Diploma Cyflwyniadol Lefel 3 mewn Teithio a Thwristiaeth

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LP00495
Lleoliad
Iâl
Hyd
Llawn Amser, Dyma gwrs 2 flynedd llawn amser.
Mae’r Diploma Lefel 3 mewn Teithio a Thwristiaeth yn rhaglen blwyddyn. Ar ôl cwblhau’r diploma’n llwyddiannus bydd dysgwyr yn symud ymlaen at flwyddyn dau i gwblhau’r Diploma Estynedig mewn Teithio a Thwristiaeth.



Adran
Teithio a’r Economi Ymwelwyr
Dyddiad Dechrau
03 Sep 2026
Dyddiad gorffen
18 Jun 2027

Trosolwg o’r Cwrs

Yn barod am anturiaethau newydd a chyffrous? Ein Diploma Lefel 3 mewn Teithio a Thwristiaeth yw eich tocyn dosbarth cyntaf at yrfa gyffrous yn un o ddiwydiannau mwyaf bywiog y byd!

Nid cwrs yn unig yw hwn; dyma eich siwrnai at ddod yn weithiwr proffesiynol medrus sy’n barod ar gyfer rolau fel Cynorthwyydd Hedfan, Tywysydd Teithiau, Asiant Teithio a mwy. Byddwch chi'n ennill profiad ymarferol yn y byd go iawn ac yn datblygu'r sgiliau hanfodol y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt.

Mae'r cwrs amser llawn dwy flynedd hwn wedi'i gynllunio i roi dealltwriaeth gynhwysfawr i chi o'r diwydiant teithio a thwristiaeth. Byddwch yn astudio’r Diploma Lefel 3 yn y flwyddyn gyntaf ac ar ôl ei gwblhau'n llwyddiannus byddwch yn symud ymlaen i'r ail flwyddyn i gwblhau'r Diploma Estynedig mewn Teithio a Thwristiaeth.

Byddwch yn astudio ystod eang o bynciau sy'n ymwneud yn uniongyrchol â'r diwydiant a fydd yn eich paratoi ar gyfer gyrfa amrywiol a gwobrwyol.

Mae unedau allweddol y gallech eu hastudio yn cynnwys:
* Diwydiant Teithio a Thwristiaeth y DU ac Atyniadau Ymwelwyr y DU
* Cyrchfannau Teithio a Thwristiaeth
* Gweithrediadau Asiantaeth Teithio
* Y Diwydiant Mordeithio a Chriw'r Caban
* Tywys Teithiau a Phrofiad y Maes Awyr
* Twristiaeth Gyfrifol
* Gwasanaeth i Gwsmeriaid
(Sylwch: mae unedau yn debygol o newid)

Elfennau Hanfodol o’r Cwrs
Yn ogystal â chynnwys craidd y cwrs bydd eich rhaglen ddysgu yn cynnwys:

* Cymhwyster Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch neu TGAU neu Gymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru
* Hyfforddiant ac asesiadau Sgiliau Hanfodol Cymru
* Datblygu sgiliau Cymraeg
* Lleoliad Gwaith lle byddwch yn defnyddio eich sgiliau mewn amgylchedd gwaith go iawn.

5 TGAU gradd C/4 neu uwch gan gynnwys Mathemateg neu Saesneg/Cymraeg (Iaith Gyntaf) NEU gwblhau rhaglen Lefel 2 berthnasol yn llwyddiannus y mae’n rhaid iddi gynnwys cyflawniad mewn rhifedd a llythrennedd.

Yng Ngholeg Cambria rydym yn eich annog chi I wneud y gorau gallwch chi yn eich arholiadau. Y gorau yw eich graddau, y mwyaf o opsiynau fydd gennych chi, a gall hyn eich arwain at ennill lle ar gwrs lefel uwch.
Rydyn ni’n credu mewn asesiad parhaus sy’n cynnig profiad ymarferol. Byddwch yn cael eich asesu drwy gydol y cwrs gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau diddorol gan gynnwys:

* Aseiniadau ysgrifenedig ac ymarferol
* Cyflwyniadau, hyrwyddiadau, digwyddiadau a chwarae rôl
* Gall rhai asesiadau hefyd ddigwydd mewn amgylcheddau gwaith go iawn yn ystod eich lleoliadau profiad gwaith gyda sefydliadau allanol.

Mae cwblhau’r cwrs Lefel 3 dwy flynedd yn cynnig sylfaen wych ac yn agor drysau i ystod amrywiol o Ddiplomâu a Graddau Addysg Uwch.

Byddwch yn barod i ddilyn gyrfa gyffrous yn y sector teithio a thwristiaeth mewn swyddi fel:

* Cynorthwyydd Hedfan
* Asiant Teithio neu Ymgynghorydd Mordeithiau
* Arweinydd Teithiau
* Cynrychiolydd Cyrchfan neu Staff Llongau Mordeithio
* Asiant Gwasanaeth Teithwyr Maes Awyr
* Cynlluniwr Cynadleddau a Digwyddiadau.

Efallai y bydd rhai cyrsiau yn gofyn am brynu cit/offer. Edrychwch ar y rhestr cit atodedig i gael rhagor o wybodaeth.

Lawrlwythiadau Defnyddiols
Lawrlwythiadau Defnyddiol
Rhestr Offer

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llaneurgain
14/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llysfasi
07/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i’ch helpu i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
13/11/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/11/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost