Home > Cyflogwyr > Gweld Pob Maes Pwnc > Hyfforddi a Mentora
Hyfforddi a Mentora
Hyfforddi a Mentora
Mae’r galw am sgiliau annog a mentora yn cynyddu ac mae cydnabyddiaeth o’u heffaith gadarnhaol ar berfformiad busnes wedi parhau i dyfu. Mae’r ddau yn chwarae rhan bwysig wrth reoli newid – gan helpu i liniaru effaith pwysau ac ansicrwydd cynyddol trwy gefnogi addasrwydd, gwydnwch a hunanhyder.
Mae ein hamrywiaeth o gymwysterau annog a mentora wedi’u cynllunio i ddatblygu arfer ystwyth ac ymatebol. Byddant yn eich helpu i ddatgloi potensial unigol a thîm trwy feithrin hunangred, gwella perfformiad a chefnogi eraill i wireddu eu galluoedd llawn.
Mae sesiynau blasu hanner diwrnod a diwrnod llawn ar gael yn ogystal â chymwysterau ILM achrededig ar lefelau 2, 3 a 5. Edrychwch ar yr dewisiadau isod i ddod o hyd i’r un sy’n gweddu orau i’ch anghenion – rydyn ni’n edrych ymlaen at weithio gyda chi!



