerddoriaeth

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LP00680
Lleoliad
Iâl
Hyd
Llawn Amser, Dyma gwrs blwyddyn llawn amser. (Dwy flynedd os ydych yn dymuno cwblhau’r Diploma Estynedig, ar ôl cwblhau blwyddyn un yn llwyddiannus).
Adran
Perfformio a Chynhyrchu Cerddoriaeth
Dyddiad Dechrau
02 Sep 2026
Dyddiad gorffen
19 Jun 2027

Trosolwg o’r Cwrs

Ydych chi'n barod i gymryd y llwyfan a chreu stŵr? Y Diploma Lefel 3 mewn Perfformio Cerddoriaeth yng Ngholeg Cambria ydy eich tocyn i yrfa fywiog yn y diwydiant cerddoriaeth neu astudiaethau bellach yn y brifysgol!

P'un a ydych chi'n chwilio am brofiad dwys blwyddyn neu Ddiploma Estynedig dwy flynedd er mwyn i chi fireinio'ch crefft yn llwyr, mae'r cwrs hwn wedi'i lunio i feithrin eich sgiliau ym mhob agwedd ar gerddoriaeth. Byddwch yn barod i gymryd naid i mewn i:

* Perfformio Cerddoriaeth: Dyma eich cyfle chi i ddisgleirio! Byddwch chi'n gweithio gyda'ch offerynnau, yn chwarae mewn grwpiau a bandiau, ac yn perfformio i gynulleidfaoedd byw.
* Creu a Chyfansoddi Cerddoriaeth: Gadewch i’ch ochr greadigol fynd yn rhydd! Dysgwch sut i gyfansoddi a threfnu cerddoriaeth newydd, gan archwilio hanes cerddoriaeth boblogaidd, traddodiadau, a genres amrywiol. * Byddwch chi hefyd yn ymchwilio i theori cerddoriaeth a sut mae'n ffurfio sail i gyfansoddi a chreadigrwydd.
* Cynhyrchu Cerddoriaeth: Rhowch gynnig ar ddefnyddio gweithfannau sain digidol (Mac a Logic) i greu a chynhyrchu eich curiadau, eich rhythmau, eich cyfansoddiadau a'ch ailgymysgiadau eich hun.
* Y Diwydiant Cerddoriaeth: Deall manylion sut mae'r diwydiant cerddoriaeth yn gweithio, o gerddoriaeth stiwdio a sesiwn i’r ochr fusnes.
* Cerddoriaeth Boblogaidd mewn Cyd-destun: Byddwch chi’n dadansoddi gwahanol arddulliau a genres, eu hystyr, a'u lle mewn cymdeithas, gan archwilio sut mae artistiaid yn defnyddio cerddoriaeth i fynegi a chyfathrebu.

5 TGAU gradd C/4 neu uwch gan gynnwys Saesneg Iaith/Cymraeg (Iaith Gyntaf), neu gwblhau rhaglen Lefel 2 berthnasol yn llwyddiannus y mae’n rhaid iddi gynnwys cyflawniad mewn rhifedd a llythrennedd.

Mae pwnc sy’n seiliedig ar Gerddoriaeth gradd C/4 neu uwch yn ddymunol ond nid yn hanfodol.

Yn dilyn cyflwyno cais am y cwrs hwn, bydd gofyn i ddarpar ddysgwyr Lefel 3 hefyd gymryd rhan mewn prosiect mynediad ‘rhagflas’ byr, lle byddan nhw’n cael cyfle i arddangos eu sgiliau offerynol neu sgiliau cynhyrchu ymarferol ynghyd â’u gwaith ysgrifenedig. Cafodd y prosiect mynediad ‘rhagflas’ hwn ei lunio i gael amcan o ba mor addas ydy dysgwr ar gyfer y cwrs ac i helpu dysgwyr i benderfynu ai’r cwrs ydy’r dewis cywir i chi.

Yng Ngholeg Cambria rydyn ni’n eich annog chi i wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau fydd eich graddau, y mwyaf o opsiynau a fydd gennych chi, ac fe allai eich galluogi chi i symud ymlaen at gwrs lefel uwch.

Mae’r cwrs yn seiliedig ar brosiectau, gan adeiladu eich sgiliau gam wrth gam. Mae’r cyfan yn arwain at brosiect Cerddoriaeth Mawr Terfynol gwych lle gallwch chi arbenigo mewn maes rydych chi’n angerddol amdano, boed hynny’n berfformiad byw, cyfansoddi, neu astudiaeth offerynnol. Byddwch chi’n cael adborth rheolaidd gan eich tiwtoriaid i’ch helpu chi i dyfu a gwella.
Mae’r Diploma Lefel 3 hwn yn cael ei werthfawrogi’n fawr gan gyflogwyr a phrifysgolion. Mae’n fan cychwyn ardderchog ar gyfer cyflogaeth yn y Diwydiannau Creadigol neu ar gyfer dilyn addysg uwch mewn perfformio cerddoriaeth, cyfansoddi, cynhyrchu, neu fusnes cerddoriaeth.



Efallai y bydd rhai cyrsiau yn gofyn am brynu cit/offer. Edrychwch ar y rhestr cit atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Lawrlwythiadau Defnyddiol
Rhestr Offer

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llaneurgain
14/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llysfasi
07/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i’ch helpu i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
13/11/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/11/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost