Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LP01556
Lleoliad
Iâl
Hyd
Llawn Amser, Dyma gwrs blwyddyn lawn amser.
Adran
Therapïau Harddwch, Sba a Chyflenwol, Dysgu Sylfaen, Trin Gwallt a Thorri Gwallt Dynion
Dyddiad Dechrau
04 Sep 2026
Dyddiad gorffen
19 Jun 2027

Trosolwg o’r Cwrs

Yn barod i gymryd eich cam cyntaf i’r byd gwallt a harddwch cyffrous? Nod y cwrs yw eich helpu i ddarganfod eich potensial ac i adeiladu sylfaen gadarn ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol.

Beth Fyddwch chi'n ei Ddysgu:
Mae’r rhaglen yn cynnig amgylchedd cynorthwyol a chroesawgar i chi dyfu’n bersonol, yn gymdeithasol ac yn academaidd. Byddwch yn datblygu’r sgiliau a’r wybodaeth hanfodol yn y sector gwallt a harddwch.

Dyma flas o’r hyn y byddwch yn ei ennill:
*Rhoi Hwb i’ch Sgiliau Craidd: Byddwn yn eich helpu i ddatblygu eich sgiliau llythrennedd a rhifedd gyda chyfleoedd i ennill cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Cyfathrebu a Chymhwyso Rhif.
*Profiad Ymarferol: Byddwch yn barod ar gyfer llawer o dasgau ymarferol a fydd yn gwella eich Mathemateg, Saesneg a Llythrennedd Digidol.
*Cymorth Personol: Bydd gennych Anogwr Bugeiliol a fydd yn eich helpu bob cam o’r daith i wneud yn siŵr bod eich anghenion dysgu yn cael eu cwrdd fel eich bod yn llwyddo.
*Cyflawni a Symud Ymlaen: Byddwch yn gweithio at ddiplomâu lefel Mynediad i’ch helpu gyda symud ymlaen at y lefel nesaf o ddysgu.
Mae’r cwrs hwn wedi’i anelu at ddysgwyr 16-18 oed.

Mae’r cwrs wedi’i gynllunio ar gyfer dysgwyr sy’n gweithio ar lefel Mynediad ac felly nid oes angen cymwysterau ffurfiol i gael mynediad i’r cwrs hwn.

Yng Ngholeg Cambria rydym yn eich annog chi i wneud y gorau gallwch chi yn eich arholiadau. Y gorau yw eich graddau, y mwyaf o opsiynau fydd gennych chi, a gall hyn eich arwain at ennill lle ar gwrs lefel uwch.
Byddwch chi’n cwblhau asesiadau diagnostig WEST ar gyfer llythrennedd a rhifedd i’n helpu ni i ddeall eich anghenion a chefnogi eich taith ddysgu. Byddwch hefyd yn gweithio ar nifer o unedau i gyflawni eich cymwysterau.
Mae’r cwrs hwn ar gyfer eich paratoi ar gyfer yr hyn a ddaw nesaf. Byddwch yn cael ei helpu i gynllunio eich dyfodol trwy gydol y rhaglen.

Gallai’r cymhwyster hwn arwain at:
*Symud ymlaen at ddilyn cwrs lefel uwch mewn maes galwedigaethol o’ch dewis chi
*Cyfleoedd gyda Twf Swyddi Cymru+
*Cyflogaeth yn y sector gwallt a harddwch
*Ymuno â rhaglen yn y gymuned.
Bydd angen prynu offer a/neu wisg hanfodol ar gyfer rhai cyrsiau. Edrychwch ar y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Lawrlwythiadau Defnyddiol
Rhestr Offer

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llaneurgain
14/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llysfasi
07/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i’ch helpu i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
13/11/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/11/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost