Home > Coleg 16-18 > Gweld Pob Maes Pwnc > Cyrsiau Niwroamrywiol
Cyrsiau Niwroamrywiol
Cyrsiau Niwroamrywiol
Os ydych chi’n Niwroamrywiol ac yn chwilio am gwrs a allai ddarparu ar gyfer eich anghenion, mae gennym ni gwrs i chi! Mae cyrsiau Niwroamrywiol yn Cambria wedi’u llunio i alluogi unigolion sydd â chyflyrau cyfathrebu cymdeithasol fel Awtistiaeth i lwyddo’n academaidd.
Caiff y cyrsiau eu haddysgu gan staff profiadol ac maent yn cyfuno technegau ymarferol a strategaethau, sydd wedi’u teilwra i’ch anghenion unigol. O weithgareddau ymarferol i ysgogiad clywedol, mae’r cyrsiau hyn wedi’u llunio ar gyfer eich arddull dysgu delfrydol.
Nid yn unig y byddwch yn ennill gwybodaeth a sgiliau gwerthfawr yn eich maes dewisol, ond byddwch hefyd yn gwella eich hyder a’ch hunan-barch cyffredinol wrth i chi ddarganfod ffyrdd newydd o ddysgu sy’n gweithio i chi.
Sgiliau Bywyd
Mae’r holl gyrsiau Niwro yn cynnig elfen sgiliau bywyd wedi’i theilwra er mwyn datblygu eich annibyniaeth a sgiliau cyflogaeth fel defnyddio cludiant, gweithio gydag eraill, datblygu sgiliau cyfathrebu a rheoli arian.
Cymhwysedd
Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer rhaglen Niwro mae’n rhaid i’r holl ddysgwyr fod ag anhawster cyfathrebu cymdeithasol fel Awtistiaeth wedi’i gofnodi mewn cynllun addysg h.y. Cynllun Datblygu Unigol neu Gynllun Dysgu a Sgiliau (Cymru) neu Gynllun Iechyd a Gofal Addysg (Lloegr).
Gallwch weld rhagor o fanylion am y cyrsiau sydd ar gael a sut i wneud cais rŵan isod.
Pa Gyrsiau Sydd Ar Gael
Szymon Lewandowski
Wedi astudio – Astudiaethau Sylfaen Lefel 3/4 mewn Celf a Dylunio
Erbyn hyn – Astudio Celfyddyd Gain a Phaentio yn UAL Camberwell Llundain
Fe wnes i benderfynu astudio’r cwrs Sylfaen, gan ei fod yn gam ymlaen da yn fy ngyrfa greadigol. Roeddwn i’n gwybod y baswn i’n addysgu sgiliau buddiol i mi er mwyn i fi eu rhoi nhw ar waith yn fy mhroses greadigol ac yn fy mharatoi i’n dda ar gyfer y brifysgol.
Faswn i heb gyrraedd lle rydw i rŵan heb y cwrs Sylfaen a’r cymorth anhygoel gan y tiwtoriaid yno. Mae’r holl wybodaeth a phopeth dwi wedi’i ddysgu ar y cwrs wedi fy rhoi i ar flaen y gweddill yn ystod fy mlwyddyn gyntaf yn y brifysgol ac wedi fy mharatoi i’n dda ar ei gyfer gyda chyngor ystyriol a chefnogol ar gyfer y dyfodol.
Nid yn unig ydw i’n defnyddio’r galluoedd dwi wedi’u hennill ar y cwrs yn fy ymarfer greadigol, ond gallan nhw gael eu rhoi ar waith mewn gwahanol feysydd mewn bywyd sy’n fuddiol iawn.
Os ydych chi’n ystyried astudio Celfyddyd Gain, baswn i’n argymell y cwrs Sylfaen heb os nac oni bai. Bydd y cysylltiadau rydych chi’n eu meithrin gyda’ch cyd-fyfyrwyr, y profiadau rydych chi’n eu hennill a’r atgofion rydych chi’n eu gwneud yn para am byth!
Frankie McCamley
Wedi astudio – Cyrsiau Safon Uwch Saesneg, Drama, Mathemateg a Ffrangeg
Erbyn hyn – Cyflwynydd a Gohebydd Newyddion ar gyfer y BBC.
“Doeddwn i ddim yn siŵr beth oedd gen i eisiau ei wneud yn y dyfodol felly fe wnes i ddewis amrywiaeth o bynciau Safon Uwch i’w hastudio. Fe ges i’r hyder a’r sgiliau roedd eu hangen arna’ i i symud ymlaen i’r brifysgol wrth astudio yn Chweched Iâl a dwi’n Gyflwynydd a Gohebydd Newyddion erbyn hyn. Mi wnes i ffrindiau arbennig yno, roedd gen i athrawon gwych y bydda’ i’n eu cofio am byth ac fe ges i amser gwych yn Wrecsam!
“Mae gen i atgofion hyfryd o fy amser yn Iâl y gwna’ i fyth eu hanghofio!”