Cadwch Eich Lle Yn Y Digwwyddiadau Agored Mis Tachwedd Rŵan!
Mae Digwyddiadau Agored Cambria yn gyfle perffaith i chi ddarganfod sut beth yw astudio gyda ni.
Dyma eich cyfle i ddarganfod rhagor am ba bynciau rydyn ni’n eu cynnig, gweld ein cyfleusterau o’r radd flaenaf, cyfarfod ein tiwtoriaid cwrs arbenigol a siarad gyda’n myfyrwyr presennol am sut beth ydy astudio yn Cambria.
Bydd partneriaid cyflogwyr ar gael i drafod cyfleoedd dilyniant a phrentisiaethau.
Bydd tîm Canolfan Brifysgol Cambria hefyd wrth law i drafod cyfleoedd dilyn gradd ar gyfer y rhai sy’n ystyried dechrau cwrs prifysgol ym mis Medi.
Dysgwch ragor yn ystod y digwyddiad agored am ein darpariaeth ran-amser a chyfleoedd cyllid sy’n cyd-fynd â’ch swydd a’ch ffordd o fyw bresennol trwy siarad â’n tiwtoriaid profiadol.
Os ydych chi wedi astudio trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog yn yr ysgol, gallwch chi barhau i wneud hynny yn Cambria. Mae’r digwyddiadau agored yn gyfle gwych i siarad â’ch tiwtoriaid a darganfod rhagor am ddysgu yn Gymraeg.
Yn ogystal â dysgu am y cyfleusterau a’r gwasanaethau cymorth ar draws ein safleoedd, mae hefyd yn gyfle gwych i wneud cais i astudio gyda ni – bydd staff wrth law ym mhob digwyddiad i’ch helpu chi gyda hyn.
Mae dyddiadau ac amseroedd digwyddiadau agored Cambria sydd ar y gweill wedi’u rhestru isod. Cliciwch ar y digwyddiad isod yr hoffech chi fynd iddo, cwblhewch eich manylion i gadarnhau eich bod wedi cadw lle a byddwn yn edrych ymlaen at eich cyfarfod chi’n fuan.
Cadwch eich lle yn y digwyddiad agored!
Cadwch eich lle yn y digwyddiad agored sydd o ddiddordeb i chi drwy ddewis y lleoliad(au) isod.
Cyfleusterau sy'n arwain y diwydiant
ar draws saith safle
Darganfyddwch ragor o wybodaeth am y cyfleusterau a chyrchu teithiau 3D i gerdded trwy bob safle yn rhithwir!
Yng Ngholeg Cambria mae gennym ni 7 safle a phob un ohonynt yn llawn cyfleusterau o’r radd flaenaf a’r dechnoleg ddiweddaraf i ddysgwyr eu defnyddio. P’un a ydych chi’n bwriadu astudio yn un o’n Chweched Dosbarth, gyda phob un yn cynnig labordai Gwyddoniaeth, stiwdios drama a rhagor, neu os ydych chi’n chwilio am gwrs galwedigaethol lle gallwch chi ddysgu gan ddefnyddio cyfleusterau o’r radd flaenaf sy’n benodol i’r diwydiant, mae gennym ni’r cwrs sy’n iawn i chi.
Straeon Myfyrwyr
Clywed gan ein myfyrwyr
"Dwi wedi mwynhau fy amser yng Ngholeg Cambria yn fawr. Yr hyn sy'n sefyll allan i mi fwyaf am fy nghwrs ydi'r cyfle i ennill profiad ymarferol trwy leoliadau gwaith. Mae gweithio'n uniongyrchol gyda phlant wrth ddysgu wedi bod yn werth chweil ac mae wedi rhoi sgiliau ymarferol amhrisiadwy i mi.
Mae'r addysgu a'r gefnogaeth gan fy nhiwtoriaid yng Ngholeg Cambria wedi bod yn eithriadol. Mae eu harweiniad nhw wedi cael effaith sylweddol ar fy nhaith dysgu. Ar ôl cwblhau fy nghwrs, dwi'n edrych ymlaen at ddilyn fy ngyrfa mewn gwaith cymdeithasol.
"Fe wnes i ddewis astudio yng Ngholeg Cambria gan ei fod yn cynnig y llwybr gorau i mewn i'r diwydiant dewisol. Roedd y gwaith cwrs ymarferol a'r tiwtoriaid cefnogol, gyda phrofiad yn y byd go iawn, yn gwneud dysgu'n ddiddorol a chraff. Ar ôl cwblhau fy nghwrs Lefel 3, fe wnes i symud ymlaen at fy HNC yn yr un coleg, gan osgoi'r angen am fynd i brifysgol.Rŵan, dwi'n gweithio fel Technegydd Pensaer yn CB3 Design Architects yn Swydd Gaer."
"Fe wnes i ymuno â rhaglen Twf Swyddi Cymru+ ac ro'n i wrth fy modd yn Coleg Cambria; roedd pawb yn gyfeillgar ac yn groesawgar, ac roedd cefnogaeth ar gael ym mhobman. Fe wnaeth y rhaglen fy helpu i gyflawni fy swydd ddelfrydol fel gofalwr, ac allwn i ddim bod yn hapusach gyda lle rydw i heddiw, diolch i'r holl gefnogaeth a gefais i."
"Dwi'n byw ar fferm gartref. Mae fy Nhad yn dda gyda'r da byw ond ddim cystal gyda pheiriannau, a dyna pam ro'n i eisiau dysgu'r ochr honno - i ddod â rhywbeth newydd i'r fferm - er y byddwn i'n bendant yn hoffi cael profiad o weithio dramor ryw bryd hefyd. Mae llawer o gyfleoedd gyrfa yn y maes astudio yma. Mae'n sector eang gyda llawer o rolau amrywiol. Dwi'n hoffi'r berthynas sydd gennym ni gyda'r tiwtoriaid yn y coleg, a'r ymdeimlad o gymuned yma yng Ngholeg Cambria."
Dewch o hyd i gwrs i chi!
Darganfyddwch pa gyrsiau sydd ar gael ym mhob un o’n safleoedd.
Darganfyddwch pa gyrsiau gallwch chi eu hastudio yn Ffordd y Bers
Darganfyddwch pa gyrsiau gallwch chi eu hastudio yn Glannau Dyfrdwy
Darganfyddwch pa gyrsiau gallwch chi eu hastudio yn Llysfasi
Darganfyddwch pa gyrsiau gallwch chi eu hastudio yn Iâl
Darganfyddwch pa gyrsiau gallwch chi eu hastudio yn Llaneurgain
Prif Awgrymiadau Digwyddiadau Agored
Gwnewch y gorau o'ch amser yn ymweld â Cambria gyda'r awgrymiadau gwych hyn
Gwybodaeth am y ein coleg
Fe gawsom ein sefydlu yn ôl yn 2014, ac ers hynny rydyn ni wedi sefydlu ein hunain yn gyflym fel darparwr addysg blaenllaw yn y DU. Rydyn ni’n un o’r colegau mwyaf yn y DU, gyda thua 6,000 o fyfyrwyr llawn amser, 20,000 o ddysgwyr rhan-amser a llawer o gysylltiadau rhyngwladol.
Ar draws ein chwe safle, rydyn ni’n cynnig amrywiaeth eang o gyrsiau llawn amser a rhan-amser gan gynnwys Safon Uwch, TGAU, BTEC, Cymraeg i Oedolion ac Addysg Uwch. Mae’r coleg hefyd yn gweithio mewn partneriaeth â dros 1000 o gyflogwyr yn lleol ac yn genedlaethol i’ch helpu i gael cyfleoedd prentisiaeth a hyfforddeiaeth.
Ffoniwch ni
0300 30 30 007
Anfonwch e-bost
gwasanaethaumyfyrwyr@cambria.ac.uk
Oriau agor
8:30 AM - 17:00 PM
Dewch i ymweld â ni
Dod o hyd i'n safleoedd