Home > Cyflogwyr > Gweld Pob Maes Pwnc > Blodeuwriaeth
Blodeuwriaeth
Blodeuwriaeth
Mae gyrfa mewn blodeuwriaeth yn werth chweil, ac yn eich galluogi chi i dreulio’ch diwrnod yn gweithio gyda blodau a phlanhigion ffres, gan eu trawsnewid nhw’n ddyluniadau pwrpasol ar gyfer eich cwsmeriaid.
Mae’r diwydiant blodeuwriaeth yn ffynnu ar draws y DU, gyda chleientiaid yn chwilio am broffesiynoldeb gydag ychydig o bresenoldeb ar gyfer eu digwyddiadau. Wrth gofrestru am gymhwyster dysgu yn y gwaith drwy’r coleg, byddwch chi’n datblygu sgiliau safon y diwydiant a fydd yn eich galluogi chi i greu dyluniadau pwrpasol amrywiol o duswau o flodau ar gyfer angladdau, gwaith priodasau, tuswau anrhegion i arddangosfeydd corfforedig trawiadol a rhagor.
Y Prentisiaethau Rydym yn eu Cynnig
Lefel 2 mewn Blodeuwriaeth
Gofynion Mynediad – Cyflogaeth mewn diwydiant perthnasol
Hyd Arferol – 18 mis
Dull Astudio ac Asesu – Asesiad yn y gwaith
Lleoliad – Y gweithle
Lefel 3 mewn Blodeuwriaeth
Gofynion Mynediad – Cyflogaeth mewn diwydiant perthnasol
Hyd Arferol – 18 mis
Dull Astudio ac Asesu – Asesiad yn y gwaith
Lleoliad – Y gweithle



