Diploma Lefel 2 mewn Gwasanaethau Cyhoeddus

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LP01272
Lleoliad
Iâl
Hyd
Llawn Amser, Dyma gwrs blwyddyn llawn amser.
Adran
Gwasanaethau Cyhoeddus mewn Lifrai
Dyddiad Dechrau
02 Sep 2026
Dyddiad gorffen
19 Jun 2027

Trosolwg o’r Cwrs

Ydych chi'n barod i gychwyn ar yrfa foddhaol lle rydych chi'n cael eich parchu, eich herio, ac yn tyfu'n gyson? Mae'r sector Gwasanaethau Cyhoeddus mewn Lifrai yn cynnig cyfleoedd aruthrol ar gyfer dyrchafiad a datblygiad proffesiynol parhaus, wedi'u hadeiladu ar sylfaen o waith tîm a chefnogaeth. Os ydych chi'n awyddus i wneud gwahaniaeth gwirioneddol, y diploma hwn ydy eich llwybr i ddyfodol gwerth chweil.

Mae'r cwrs blwyddyn, llawn amser hwn wedi'i gynllunio'n fanwl i roi’r wybodaeth, y sgiliau a'r ddealltwriaeth hanfodol sydd eu hangen arnoch chi ar gyfer mynediad llwyddiannus i'ch gwasanaeth cyhoeddus dewisol. Byddwch chi'n datblygu sgiliau gwaith tîm, datrys problemau, cyfathrebu a rhyngbersonol pwysig sy'n hanfodol ar gyfer y rolau hyn.

Beth fyddwch chi'n ei brofi:
* Dysgu ymarferol: Paratowch ar gyfer heriau yn y byd go iawn gyda gweithgareddau fel profion ffitrwydd ac unedau gorfodol fel "Dinasyddiaeth, Cymdeithas a'r Gwasanaethau Cyhoeddus" a "Throsedd a'i Effaith ar Gymdeithas ac Unigolion"
* Datblygiad wedi'i Deilwra: Dewiswch o unedau dewisol sy'n ennyn eich diddordeb, gan gynnwys "Paratoi i Ymateb i Ddigwyddiadau Brys," "Iechyd, Ffitrwydd a Ffordd o Fyw," a "Phrofiad Alldaith Aml-ddydd"
* Ymgysylltiad Cymunedol: Y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth, byddwch chi’n cymryd rhan weithredol mewn gweithgareddau ymgysylltu cymunedol ac yn gweithio tuag at ennill eich Gwobr Dug Caeredin
* Cymorth Academaidd: Angen rhoi hwb i'ch TGAU Saesneg neu Fathemateg? Rydyn ni’n cynnig cyfleoedd i ail-sefyll arholiadau. Os ydych chi eisoes wedi eu trefnu, byddwn ni’n darparu gweithgareddau estyniad i wella eich sgiliau llythrennedd a rhifedd ymhellach
* Cyfleoedd Trochol: Manteisiwch ar alldeithiau awyr agored cyffrous ac ymweliadau craff i wahanol sefydliadau gwasanaeth cyhoeddus (yn amodol ar argaeledd). Byddwch chi hefyd yn cael safbwyntiau gwerthfawr gan bersonél ar draws ystod o wasanaethau cyhoeddus mewn lifrai.
4 TGAU gradd D/3 neu uwch gan gynnwys Mathemateg a Saesneg Iaith/Cymraeg (Iaith Gyntaf) neu gwblhau rhaglen Lefel 1 berthnasol yn llwyddiannus y mae’n rhaid iddi gynnwys cyflawniad mewn rhifedd a llythrennedd.

Yng Ngholeg Cambria rydyn ni’n eich annog chi i wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau fydd eich canlyniadau y mwyaf o ddewisiadau fydd gennych chi a gallai hynny arwain at ddechrau cwrs lefel uwch.

Bydd eich cynnydd yn cael ei asesu’n barhaus trwy amrywiaeth o ddulliau deniadol, gan gynnwys arholiadau, aseiniadau ysgrifenedig, cyflwyniadau llafar, gweithgareddau ymarferol, a phrofiadau eraill sy’n gysylltiedig â gwaith. Gallwch chi gyflawni Llwyddiant, Teilyngdod, neu Ragoriaeth, gan adlewyrchu eich ymroddiad a’ch cynnydd.
Mae’r diploma hwn yn darparu sylfaen ardderchog ar gyfer amrywiaeth o lwybrau gyrfa cyffrous:

– Prentisiaethau: Yn ddelfrydol ar gyfer symud ymlaen i brentisiaethau gyda’r Lluoedd Arfog
– Rhagor o Astudio: Os byddwch chi’n cyflawni gradd Teilyngdod cyffredinol, ynghyd â gradd C/4 mewn Saesneg a Mathemateg TGAU, gallech chi symud ymlaen i Ddiploma Lefel 3 NCFE ar gyfer Mynediad i’r Gwasanaethau Amddiffynnol mewn Lifrai (601/8792/X).

Mynediad Uniongyrchol: Mae’r cwrs hwn yn arbennig o fuddiol os ydych chi’n anelu at ymuno â’r:
– Lluoedd Arfog – Yr Awyrlu Brenhinol, Byddin Prydain, y Llynges Frenhinol
– Gwasanaethau Brys: Heddlu, Tân, neu Wasanaeth Ambiwlans
– Gwasanaeth Carchardai neu Asiantaeth Ffiniau.
Bydd angen prynu offer a/neu wisg hanfodol ar gyfer rhai cyrsiau. Edrychwch ar y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Lawrlwythiadau Defnyddiol
Rhestr Offer

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llaneurgain
14/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llysfasi
07/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i’ch helpu i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
13/11/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/11/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost