Rhagor o fanylion | |
|---|---|
Cod y Cwrs | LA08471 |
Lleoliad | Coleg Cambria |
Hyd | Dysgu Agored neu Ddysgu O Bell, Diploma yw’r cymhwyster blodeuwriaeth hwn, lle bo angen cyflawni 68 credyd. Mae ymgeiswyr yn cael eu hannog i weithio ar eu cyflymder eu hunain, gan ddilyn rhaglenni dysgu unigol. Bydd yr amser a gymerir i gwblhau’r cymhwyster hwn yn dibynnu ar nifer o ffactorau ond disgwylir y bydd angen 24 mis ar y rhan fwyaf o ymgeiswyr i wneud hynny. |
Adran | Blodeuwriaeth |
Dyddiad Dechrau | Roll On, Roll Off |
Dyddiad gorffen | Roll On, Roll Off |
Trosolwg o’r Cwrs
Mae’r cymhwyster hwn ar gyfer trefnwyr blodau profiadol sy’n bwriadu mynd am swyddi uwch neu reoli. Rhaid cwblhau Diploma Lefel 2 mewn Blodeuwriaeth i ddilyn y cymhwyster hwn.
Mae’r cwrs yn rhoi cyfle i ddysgwyr herio eu hunain, datblygu eu gwybodaeth ac arddangos eu sgiliau a’u technegau newydd wrth ennill y cymhwyster hwn.
Mae saith uned gradd i’r cymhwyster hwn:
* Trafod a chytuno ar delerau ac amodau ar gyfer gwerthu cynnyrch a gwasanaethau blodeuwriaeth
* Cynllunio, gosod a gwerthuso dyluniadau blodau amrywiol
* Cynllunio, gosod a gwerthuso dyluniadau amrywiol o flodau wedi’u clymu
* Cynllunio, gosod a gwerthuso dyluniadau blodau amrywiol ar gyfer priodasau
* Cynllunio, gosod a gwerthuso dyluniadau amrywiol ar gyfer angladdau
* Hyrwyddo, monitro a chynnal iechyd, diogelwch a diogeled eich gweithle
* Rheoli eich adnoddau eich hun
Mae’r unedau dewisol yn cynnwys adeiladu perthnasau gwaith gyda chwsmeriaid a datrys problemau gwasanaethau i gwsmeriaid.

Gwahoddir dysgwyr addas sy’n hŷn nag 16 oed i ymuno unrhyw bryd yn ystod y flwyddyn. Mae’n hanfodol eich bod wedi cyflawni’r Diploma Lefel 2 mewn Blodeuwriaeth, ac eich bod yn gweithio yn y maes dysgu hwn ar hyn o bryd, ac wedi gwneud hynny ers peth amser. Mae’n rhaid i’ch cyflogwr fod yn gwbl gefnogol.
Byddwn yn dadansoddi anghenion hyfforddi pob ymgeisydd yn drwyadl i sicrhau eu bod yn dewis y cwrs a’r lefel cywir. Rhaid i leoliadau gwaith gydymffurfio â gofynion iechyd a diogelwch, a chael eu harchwilio gan y coleg cyn i’r ymgeisydd gofrestru.

Cynhelir asesiadau ymarferol i asesu cymhwysedd a gwybodaeth greiddiol. Bydd asesu eich cymhwysedd yn seiliedig ar sefyllfaoedd gwaith go iawn, yn cwblhau tasgau pwrpasol ac adnabyddadwy sy’n gofyn am gyfuniad o sgiliau a gwybodaeth gysylltiedig. Bydd dysgu yn digwydd trwy gyfuniad o arsylwi yn y gwaith, a chwestiynau ysgrifenedig ac ar lafar, a thrwy amgylchedd dysgu rhithwir sef Google Drive.
Mae’r cymhwyster hwn wedi’i lunio i ddatblygu eich dealltwriaeth a’ch sgiliau, a symud eich gyrfa fel gwerthwr blodau yn ei flaen.
Cysylltwch â’n Tîm Ymgysylltu â Chyflogwyr trwy ffonio 0300 30 30 006 neu anfon e-bost at cyflogwyr@cambria.ac.uk i drafod a ydych yn gymwys i gael cymorth ariannol.
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Barod i ddechrau ar eich taith?
Ein diwrnodau agored
Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llaneurgain
14/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llysfasi
07/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i’ch helpu i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
13/11/2025
17:00
Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch.
Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/11/2025