Rhagor o fanylion | |
|---|---|
Cod y Cwrs | LP00254 |
Lleoliad | Glannau Dyfrdwy |
Hyd | Llawn Amser, Dyma gwrs blwyddyn lawn amser. |
Adran | Dysgu Sylfaen, Cerbydau Modur |
Dyddiad Dechrau | 01 Sep 2026 |
Dyddiad gorffen | 31 Jul 2027 |
Trosolwg o’r Cwrs
Y cwrs hwn yw eich cam cyntaf i fyd cyffrous gwasanaethu a thrwsio cerbydau. P'un a ydych chi newydd ddechrau neu'n awyddus i ennill sgiliau hanfodol, mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio ar eich cyfer chi. Byddwch chi’n cael dealltwriaeth gref o sut mae cerbydau'n gweithio ac yn datblygu'r sgiliau ymarferol y mae cyflogwyr yn chwilio amdanyn nhw.
Beth Fyddwch chi'n ei Ddysgu:
Byddwch yn barod i ddysgu'r pethau sylfaenol a rhagor! Bydd y cwrs ymarferol hwn yn eich arfogi chi â gwybodaeth a sgiliau hanfodol, gan gynnwys:
*Iechyd a Diogelwch: Dysgu egwyddorion hanfodol i'ch cadw chi ac eraill yn ddiogel yn y gweithdy.
*Peiriannau a Systemau Peiriannau: Darganfod sut mae systemau tanwydd, tanio, oeri, gwacáu ac allyriadau yn gweithio.
*Systemau Brecio a Thrawsyriannau: Deall manylion sut mae'r systemau hanfodol hyn yn gweithredu.
*Llywio, Hongiad, ac Olwyn a Chynnal a Chadw Teiars: Meistroli hanfodion cadw cerbydau ar y ffordd yn ddiogel.
Drwy gydol y rhaglen, byddwch chi hefyd yn canolbwyntio ar ddatblygu eich sgiliau llythrennedd a rhifedd. Bydd gennych chi’r cyfle i fynd i’r afael â chymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Cyfathrebu a Chymhwyso Rhif Bydd y cymwysterau hyn yn eich helpu chi i symud ymlaen i lefelau uwch o ddysgu.
Eich Taith Ddysgu a'ch Cymorth:
Yng Ngholeg Cambria, rydyn ni yma i’ch helpu bob cam o’r ffordd. Byddwn ni’n pennu Anogwr Cynnydd i chi, a fydd yn eich helpu chi drwy gydol eich amser ar y rhaglen. Byddan nhw'n sicrhau bod unrhyw gefnogaeth anghenion dysgu ychwanegol (ADY) ar waith o'r cychwyn cyntaf a bod unrhyw gefnogaeth newydd y gallai fod ei hangen arnoch chi wedi'i hymgorffori yn eich taith ddysgu, gan eich helpu chi i lwyddo. Mae'r cwrs hwn wedi'i gefnogi'n llawn i fodloni eich anghenion unigol a'ch gwahaniaethau dysgu.

4 TGAU gradd E/2 neu uwch, ac mae’n rhaid i ohonynt fod yn Fathemateg a Saesneg Iaith/Gymraeg (Iaith Gyntaf) neu gwblhau cymhwyster Lefel Mynediad perthnasol yn llwyddiannus
I ddysgwyr sydd am symud ymlaen i’r cwrs L1 hwn o raglen Mynediad, mae’n rhaid i chi fod wedi cyflawni eich prif gymhwyster, wedi symud ymlaen yn eich Mathemateg a’ch Saesneg, a bod wedi cyflawni’r holl dargedau yn eich cynllun dysgu unigol.
Yng Ngholeg Cambria rydym yn eich annog chi i wneud y gorau gallwch chi yn eich arholiadau. Y gorau yw eich graddau, y mwyaf o opsiynau fydd gennych chi, a gall hyn eich arwain at ennill lle ar gwrs lefel uwch.

Bydd eich gwybodaeth a’ch sgiliau ymarferol yn cael eu hasesu trwy amrywiaeth o ddulliau:
*Asesiadau ysgrifenedig: Dangos yr hyn rydych chi’n ei wybod gydag aseiniadau ysgrifenedig byr ac arholiadau amlddewis.
*Asesiadau ymarferol: Rhoi eich sgiliau ar brawf yn ystod gweithgareddau gweithdy, a asesir mewn amgylchedd gwaith realistig.

Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn, byddwch chi wedi’ch paratoi’n dda i gymryd eich cam nesaf yn y diwydiant cerbydau modur. Gallech chi symud ymlaen i:
*Prentisiaeth Lefel 2 mewn Cerbydau Modur Rhan-amser Rhyddhau am y Diwrnod.
*Diploma Lefel 2 City & Guilds mewn Egwyddorion Cynnal a Chadw Cerbydau Ysgafn (Llawn Amser).

Bydd angen prynu offer a/neu wisg hanfodol ar gyfer rhai cyrsiau. Edrychwch ar y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Lawrlwythiadau Defnyddiol
Rhestr OfferBarod i ddechrau ar eich taith?
Ein diwrnodau agored
Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llaneurgain
14/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llysfasi
07/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i’ch helpu i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
13/11/2025
17:00
Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch.
Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/11/2025