Mathemateg Bellach - Lefel A

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LA09151
Lleoliad
Glannau Dyfrdwy
Hyd
Llawn Amser, Mae’r cymhwyster Mathemateg Safon Uwch yn cael ei addysgu ym mlwyddyn gyntaf yr astudio.
Mae’r cymhwyster Mathemateg Bellach Safon Uwch yn cael ei addysgu yn yr ail flwyddyn astudio.
Adran
Cyrsiau Safon Uwch
Dyddiad Dechrau
01 Sep 2026
Dyddiad gorffen
19 Jun 2027

Trosolwg o’r Cwrs

Er mwyn sicrhau lle priodol ar y cwrs, dylai myfyrwyr wneud cais am un opsiwn mathemateg yn unig. Gallwch ddewis naill ai Mathemateg Safon Uwch neu Fathemateg Bellach Safon Uwch.

Ydych chi’n barod i fynd y tu hwnt i’ch ffiniau mathemategol ac agor drysau i gyrsiau prifysgol a gyrfaoedd cyffrous? Mae ein cwrs Mathemateg Bellach Safon Uwch wedi'i gynllunio ar gyfer myfyrwyr uchelgeisiol fel chi sydd eisiau archwilio cysyniadau mathemategol uwch a datblygu sgiliau dadansoddol sydd mewn galw mawr.

Beth Fyddwch chi'n ei Ddysgu

Bydd y cwrs uwch hwn yn adeiladu ar eich gwybodaeth fathemategol bresennol, gan roi dealltwriaeth ddyfnach i chi o theorïau cymhleth a'u cymwysiadau yn y byd go iawn. Byddwch chi’n dysgu sut i:
* Feistroli dadleuon, gwybodaeth a phrawf mathemategol: Datblygu dull trylwyr o ddatrys problemau cymhleth.
* Datrys problemau a chreu modelau mathemategol: Deall sut i gynrychioli sefyllfaoedd byd go iawn yn fathemategol a chymhwyso modelau safonol.
* Dadansoddi a dehongli data mewn ystadegau: Defnyddio data i gael gwybodaeth werthfawr a fydd yn eich helpu chi i wneud penderfyniadau.
* Gweld perthnasedd mathemateg mewn gwahanol feysydd: Darganfod sut mae mathemateg yn sail i bynciau fel Bioleg, Cemeg, Ffiseg ac Economeg, a'i heffaith ehangach ar waith a chymdeithas.
5 TGAU gradd C/4 neu uwch gan gynnwys Iaith Saesneg / Cymraeg (Iaith Gyntaf) a bodloni’r meini prawf canlynol:

* TGAU Mathemateg gradd A*/A/7-9 ar yr haen UWCH
* TGAU mewn pwnc cysylltiedig gradd A*/A/7
* Mae Mathemateg Ychwanegol yn fantais

Yng Ngholeg Cambria, byddem ni’n eich annog chi i wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau fydd eich canlyniadau y mwyaf o ddewisiadau fydd gennych chi, a gallai hynny arwain at ddechrau cwrs lefel uwch.
Bydd eich cynnydd yn cael ei asesu drwy gyfres o bapurau ysgrifenedig sydd wedi’u cynllunio i brofi eich dealltwriaeth o fathemateg bur a chymhwysol. Byddwch chi hefyd yn cael ffug arholiad mewnol i roi profiad realistig i chi o amgylchedd yr arholiad.
Mathemateg Safon Uwch (Blwyddyn Gyntaf):

Lefel UG:
* Uned 1: Mathemateg Bur (papur ysgrifenedig 2.5 awr, 25% o gymhwyster Safon Uwch llawn)
* Uned 2: Mathemateg Gymhwysol (adrannau Ystadegaeth a Mecaneg, papur ysgrifenedig 1.75 awr, 15% o gymhwyster Safon Uwch llawn)
Lefel Safon Uwch:
* Uned 3: Mathemateg Bur (papur ysgrifenedig 2.5 awr, 35% o gymhwyster Safon Uwch llawn)
*Uned 4: Mathemateg Gymhwysol (adrannau Ystadegaeth, Hafaliadau Gwahaniaethol, Dulliau Rhifiadol, a Mecaneg, papur ysgrifenedig 1.75 awr, 25% o gymhwyster Safon Uwch llawn)

Mathemateg Bellach Safon Uwch (Ail Flwyddyn):

Lefel UG:
* Uned 1: Mathemateg Bur (papur ysgrifenedig 1.5 awr, 13 1/3% o gymhwyster UG)
* Uned 2: Ystadegaeth (papur ysgrifenedig 1.5 awr, 13 1/3% o gymhwyster UG)
* Uned 3: Mecaneg (papur ysgrifenedig 1.5 awr, 13 1/3% o gymhwyster UG)
Lefel Safon Uwch
* Uned 4: Mathemateg Bur (papur ysgrifenedig 2.5 awr, 35% o gymhwyster Safon Uwch llawn)
* Uned 5 NEU Uned 6: Ystadegaeth neu Fecaneg (arholiad 1.75 awr, 25% o gymhwyster Safon Uwch llawn – DIM OND UN o’r papurau hyn byddwch chi’n ei sefyll)
Mae Lefel A mewn Mathemateg Bellach yn cael ei werthfawrogi’n fawr gan brifysgolion a chyflogwyr. Mae’n dod yn ddewis mwy poblogaidd i fyfyrwyr sydd eisiau dilyn cyrsiau prifysgol mewn ffiseg, peirianneg neu gemeg. Y tu hwnt i addysg uwch, bydd eich sgiliau mathemategol uwch yn agor drysau i yrfaoedd gwerth chweil yn:
* Y Gwasanaeth Sifil
* Cyllid a Bancio
* Rolau Technegol, Cyfrifiadurol, Gwyddonol a Pheirianneg
* Sefydliadau Llywodraethol a Datblygiadol

Mae mathemategwyr yn cyfrannu at bron bob diwydiant, ac mae’r sgiliau rydych chi’n eu datblygu – meddwl yn feirniadol, datrys problemau, rhesymu dadansoddol, a’r gallu i drin syniadau cymhleth – yn drosglwyddadwy iawn ac yn boblogaidd iawn.
Lawrlwythiadau Defnyddiols

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llaneurgain
14/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llysfasi
07/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i’ch helpu i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
13/11/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/11/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost