Rhagor o fanylion | |
|---|---|
Cod y Cwrs | LA03921 |
Lleoliad | Glannau Dyfrdwy |
Hyd | Dysgu Agored neu Ddysgu O Bell, Mae dysgwyr yn cael eu hannog i weithio ar eu cyflymder eu hunain, gan ddilyn rhaglenni dysgu unigol. Bydd yr amser y mae’n ei gymryd i gwblhau’r cymhwyster hwn yn dibynnu ar nifer o ffactorau ond mae disgwyl y bydd angen rhwng 18 a 24 mis ar y rhan fwyaf o ymgeiswyr i wneud hynny. |
Adran | Gofal a Rheolaeth Anifeiliaid |
Dyddiad Dechrau | Roll On, Roll Off |
Dyddiad gorffen | Roll On, Roll Off |
Trosolwg o’r Cwrs
Nod y rhaglen hon ydy darparu cymhwyster sy’n berthnasol i’r gwaith sy’n seiliedig ar gymhwysedd. Mae’n
adlewyrchu’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen i wneud swydd yn effeithiol yn niwydiant gofal anifeiliaid, ac yn dangos bod y dysgwr yn gymwys yn y maes hwn o waith. Mae’r llwybr Gorfodaeth Lles Anifeiliaid yn addas ar gyfer y rhan fwyaf o ddysgwyr mewn amgylchedd gwaith gofal anifeiliaid, sydd hefyd yn ymgymryd ag elfennau o orfodaeth lles anifeiliaid. Fodd bynnag, mae llwybrau eraill ar gael, gan gynnwys Twtio Cŵn, Gofal a Lles Anifeiliaid, Gofal Anifeiliaid Anwes a Manwerthu, Sŵau a Sefydliadau Bywyd Gwyllt, Hyfforddi Anifeiliaid, Wardeniaid Cŵn/Anifeiliaid, ac Anifeiliaid mewn Addysg ac Adloniant.
Mae'r lefel hon yn ddelfrydol os ydych chi wedi gweithio ym maes gofal anifeiliaid ers peth amser. Mae gennych chi ddigon o brofiad, ac rydych chi eisiau dangos bod gennych chi’r sgiliau sydd eu hangen arnoch chi i wneud eich swydd yn dda. Gall hyn fod yn rhan o’ch datblygiad proffesiynol, neu baratoi ar gyfer hyfforddiant ar lefel uwch.
I ennill y cymhwyster hwn, mae’n rhaid i chi gyflawni ystod o unedau gorfodol a dewisol, sy’n gyfanswm o 54 neu ragor o gredydau. Mae’r union ddewis o unedau dewisol gallwch chi ddewis ohonyn nhw yn dibynnu ar eich swydd, a gallai gael ei deilwra i fodloni eich anghenion hyfforddiant, ac anghenion eich cyflogwr. Mae’r unedau dewisol yn cynnwys:
* Cydlynu gofal anifeiliaid sydd wedi cael eu cam-drin, niweidio, sydd ar grwydr neu sydd wedi cael eu gadael.
* Penderfynu ar bolisïau ar gyfer rheoli anifeiliaid a chytuno arnynt.
* Amddiffyn yr amgylchedd trwy orfodaeth gyfreithiol.
* Sefydlu anifeiliaid mewn amgylchedd newydd.
* Cynllunio, goruchwylio a rheoli symud anifeiliaid.
* Hyrwyddo, monitro a chynnal iechyd, diogelwch a diogeledd eich gweithle
Mae’n ofynnol i unrhyw ddysgwyr sy'n cwblhau’r cwrs hwn fel rhan o Fframwaith Prentisiaeth ymgymryd â’r cymwysterau Sgiliau Hanfodol ar lefel 2, mewn Cymhwyso Rhif, Cyfathrebu, a Llythrennedd Digidol.

Mae dysgwyr addas o bob oedran yn cael eu gwahodd i ymuno unrhyw bryd yn ystod y flwyddyn. Nid oes unrhyw ofynion sylfaenol, ond bydd asesiad cwmpas swydd ac asesiadau cychwynnol yn cael eu cynnal i sicrhau bod y cwrs cywir yn cael ei ddewis.
Mae asesu yn yr ardal waith yn digwydd trwy gydol y rhaglen, ochr yn ochr â chwestiynu ysgrifenedig a/neu lafar, a ddefnyddir i asesu cymhwysedd a gwybodaeth greiddiol. Bydd rhaid cwblhau asesiad hefyd. Bydd eich Asesydd Coleg yn ymweld â’ch gweithle sy’n gorfod cydymffurfio â gweithio mewn amgylchedd diogel. Mae cymorth ar-lein ar gael drwy amgylchedd dysgu rhithwir.
Bydd credydau o ddysgu blaenorol yn cael eu hystyried, ond mae’n rhaid iddynt fod wedi’u cwblhau o fewn amser penodol.

Gall bodloni un o’r cymwysterau hyn eich helpu chi i weithio mewn swyddi fel:
* Swyddog gorfodaeth anifeiliaid
* Technegydd anifeiliaid
* Triniwr cŵn
* Swyddog gorfodaeth anifeiliaid
* Technegydd anifeiliaid
* Triniwr cŵn
Mewn llawer o achosion, efallai y bydd cyllid ar gael tuag at gost y cwrs. Cysylltwch â’n tîm ymgysylltu â chyflogwyr trwy ffonio 0300 30 30 006 neu anfon e-bost at cyflogwyr@cambria.ac.uk i drafod a ydych chi’n gymwys i gael cymorth ariannol.
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Barod i ddechrau ar eich taith?
Ein diwrnodau agored
Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llaneurgain
14/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llysfasi
07/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i’ch helpu i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
13/11/2025
17:00
Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch.
Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/11/2025