City & Guilds Diploma NVQ Lefel 2 mewn Gwasanaethau Lletygarwch

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LA04423
Lleoliad
Coleg Cambria
Hyd
Dysgu Agored neu Ddysgu O Bell, Mae ymgeiswyr yn ennill y cymhwyster drwy gwblhau unedau ac maen nhw’n cael eu hannog i weithio ar eu cyflymder eu hunain gan ddilyn rhaglenni dysgu unigol.
Bydd yr amser y mae’n ei gymryd i gwblhau’r cymhwyster hwn yn dibynnu ar nifer o ffactorau ond mae disgwyl y bydd angen 12 – 18 mis ar y rhan fwyaf o ymgeiswyr i wneud hynny.
Adran
Lletygarwch ac Arlwyo
Dyddiad Dechrau
Roll On, Roll Off
Dyddiad gorffen
Roll On, Roll Off

Trosolwg o’r Cwrs

Mae'r Diploma neu'r Dystysgrif Lefel 2 mewn Cynhyrchu Bwyd a Choginio ar gyfer ymgeiswyr sy'n dymuno gweithio yn y diwydiant lletygarwch ac sydd eisoes â gwybodaeth am egwyddorion sylfaenol gwaith cegin, neu sy’n gallu dangos ymrwymiad a brwdfrydedd i weithio ac astudio er mwyn ychwanegu at eu gwybodaeth bresennol.
Bydd angen i ymgeiswyr ddangos y sgiliau ymarferol a’r wybodaeth gysylltiedig er mwyn cwblhau’r asesiadau.

Mae'r cymhwyster yn cynnwys diogelwch yn y gwaith ac wrth baratoi bwyd, bwyta'n iach a deietau arbennig, costio a chynllunio bwydlenni, a pharatoi, coginio a gorffen ystod eang o fwyd a seigiau cymhleth.

Mae dysgwyr addas o bob oedran yn cael eu gwahodd i ymuno unrhyw bryd yn ystod y flwyddyn. Mae’n hanfodol eich bod chi’n gweithio yn y maes dysgu hwn ar hyn o bryd a bod gennych chi gefnogaeth lawn eich cyflogwr.
Byddwn ni’n dadansoddi anghenion hyfforddi pob ymgeisydd yn drwyadl i sicrhau eu bod yn dewis y cwrs a’r lefel cywir.
Dysgu agored o bell ac asesu yn y gwaith. Bydd eich Asesydd Coleg yn ymweld â’ch gweithle sy’n gorfod cydymffurfio â gweithio mewn amgylchedd diogel. Caiff asesiadau cymhwysedd a gwybodaeth greiddiol eu cynnal.
Mae cymorth ar-lein ar gael drwy amgylchedd dysgu rhithwir.
Bydd dysgu yn digwydd trwy gyfuniad o arsylwi yn y gwaith, a chwestiynau ysgrifenedig ac ar lafar.
Bydd credydau o ddysgu blaenorol yn cael eu hystyried, ond mae’n rhaid iddynt fod wedi’u cwblhau o fewn amser penodol.

Mae’r cymhwyster hwn yn rhan o fframwaith.
Ar ôl cwblhau’r cymhwyster hwn, gall dysgwyr symud ymlaen at y cymwysterau dilynol os yw eu swydd yn addas.
* Tystysgrif neu Ddiploma Lefel 2 City and Guilds mewn Gwasanaethau Lletygarwch
* Tystysgrif neu Ddiploma Lefel 2 City and Guilds mewn Gwasanaethau Cegin
* Tystysgrif neu Ddiploma Lefel 2 City and Guilds mewn Cynhyrchu Bwyd a Choginio
* Diploma Lefel 3 mewn Lletygarwch a Goruchwylio
* Diploma Lefel 3 mewn Coginio Proffesiynol

Lawrlwythiadau Defnyddiols

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llaneurgain
14/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llysfasi
07/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i’ch helpu i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
13/11/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/11/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost