Hostel

Yng Ngholeg Cambria Llysfasi, rydym yn darparu amgylchedd diogel a chefnogol sy’n meithrin llwyddiant academaidd a thwf personol. Mae ein llety preswyl yn cynnig mwy na dim ond lle i aros; mae’n gymuned fywiog lle gall myfyrwyr ymlacio, cymdeithasu a chymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau.

Wifi

Ardal Cegin

Ystafell Gemau

Ystafell Ffitrwydd

Ysafelloedd Bwrdd

Mannau Cyfarfod Mawr

Rydym yn blaenoriaethu lles pob myfyriwr, gyda pholisïau yn unol â safonau diogelu cenedlaethol. Mae myfyrwyr preswyl yn cael budd o Wardeniaid ymroddedig sy’n darparu goruchwyliaeth gyda’r nos a thros nos, ochr yn ochr gwasanaethau cymorth.

Archwiliwch ein hopsiynau llety ac ymunwch â chymuned sy’n ymroddedig i’ch lles academaidd a phersonol. I gael rhagor o fanylion am ffioedd, polisïau, neu gymorth i fyfyrwyr, cysylltwch â ni.

Ymholiad Llety

I wneud cais am yr Hostel e-bostiwch llysfasiresidential@cambria.ac.uk a gofyn am becyn cais.

Mae’r taliadau’n cynnwys y flwyddyn academaidd gyfan ac yn cynnwys arlwyo gan gynnwys brecwast a phryd gyda’r nos. Os ydy myfyrwyr yn y coleg am 3 diwrnod, ar leoliadau gwaith neu’n cael eu hanfon adref oherwydd tywydd garw, nid oes gostyngiad ar y ffi unigol a godir.

*Mae’r cyfraddau’n amrywio o flwyddyn i flwyddyn

Caiff prydau bwyd eu gweini yn Ystafell Fwyta’r Coleg ar yr amseroedd canlynol:

Brecwast – 8.00am i 8.30am – (Dydd Llun i Ddydd Gwener)

Pryd Nos – 5.00pm (Dydd Llun i Ddydd Iau) – Deietau Arbennig

Os oes gennych chi unrhyw ofynion deietegol, mae croeso i chi gysylltu ag aelod o’r tîm arlwyo.

Dewisiadau bwydlen Halal ar gael ar gais.
Dewisiadau bwydlen fegan ar gael ar gais.

Mae’r Llawlyfr Myfyrwyr yn rhoi rhagor o fanylion ynghylch llety a’r hyn y gall myfyrwyr ei ddisgwyl wrth aros ar safle Llysfasi.

Cliciwch Yma i Lawrlwytho’r Llawlyfr Myfyrwyr.

Ar ein safle yn Llysfasi rydyn ni’n deall fod dod i astudio amaethyddiaeth yn golygu byw i ffwrdd o adref i lawer o bobl. Mae ein llety pwrpasol ar y safle yn darparu amgylchedd diogel, cefnogol a chyfforddus sydd wedi’i gynllunio i’ch helpu i ffynnu’n academaidd ac yn bersonol.

Rydyn ni’n cynnig ystafelloedd modern (mae’r rhan fwyaf ohonynt ag ystafelloedd ymolchi en-suite) a phob un wedi’u dodrefnu’n feddylgar gyda gwely, desg, cadair, bwrdd wrth ochr y gwely, a silffoedd – popeth sydd ei angen arnoch i greu eich lle astudio ac ymlacio personol.

Y tu hwnt i’ch ystafell wely bydd gennych fynediad at gyfleusterau rhagorol ar y safle gan gynnwys ystafell gemau, campfa, ffreutur, Wi-Fi dibynadwy, a mannau astudio pwrpasol.

Eich diogelwch a’ch llesiant yw ein prif flaenoriaeth. Mae ein llety yn cynnwys blociau ar wahân i unigolion ifanc o dan 18 oed a dros 18 oed yn ogystal ag ardaloedd penodol i ddynion a merched gan sicrhau diogelu priodol. Mae ein wardeiniaid dros nos yn weithwyr proffesiynol profiadol, gofalgar ac wedi’u hyfforddi mewn diogelu ac wedi ymrwymo i’ch llesiant. Hefyd mae aelod dynodedig o dîm Gwasanaethau Myfyrwyr ar gael ar y safle yn ystod y dydd i gynnig cymorth ac arweiniad pryd bynnag y bydd ei angen arnoch.

Mae dewis llety yn Llysfasi yn golygu ymuno â chymuned gefnogol lle gallwch ganolbwyntio ar eich astudiaethau, meithrin cyfeillgarwch a gwneud y mwyaf o’ch profiad yn y coleg.

Gellir gweld polisïau ategol gan gynnwys Diogelu, Atal a Gwrth-fwlio ac Aflonyddu yma.

Mae cymorth ar gael i ddysgwyr yng Ngholeg Cambria yma.

Taith Rithwir 360°

Beth mae Ein Myfyrwyr yn ei Ddweud
Llysfasi student Gwion smiling for a hero shot

Gwion

“Mae’r Hostel wedi rhoi rhyddid i mi a dwi wedi mwynhau byw i ffwrdd o gartref. Mae wedi bod yn brofiad gwych i wneud ffrindiau newydd”

Llysfasi student Mirain smiling for a hero shit

Mirain

“Mae cyfle i fynd allan a gwneud gweithgareddau, mae’r cyfleusterau’n dda, a’r ystafelloedd hefyd, mae fel bod yn y Brifysgol”

Ble Ydym Ni?

Coleg Cambria Llysfasi
Ffordd Rhuthun
Llysfasi
Rhuthun
Sir Ddinbych
LL15 2LB

Rhif Ffôn

E-bost