Diploma NVQ Lefel 2 VTCT mewn Torri Gwallt Dynion

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LP01388
Lleoliad
Iâl
Hyd
Llawn Amser, Dyma gwrs blwyddyn lawn amser.
3 neu 4 diwrnod yr wythnos yn y coleg o 9am-4.45pm.
Sylwch y gallai eich amserlen gynnwys rhai sesiynau gyda’r nos.


Adran
Trin Gwallt a Thorri Gwallt Dynion
Dyddiad Dechrau
03 Sep 2026
Dyddiad gorffen
18 Jun 2027

Trosolwg o’r Cwrs

Yn barod am yrfa gyffrous yn y diwydiant torri gwallt dynion? Os felly, dyma’r cwrs ar eich cyfer chi! Mae ein Diploma Lefel 2 mewn Torri Gwallt Dynion wedi'i gynllunio i ddatblygu eich sgiliau ymarferol ac i roi'r hyder i chi ragori yn y diwydiant hwn sy’n newid yn barhaus.

Beth Fyddwch chi'n ei Ddysgu

Byddwch chi'n ennill sgiliau hanfodol yn:
- Y gelfyddyd greadigol o dorri gwallt dynion
- Technegau arbenigol ar gyfer torri gwallt ar y wyneb
- Darparu gwasanaethau siampŵio, cyflyru a steilio effeithiol
- Yn cynnig gwasanaethau ymgynghori rhagorol i gleientiaid.

Ochr yn ochr â'r sgiliau ymarferol hyn byddwch yn datblygu dealltwriaeth gref o iechyd a diogelwch yn amgylchedd y salon a sut beth yw gweithio yn y diwydiant trin gwallt mewn gwirionedd. Byddwch hefyd yn meithrin y wybodaeth sylfaenol i gefnogi eich holl ddysgu ymarferol.

4 TGAU gradd D/3 neu uwch gan gynnwys Mathemateg a Saesneg Iaith/Cymraeg (iaith gyntaf), neu fod wedi cwblhau cymhwyster Lefel 1 perthnasol yn llwyddiannus sy’n rhaid cynnwys cyflawni cymhwyster rhifedd a llythrennedd.

Yng Ngholeg Cambria byddwn yn eich annog i wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Bydd gennych chi ragor o ddewisiadau os oes gennych chi raddau da, a gallai hynny arwain at gael mynediad i gwrs lefel uwch.
Rydym yn credu mewn twf parhaus ac felly byddwch yn ymgymryd ag amrywiaeth o weithgareddau ymarferol ac yn derbyn asesiadau rheolaidd drwy gydol y flwyddyn.

Bydd eich gwybodaeth a’ch dealltwriaeth sylfaenol yn cael eu profi trwy aseiniadau ac arholiadau ysgrifenedig gan sicrhau eich bod yn deall pob agwedd o’r cwrs.



Mae cwblhau’r cymhwyster hwn yn llwyddiannus yn gallu agor drysau i rolau cyffrous yn uniongyrchol o fewn y diwydiant torri gwallt dynion. Gallwch ddechrau fel steilydd iau neu hyd yn oed weithio fel barbwr annibynnol!

Gall y cymhwyster hwn hefyd arwain at astudiaeth bellach fel:
– Lefel 2 mewn Trin Gwallt
– Lefel 2 mewn Gwallt a Cholur y Cyfryngau
– Lefel 3 mewn Torri Gwallt Dynion.
Bydd angen prynu offer a/neu wisg hanfodol ar gyfer rhai cyrsiau. Edrychwch ar y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Lawrlwythiadau Defnyddiol
Rhestr Offer

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llaneurgain
14/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llysfasi
07/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i’ch helpu i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
13/11/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/11/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost