Rhagor o fanylion | |
|---|---|
Cod y Cwrs | LA09153 |
Lleoliad | Glannau Dyfrdwy |
Hyd | Llawn Amser, Mae’r cynnwys UG yn cael ei addysgu ym mlwyddyn gyntaf yr astudio. Mae’r cynnwys Safon Uwch yn cael ei addysgu yn ail flwyddyn yr astudio. |
Adran | Cyrsiau Safon Uwch |
Dyddiad Dechrau | 01 Sep 2026 |
Dyddiad gorffen | 19 Jun 2027 |
Trosolwg o’r Cwrs
Yn barod i blymio i mewn i'r grymoedd deinamig sy'n llunio ein planed a'n cymdeithasau? Mae Daearyddiaeth Safon Uwch yn cynnig cyfle unigryw i chi ddeall materion hollbwysig ein hoes, o dirweddau newidiol i heriau byd-eang. Nid ffeithiau yn unig yw cynnwys y cwrs hwn; mae'n ymwneud â'ch arfogi â sgiliau hanfodol ar gyfer dyfodol llawn boddhad.
Yr Hyn Fyddwch Chi'n ei Archwilio
Mae Daearyddiaeth yn adeiladu ar eich gwybodaeth TGAU ac yn eich galluogi i ddatblygu dealltwriaeth ddofn o'n byd. Byddwch yn ennill sgiliau ymarferol mewn:
* Ysgrifennu traethodau a meddwl yn feirniadol
* Dadansoddi a dehongli data
* Darllen mapiau a systemau gwybodaeth ddaearyddol
* Gwaith maes ac ymchwil annibynnol
Uchafbwyntiau’r Cwrs:
Blwyddyn 1:
Tirweddau Newidiol: Edrych ar dirweddau arfordirol rhyfeddol a deall grymoedd pwerus peryglon tectonig
Lleoedd Newidiol: Edrych ar sut y mae lleoedd wedi’u siapio a chynnal gwaith maes eich hun yn ymchwilio i ddaearyddiaeth ffisegol a dynol.
Blwyddyn 2:
Systemau Byd-eang a Llywodraethu Byd-eang: Datgelu cymhlethdodau cylchoedd dŵr a charbon ac edrych ar batrymau mudo byd-eang a llywodraethu ein cefnforoedd.
Themâu Cyfoes mewn Daearyddiaeth: Ymchwilio i dwf a heriau economaidd gan ganolbwyntio ar Tsieina a phroblemau ynni byd-eang.
Ymchwil Annibynnol: Ymgymryd ag asesiad sylweddol di-arholiad (3000-4000 o eiriau) yn seiliedig ar eich casgliad data sylfaenol ac eilaidd eich hun. Dyma eich cyfle i archwilio pwnc daearyddol rydych chi'n angerddol amdano!
Paratoi eich Hun ar gyfer Profiad yn y Byd Go Iawn!
Mae ymweliadau maes gorfodol yn rhan graidd o'r cwrs hwn sy’n eich galluogi i roi eich gwybodaeth ar waith a chasglu data gwerthfawr ar gyfer eich ymchwiliad annibynnol. Byddwch yn cynllunio, casglu, dadansoddi a gwerthuso eich data eich hun gan ddatblygu sgiliau ymchwil annibynnol hanfodol.

5 TGAU gradd C/4 neu uwch gan gynnwys Saesneg Iaith / Cymraeg (Iaith Gyntaf) a Mathemateg, ynghyd â’r meini prawf canlynol:
C/4 neu uwch mewn TGAU Daearyddiaeth.
Yng Ngholeg Cambria, byddem ni’n eich annog chi i wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau fydd eich canlyniadau y mwyaf o ddewisiadau fydd gennych chi a gallai hynny arwain at ddechrau cwrs lefel uwch.

Byddwch chi’n profi amrywiaeth o ddulliau asesu drwy gydol y flwyddyn gan gynnwys arholiadau ffug mewnol. Bydd eich arholiadau Safon Uwch allanol yn digwydd ym mis Mai/Mehefin yn eich blwyddyn gyntaf gan gyfrannu 40% at eich gradd Safon Uwch yn gyfan gwbl.
Mae cyflogwyr yn gwerthfawrogi graddedigion Daearyddiaeth yn fawr oherwydd y sgiliau amlbwrpas y byddwch chi’n eu datblygu. Ystyrir daearyddiaeth yn “bwnc hwylusol” ar gyfer mynediad i brifysgol gan agor drysau i ystod eang o raglenni gradd a gyrfaoedd cyffrous.
Mae ein cyn-fyfyrwyr wedi symud ymlaen i ddilyn gyrfaoedd amrywiol a llawn boddhad fel:
* Samplu a Monitro Amgylcheddol
* Cynllunio Tref a Gwlad
* Swyddog Llywodraeth Leol
* Gweithiwr Cymdeithasol
* Gwas Sifil
* Rheolwr Personél
* Athro
* Swyddog yr Heddlu
Mae daearyddiaeth yn darparu sylfaen ardderchog ar gyfer unrhyw yrfa sy’n cynnwys dadansoddi ystadegol o seilwaith ac adnoddau naturiol, yn y DU ac yn fyd-eang. O ddeall symudiadau a thueddiadau poblogaeth mewn marchnata i amddiffyn a rheoli ein hamgylchedd gall Daearyddiaeth gynnig dealltwriaeth bwerus ac unigryw o’r byd o’n cwmpas.

Lawrlwythiadau Defnyddiols
Barod i ddechrau ar eich taith?
Ein diwrnodau agored
Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llaneurgain
14/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llysfasi
07/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i’ch helpu i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
13/11/2025
17:00
Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch.
Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/11/2025