Rhagor o fanylion | |
|---|---|
Cod y Cwrs | LA01141 |
Lleoliad | Glannau Dyfrdwy |
Hyd | Llawn Amser, Mae’r cynnwys UG yn cael ei addysgu ym mlwyddyn gyntaf yr astudio. Mae’r cynnwys Safon Uwch yn cael ei addysgu yn ail flwyddyn yr astudio. |
Adran | Cyrsiau Safon Uwch |
Dyddiad Dechrau | 01 Sep 2026 |
Dyddiad gorffen | 19 Jun 2027 |
Trosolwg o’r Cwrs
Ydych chi'n angerddol am chwaraeon? Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio ar eich cyfer chi, p'un a ydych chi'n chwaraewr, yn hyfforddwr, neu'n weithiwr proffesiynol chwaraeon uchelgeisiol. Byddwch chi’n ennill dealltwriaeth gadarn o'r hyn sydd ei angen i chi berfformio ar eich gorau, o wyddoniaeth symud i seicoleg yn ymwneud â chystadlu. Gyda'r cymhwyster hwn, byddwch chi’n agor drysau i gyfleoedd cyffrous yn y diwydiant chwaraeon sy’n ddeinamig ac yn gystadleuol.
Beth Fyddwch chi'n ei Ddysgu
Byddwch chi’n barod i ymchwilio i'r meysydd allweddol sy'n dylanwadu ar berfformiad mewn gweithgareddau corfforol a chwaraeon. Bydd y cwrs hwn yn rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau i chi sydd eu hangen arnoch chi i ragori.
* Anatomeg a ffisioleg gymhwysol: Deall sut mae systemau eich corff yn newid cyn, yn ystod ac ar ôl ymarfer corff.
* Ffisioleg ymarfer corff: Archwilio deiet, maeth, dulliau hyfforddi ac atal anafiadau fel dulliau i gynnal a gwella perfformiad.
* Symudiad biofecanyddol: Dysgu am symudiad a grymoedd a sut maen nhw'n effeithio ar berfformiad.
* Caffael sgiliau: Darganfod yr egwyddorion y tu ôl i ddysgu sgiliau newydd a datblygu rhai presennol.
* Seicoleg Chwaraeon: Deall ochr feddyliol y gêm a sut y gall seicoleg optimeiddio perfformiad.
* Chwaraeon a chymdeithas: Archwilio’r berthynas ddiddorol rhwng chwaraeon a chymdeithas a sut mae wedi esblygu.
Byddwch chi’n defnyddio’r wybodaeth hon mewn sefyllfaoedd bywyd go iawn mewn chwaraeon ac yn defnyddio gwahanol ddamcaniaethau a chysyniadau i ddadansoddi a gwerthuso perfformiad.

5 TGAU gradd C/4 neu uwch gan gynnwys Saesneg Iaith / Cymraeg (Iaith Gyntaf) a Mathemateg, yn ogystal â bodloni’r meini prawf canlynol:
Oherwydd y pwyslais ar asesu perfformiad a hyfforddi mewn chwaraeon penodol, mae’n hanfodol eich bod chi’n cymryd rhan mewn o leiaf un gweithgaredd chwaraeon ar lefel clwb.
Yng Ngholeg Cambria rydyn ni’n eich annog chi i wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau fydd eich canlyniadau y mwyaf o ddewisiadau fydd gennych chi a gallai hynny arwain at ddechrau cwrs lefel uwch.

Mae’r cymhwyster Uwch Gyfrannol (UG) yn ffurfio 40% o werth asesu’r cymhwyster Safon Uwch llawn. Gellir astudio’r cwrs Uwch Gyfrannol fel rhan gyntaf y cwrs Safon Uwch neu fel cymhwyster ar wahân. Bydd ymgeiswyr UG yn astudio dwy uned:
Uned 1: “Archwilio Addysg Gorfforol” – arholiad ysgrifenedig awr a tri chwarter, sy’n werth 24% o’r cymhwyster. Mae’r cwestiynau cyd-destunol ar y prawf hwn, sy’n gwerthuso holl gynnwys pwnc Safon Uwch, yn cynnwys cwestiynau amlddewis, cwestiynau sy’n gofyn am ymateb i ddata, rhai cwestiynau byr a rhai’n gofyn am atebion estynedig.
Uned 2: “Gwella Perfformiad Personol mewn Addysg Gorfforol” – asesiad di-arholiad ydy hwn sy’n werth 16% o’r cymhwyster sy’n asesu:
• perfformiad ymarferol mewn un gweithgaredd fel chwaraewr/perfformiwr
• perfformiad ymarferol fel hyfforddwr / swyddog
• proffil perfformiad personol.
Yn ddelfrydol, dylai darpar fyfyrwyr fod yn cystadlu’n rheolaidd yn eu camp ddewisol er mwyn gallu casglu tystiolaeth fideo. Dylai myfyrwyr sefydlu cysylltiadau yn eu cymuned (naill ai mewn ysgol neu glwb lleol) er mwyn cael cyfleodd rheolaidd i hyfforddi. Bydd hyn yn eu gwneud hi’n bosibl iddyn nhw gael eu hasesu fel hyfforddwr.
Bydd ymgeiswyr Safon Uwch yn cymryd dwy uned ychwanegol:
Uned 3: Bydd “Gwerthuso Addysg Gorfforol” yn cael eu hasesu drwy arholiad ysgrifenedig sy’n 2 awr o hyd ac sy’n werth 36% o’r cymhwyster.
Uned 4: “Mireinio Perfformiad Personol mewn Addysg Gorfforol” sy’n asesiad di-arholiad sy’n werth 24% o’r cymhwyster. Mae’r uned hon yn asesu perfformiad ymarferol mewn un gweithgaredd fel chwaraewr/perfformiwr, hyfforddwr neu swyddog a phrosiect ymchwil ymchwiliol.

Ar ôl cwblhau, byddwch chi wedi’ch paratoi i ddilyn amrywiaeth o yrfaoedd gwerth chweil yn y diwydiant chwaraeon a hamdden. Mae’r cymhwyster hwn yn cael ei barchu’n fawr a gall arwain at lwybrau gyrfa cyffrous mewn meysydd fel:
* Gweinyddiaeth Chwaraeon
* Rheoli Chwaraeon a Hamdden
* Heddlu a’r Lluoedd Arfog
* Nyrsio a Ffisiotherapi
* Newyddiaduriaeth Chwaraeon
* Addysgu
Gallech chi hefyd symud ymlaen i astudiaethau ychwanegol mewn Addysg Uwch mewn pynciau fel Gwyddor Chwaraeon, Symudiad Dynol, neu Reolaeth Hamdden.

Lawrlwythiadau Defnyddiols
Barod i ddechrau ar eich taith?
Ein diwrnodau agored
Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llaneurgain
14/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llysfasi
07/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i’ch helpu i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
13/11/2025
17:00
Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch.
Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/11/2025