Diploma Lefel 2 City & Guilds mewn Blodeuwriaeth yn y Gwaith

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LA06282
Lleoliad
Coleg Cambria
Hyd
Dysgu Agored neu Ddysgu O Bell, Diploma yw’r cymhwyster blodeuwriaeth hwn, lle bo angen cyflawni 48 credyd.

Mae ymgeiswyr yn cael eu hannog i weithio ar eu cyflymder eu hunain, gan ddilyn rhaglenni dysgu unigol. Bydd yr amser a gymerir i gwblhau’r cymhwyster hwn yn dibynnu ar nifer o ffactorau ond disgwylir y bydd angen 18 mis ar y rhan fwyaf o ymgeiswyr i wneud hynny.
Adran
Blodeuwriaeth
Dyddiad Dechrau
Roll On, Roll Off
Dyddiad gorffen
Roll On, Roll Off

Trosolwg o’r Cwrs

Mae’r cymhwyster hwn wedi’i lunio ar gyfer dysgwyr sydd â gwybodaeth a sgiliau sylfaenol blodeuwriaeth ac sy’n gweithio yn y diwydiant blodeuwriaeth.

Yn ystod eich cwrs, byddwch yn meithrin eich sgiliau a chwblhau ystod o weithgareddau gan gynnwys:

*Cyfarch cwsmeriaid a chymryd archebion
*Derbyn, gofalu am ddeunyddiau byw a’u cyflyru
*Dylunio a chreu ystod o ddyluniadau blodau ar gyfer priodasau, angladdau ac anrhegion, i gynnwys blodau wedi’u clymu a threfniannau blodau
*Cyfrifo prisiau manwerthu ar gyfer ystod o ddyluniadau
*Iechyd a diogelwch yn y gweithle
*Arddangos stoc i hyrwyddo gwerthiant

Mae’r unedau dewisol yn cynnwys datblygiad personol, perthnasau gwaith effeithiol a phecynnu planhigion a dyluniadau blodau.

Mae’r cwrs yn rhoi cyfle i ddysgwyr ddatblygu eu gwybodaeth ac arddangos eu sgiliau newydd fel gwerthwr blodau ac ennill y cymhwyster hwn wrth wneud hynny.
Gwahoddir dysgwyr addas sy’n hŷn nag 16 oed i ymuno unrhyw bryd yn ystod y flwyddyn. Mae’n hanfodol eich bod yn gweithio yn y maes dysgu hwn ar hyn o bryd, a bod gennych gefnogaeth lawn eich cyflogwr.

Byddwn yn dadansoddi anghenion hyfforddi pob ymgeisydd yn drwyadl i sicrhau eu bod yn dewis y cwrs a’r lefel cywir. Rhaid i leoliadau gwaith gydymffurfio â gofynion iechyd a diogelwch, a chael eu harchwilio gan y coleg cyn i’r ymgeisydd gofrestru.
Cynhelir asesiadau ymarferol i asesu cymhwysedd a gwybodaeth greiddiol. Bydd asesu eich cymhwysedd yn seiliedig ar sefyllfaoedd gwaith go iawn, yn cwblhau tasgau pwrpasol ac adnabyddadwy sy’n gofyn am gyfuniad o sgiliau a gwybodaeth gysylltiedig.

Bydd dysgu yn digwydd trwy gyfuniad o arsylwi yn y gwaith, a chwestiynau ysgrifenedig ac ar lafar, a thrwy amgylchedd dysgu rhithwir sef Google Drive.
Mae’r cymhwyster hwn wedi’i lunio i ddatblygu eich sgiliau a symud eich gyrfa fel gwerthwr blodau yn ei flaen. Ar ôl cwblhau’r cwrs, gallech chi fod â diddordeb cwblhau’r cwrs Blodeuwriaeth yn y Gwaith Lefel 3.
Cysylltwch â’n Tîm Ymgysylltu â Chyflogwyr trwy ffonio 0300 30 30 006 neu anfon e-bost at cyflogwyr@cambria.ac.uk i drafod a ydych yn gymwys i gael cymorth ariannol.
Lawrlwythiadau Defnyddiols

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llaneurgain
14/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llysfasi
07/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i’ch helpu i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
13/11/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/11/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost