Rhagor o fanylion | |
|---|---|
Cod y Cwrs | LP00159 |
Lleoliad | Iâl |
Hyd | Llawn Amser, Dyma gwrs blwyddyn lawn amser. |
Adran | Celf a Dylunio, Dysgu Sylfaen |
Dyddiad Dechrau | 04 Sep 2026 |
Dyddiad gorffen | 19 Jun 2027 |
Trosolwg o’r Cwrs
Ydych chi’n barod i archwilio eich talent artistig a chamu i fyd cyffrous y diwydiannau creadigol? Ein Diploma Lefel 1 mewn Celf, Dylunio a’r Cyfryngau ydy’r lle perffaith i ddechrau are eich taith. Bydd y cwrs blwyddyn llawn amser hwn yn rhoi cyfle i chi blymio i fyd o ddarganfyddiadau artistig, gan eich helpu chi i ddatblygu sgiliau hanfodol a dod o hyd i’r hyn rydych chi’n angerddol amdano.
Yr Hyn Fyddwch Chi'n ei Ddarganfod
Mae'r cwrs deinamig hwn wedi'i gynllunio i'ch cyflwyno chi i'r sector creadigol, gan eich helpu chi i wneud dewisiadau gwybodus am eich dyfodol. Byddwch chi’n datblygu eich creadigrwydd ac yn ennill y sgiliau ymarferol sydd eu hangen arnoch chi ar gyfer gyrfa lwyddiannus yn y diwydiannau creadigol.
Byddwch chi’n archwilio amrywiaeth o unedau celf a’r cyfryngau ac yn datblygu sgiliau trwy weithgareddau ymarferol, gan gynnwys:
*Lluniadu arsylwadol
*Paentio
*Dylunio â Chymorth Cyfrifiadur (CAD)
*Ffotograffiaeth
*Gwaith Cerameg
Byddwch chi’n cael cyfleoedd anhygoel i weithio ȃ phobl broffesiynol wrth eu gwaith. Byddwch chi’n cymryd rhan mewn gweithgareddau diwylliannol a chyd-destunol gan gynnwys ymweliadau addysgol.
Cefnogaeth ar gyfer Eich Llwyddiant.
Rydyn ni yma i’ch helpu chi bob cam o’r ffordd! Byddwn ni’n pennu Anogwr Cynnydd i chi, a fydd yn eich helpu chi drwy gydol y rhaglen. Byddan nhw'n sicrhau bod unrhyw anghenion cymorth dysgu yn eu lle o'r cychwyn cyntaf ac yn sicrhau bod unrhyw anghenion newydd am gymorth yn cael eu cynnwys yn eich rhaglen wrth i chi symud ymlaen. Mae'r cwrs hwn wedi'i gefnogi'n llawn i fodloni eich anghenion unigol a'ch gwahaniaethau dysgu, gan eich helpu chi i lwyddo.
Byddwn ni hefyd yn canolbwyntio ar hybu eich sgiliau llythrennedd a rhifedd. Bydd gennych chi’r cyfle i fynd i’r afael â chymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Cyfathrebu a Chymhwyso Rhif. Bydd y cymwysterau hyn yn eich helpu chi i symud ymlaen at lefelau uwch o ddysgu.

4 TGAU gradd E/2 neu uwch, yn cynnwys un Celf neu bwnc cysylltiedig â chelf a Saesneg Iaith / Cymraeg (Iaith Gyntaf).
Bydd yr holl ymgeiswyr yn cyflawni prosiect mynediad hefyd, ac mae’n rhaid ei gwblhau a llwyddo gyda’r prosiect hwn.
I bob dysgwr sy’n dymuno symud ymlaen i’r cwrs Lefel 1 hwn o raglen Mynediad – mae’n rhaid eich bod wedi cyflawni eich cymhwyster M3, wedi symud ymlaen mewn Mathemateg a Saesneg ac wedi cyrraedd pob un o’r targedau yn eich Cynllun Dysgu Unigol.
Yma yng Ngholeg Cambria rydym ni’n eich annog chi i wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau yw eich graddau, y mwyaf o ddewisiadau fydd gennych chi, a gallai arwain at gael mynediad ar gwrs lefel uwch.

I gyflawni’r cymhwyster hwn, mae’n rhaid i chi lwyddo mewn saith uned. Mae’r uned olaf, prosiect celf, dylunio a’r cyfryngau, yn eich galluogi chi i ddangos popeth rydych chi wedi eu dysgu wrth gwblhau’r unedau eraill. Rhoddir graddau llwyddo, teilyngdod neu ragoriaeth ar gyfer yr uned hon, ac mae’n pennu’r radd gyfansawdd ar gyfer y cymhwyster.
Os ydych chi am symud ymlaen gyda’ch astudiaethau gallwch chi ddilyn cymhwyster Lefel 2 mewn pwnc tebyg fel Celf a Dylunio neu’r Cyfryngau Creadigol. Bydd y cymwysterau hyn hefyd yn eich paratoi chi ar gyfer cyflogaeth yn y diwydiannau creadigol.
Bydd angen prynu offer a/neu wisg hanfodol ar gyfer rhai cyrsiau. Edrychwch ar y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Lawrlwythiadau Defnyddiol
Rhestr OfferBarod i ddechrau ar eich taith?
Ein diwrnodau agored
Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llaneurgain
14/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llysfasi
07/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i’ch helpu i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
13/11/2025
17:00
Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch.
Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/11/2025