DIPLOMA LEFEL 3 MEWN GOFAL ANIFEILIAID YN Y GWAITH

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LA87899
Lleoliad
Glannau Dyfrdwy
Hyd
Dysgu Agored neu Ddysgu O Bell, Mae dysgwyr yn cael eu hannog i weithio ar eu cyflymder eu hunain, gan ddilyn rhaglenni dysgu unigol.
Bydd yr amser y mae’n ei gymryd i gwblhau’r cymhwyster hwn yn dibynnu ar nifer o ffactorau ond mae disgwyl y bydd angen rhwng 18 a 24 mis ar y rhan fwyaf o ymgeiswyr i wneud hynny.



Adran
Gofal a Rheolaeth Anifeiliaid
Dyddiad Dechrau
Roll On, Roll Off
Dyddiad gorffen
Roll On, Roll Off

Trosolwg o’r Cwrs

Nod y rhaglen hon ydy darparu cymhwyster sy’n berthnasol i’r gwaith sy’n seiliedig ar gymhwysedd. Mae’n adlewyrchu’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen i wneud swydd o fewn y diwydiant gofal anifeiliaid, ac yn dangos bod y dysgwr yn gymwys yn y maes hwn o waith. Mae Gofal Anifeiliaid Anwes a Manwerthu yn addas ar gyfer y rhan fwyaf o ddysgwyr mewn amgylchedd gwaith gofal anifeiliaid, sydd hefyd yn ymgymryd ag elfennau o ofal anifeiliaid a manwerthu. Fodd bynnag, mae llwybrau eraill ar gael, gan gynnwys Twtio Cŵn, Gofal a Lles Anifeiliaid, Gorfodaeth Lles Anifeiliaid, Sŵau a Sefydliadau Bywyd Gwyllt, Hyfforddi Anifeiliaid, Wardeniaid Cŵn/Anifeiliaid, ac Anifeiliaid mewn Addysg ac Adloniant.

Mae'r lefel hon yn ddelfrydol os ydych chi wedi gweithio ym maes gofal anifeiliaid ers peth amser. Mae gennych chi ddigon o brofiad, ac rydych chi eisiau dangos bod gennych chi’r sgiliau sydd eu hangen arnoch chi i wneud eich swydd yn dda. Gall hyn fod yn rhan o’ch datblygiad proffesiynol, neu baratoi ar gyfer hyfforddiant ar lefel uwch.

I ennill y cymhwyster hwn, mae’n rhaid i chi gyflawni ystod o unedau gorfodol a dewisol, sy’n gyfanswm o 54 neu ragor o gredydau. Mae’r union ddewis o unedau dewisol gallwch chi ddewis ohonyn nhw yn dibynnu ar eich swydd, a gallai gael ei deilwra i fodloni eich anghenion hyfforddiant, ac anghenion eich cyflogwr. Mae’r unedau dewisol yn cynnwys:
* Helpu cwsmeriaid i ddewis cynnyrch mewn amgylchedd manwerthu
* Cynnal argaeledd nwyddau i’w gwerthu i gwsmeriaid mewn amgylchedd manwerthu
* Trin anifeiliaid
* Gwerthu meddyginiaethau a thriniaethau dros y cownter ar gyfer gofal anifeiliaid
* Gwella’r berthynas gyda’r cwsmeriaid
* Hyrwyddo, monitro a chynnal iechyd, diogelwch a diogeledd eich gweithle

Mae dysgwyr addas o bob oedran yn cael eu gwahodd i ymuno unrhyw bryd yn ystod y flwyddyn. Nid oes unrhyw ofynion sylfaenol, ond bydd asesiad cwmpas swydd ac asesiadau cychwynnol yn cael eu cynnal i sicrhau bod y cwrs cywir yn cael ei ddewis.
Mae asesu yn yr ardal waith yn digwydd trwy gydol y rhaglen, ochr yn ochr â chwestiynu ysgrifenedig a/neu lafar. Bydd hyn yn cael ei ddefnyddio i asesu cymhwysedd a gwybodaeth greiddiol. Bydd rhaid cwblhau asesiad hefyd. Bydd eich asesydd coleg yn ymweld â’ch gweithle sy’n gorfod cydymffurfio â gweithio mewn amgylchedd diogel. Mae cymorth ar-lein ar gael drwy amgylchedd dysgu rhithwir.
Mae credydau o ddysgu blaenorol yn cael eu hystyried, ond mae’n rhaid iddyn nhw fod wedi’u cwblhau o fewn amser penodol.

Gall bodloni un o’r cymwysterau hyn eich helpu chi i weithio mewn swyddi fel:
Gweithiwr twtio cŵn
Technegydd anifeiliaid
Ymddygiadwr anifeiliaid cymhwysol
Gweithiwr llety cŵn
Cymhorthydd siop anifeiliaid anwes
Mewn llawer o achosion, efallai y bydd cyllid ar gael tuag at gost y cwrs.​ Cysylltwch â’n Tîm Ymgysylltu â Chyflogwyr trwy ffonio 0300 30 30 006 neu anfon e-bost at cyflogwyr@cambria.ac.uk i drafod a ydych chi’n gymwys i gael cymorth ariannol.

Lawrlwythiadau Defnyddiols

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llaneurgain
14/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llysfasi
07/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i’ch helpu i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
13/11/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/11/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost