main logo

Peirianneg, Gweithgynhyrchu a Chynnal a Chadw

Play Video

Pam dewis Prentisiaeth?

Dechreuwch eich gyrfa gyda phrentisiaeth i ennill cyflog wrth ddysgu.

Mae cwmnïau ledled Gogledd Cymru a thu hwnt yn recriwtio pobl ar gyfer prentisiaethau a hyfforddiant yn y sgiliau sydd eu hangen arnynt i lwyddo yn eu gyrfa.

Fel prentis byddwch chi’n ennill cyflog wrth ddysgu, ennill sgiliau, gwybodaeth, profiad a chymwysterau cydnabyddedig ar hyd y ffordd. P’un ai rydych chi rhwng 16 ac 19 oed neu’n 20 oed neu’n hŷn, gallai ystod o opsiynau prentisiaeth fod ar gael i chi.

Mae gan Ogledd Cymru y cwmnïau gweithgynhyrchu a pheirianneg fwyaf datblygedig yn dechnolegol yn y DU cyfan ac mae 34% o gyflogaeth Gogledd ddwyrain Cymru yn dod o weithgynhyrchu. Rydym yn gweithio’n agos gyda dros 150 o gwmnïau peirianneg a gweithgynhyrchu lleol i ddatblygu eu gweithluoedd gyda Phrentisiaethau i feithrin sgiliau sy’n berthnasol i’r diwydiant i greu sector sy’n ffynnu.

Bydd Prentisiaid Peirianneg yn treulio amser yn ein cyfleusterau o’r radd flaenaf sydd wedi’u hadnewyddu yn ddiweddar ar ein safleoedd Glannau Dyfrdwy neu Ffordd y Bers am ddiwrnod i ffwrdd o’r gwaith ac i gael eu hasesu yn ogystal â chael eu hasesu ar y safle gan ein timau asesu sydd â phrofiad yn y diwydiant.

Bydd angen i brentisiaid Peirianneg fod â sgiliau mathemateg a saesneg o lefel uchel yn ogystal â’r gallu i weithio’n fanwl gywir.

Rydym yn argymell cyn i chi ddechrau Prentisiaeth Peirianneg eich bod yn cofrestru ar gwrs llawn amser mewn Perfformio Gweithrediadau Peirianneg neu Lefel 3 mewn Peirianneg Uwch cyn chwilio am Brentisiaeth.

Y Prentisiaethau rydym yn eu cynnig

Rydym yn cynnig hyfforddiant prentisiaeth peirianneg a gweithgynhyrchu ar Lefel 2, 3 a 4 yn ogystal â chyrsiau FdEng/BEng.

Lefel 2 mewn Peirianneg

Gofynion Mynediad – Cyflogaeth mewn diwydiant perthnasol, TGAU Mathemateg a Saesneg ar radd C neu uwch

Hyd Arferol – 1 neu 2 flynedd i’w gytuno gyda’r cyflogwr

Dull Astudio ac Asesu – Asesiad yn y gwaith a diwrnod rhyddhau o’r gwaith

Lleoliad – Ffordd y Bers neu Lannau Dyfrdwy

Lefel 2 mewn Gweithgynhyrchu

Gofynion Mynediad – Cyflogaeth mewn diwydiant perthnasol

Hyd Arferol – 18 mis

Dull Astudio ac Asesu – Asesiad yn y gwaith

Lleoliad – Gweithle

Lefel 2 mewn Technegau Gwella Busnes

Gofynion Mynediad – Cyflogaeth mewn diwydiant perthnasol, Mathemateg a Saesneg TGAU ar radd C neu uwch

Hyd Arferol – 18 mis – 24 mis

Dull Astudio ac Asesu – Asesiad yn y gwaith

Lleoliad – Gweithle

Lefel 3 mewn Peirianneg

Gofynion Mynediad – Cyflogaeth mewn diwydiant perthnasol, Perfformio
Gweithrediadau Peirianneg / Prentisiaeth Sylfaen mewn Peirianneg, TGAU
Mathemateg a Saesneg gradd C neu uwch,

Hyd Arferol – 24 mis

Dull Astudio ac Asesu – Asesiad yn y gwaith a diwrnod rhyddhau o’r gwaith

Lleoliad – Ffordd y Bers neu Lannau Dyfrdwy

Lefel 3 mewn Gweithgynhyrchu Prosesau

Gofynion Mynediad – Cyflogaeth mewn diwydiant perthnasol,  TGAU
Mathemateg a Saesneg gradd C neu uwch,

Hyd Arferol – 24 mis

Dull Astudio ac Asesu – Asesiad yn y gwaith

Lleoliad – Gweithle

Lefel 3 mewn Technegau Gwella Busnes

Gofynion Mynediad – Cyflogaeth mewn diwydiant perthnasol, TGAU Mathemateg a Saesneg ar radd C neu uwch

Hyd Arferol – 18 – 24 mis

Dull Astudio ac Asesu – Asesiad yn y gwaith

Lleoliad – Gweithle

Lefel 4 mewn Peirianneg

Gofynion Mynediad – Cyflogaeth mewn diwydiant perthnasol, Perfformio
Gweithrediadau Peirianneg a/neu 2 gymhwyster Safon Uwch mewn Mathemateg a Gwyddoniaeth neu ddilyniant o Brentisiaeth Lefel 3

Hyd Arferol – 24 mis

Dull Astudio ac Asesu – Asesiad yn y gwaith a diwrnod rhyddhau o’r gwaith

Lleoliad – Glannau Dyfrdwy

Peirianneg Gweithgynhyrchu Uwch FdEng/BEng

Gofynion Mynediad – Cyflogaeth mewn diwydiant perthnasol. Tri chymhwyster Safon Uwch, gan gynnwys B mewn Mathemateg a Ffiseg, neu Ddiploma Estynedig BTEC gradd Rh* Rh* Rh*. Mae’n bosibl y bydd ymgeiswyr sydd wedi cwblhau HNC yn flaenorol yn gymwys i gael mynediad uniongyrchol i  flwyddyn 2 y cymhwyster. Gall ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd Rh*Rh* mewn Diploma BTEC sefyll prawf mynediad i ganfod addasrwydd ar gyfer y rhaglen hon, ar gyfer mynediad posibl i flwyddyn 1.

Hyd Arferol – 2 – 3 blynedd

Dull Astudio ac Asesu – Asesiad yn y gwaith a diwrnod rhyddhau o’r gwaith

Lleoliad – Glannau Dyfrdwy

Peirianneg Awyrennau a Gweithgynhyrchu FdEng/BEng

Bywyd Fel Prentis | Taith Toyota Lucy

Play Video

Ystyried Prentisiaeth? | Taith Charlotte Kronospan

Play Video about A thumbnail for a Youtube video about a Kronospan Learner

Cyfleusterau Peirianneg, Gweithgynhyrchu a Chynnal a Chadw

Canolfan Technoleg Peirianneg

Gweithdy Peirianneg

Connor Phillips

Connor Philipps

Wedi Astudio – Lefel 3 mewn Peirianneg Gweithgynhyrchu Mecanyddol 

Ar Hyn o Bryd – Gweithio yn Electroimpact

“Mi wnes i astudio cymhwyster Lefel 3 mewn Peirianneg Gweithgynhyrchu Mecanyddol wrth gael fy rhyddhau o’r gwaith am y dydd a gwnes i’r lefelau is yn flaenorol yn llawn amser.

“Y rheswm pam mi wnes i ddewis Peirianneg ydi oherwydd fy mod i’n caru’r pwnc a phopeth mecanyddol, yn enwedig gwneud a thrwsio pethau, felly wrth ddechrau’r Brentisiaeth roedd gen i ddealltwriaeth dda o’r cyfan yn barod, fe wnaeth y cwrs a’r darlithwyr fy helpu i ddatblygu fy sgiliau a’m gwybodaeth ymhellach ac mae Coleg Cambria wir wedi fy helpu i ddatblygu fy ngyrfa.”

Dangos Rhagor
Joe Williams IMG_0498 (1)

Joe Williams

Wedi Astudio – Lefel 2 mewn Peirianneg Uwch

Ar Hyn o Bryd – Prentis Ffitiwr Gosod yn Magellan Aerospace

“Mi wnes i benderfynu astudio Lefel 2 mewn Peirianneg Uwch oherwydd byddai’r unedau a’r sgiliau y byddwch chi’n eu hastudio ar y cwrs yn helpu i fod mewn gwell sefyllfa i gael prentisiaeth.

“Ers gorffen y cwrs mi wnes gais llwyddiannus ar gyfer rhaglen Prentisiaeth Awyrofod Magellan a dwi’n ei mwynhau’n fawr, roedd y sgiliau a’r wybodaeth a gefais i wrth astudio yng Ngholeg Cambria yn amhrisiadwy ac wedi fy helpu i gyrraedd lle rydw i heddiw.”

Dangos Rhagor

Siaradwch â'r tîm

Os ydych yn chwilio am brentisiaeth, cysylltwch â ni heddiw!

mobile phone svg

Cysylltwch â ni

0300 30 30 006

mail svg

Cyfeiriad e-bost

Ymweld â'n horiel
Dewch i edrych o gwmpas i weld yn union sut beth yw astudio gyda ni yn Cambria.
Neu edrychwch o gwmpas ein safleoedd coleg trwy ymweld yma .
Previous slide
Next slide
Astudiaethau Achos
Hairdresser, Kimberly Jones taking a hero shot at her salon looking at the camera

Kimberly Jones

“Yn ystod fy mhrentisiaeth roeddwn yn cael yr hyfforddiant yn ogystal â chael fy nhalu. Mae’n agor eich llygaid i’r amgylchedd gwaith ac yn eich paratoi ar gyfer eich dyfodol.

Dwi’n meddwl bod cael y cyfle i wneud prentisiaeth fel person aeddfed yn wych.”

Dangos Rhagor
A hairdressing student cutting someone's hair in a salon

Jane Moore

“Yn ystod fy mhrentisiaeth roeddwn yn cael yr hyfforddiant yn ogystal â chael fy nhalu. Mae’n agor eich llygaid i’r amgylchedd gwaith ac yn eich paratoi ar gyfer eich dyfodol.

Dwi’n meddwl bod cael y cyfle i wneud prentisiaeth fel person aeddfed yn wych.”

Dangos Rhagor
A Construction Apprentice in their office looking towards the camera with plans on the stand up table below her

Alice Stansford

“Yn ystod fy mhrentisiaeth roeddwn yn cael yr hyfforddiant yn ogystal â chael fy nhalu. Mae’n agor eich llygaid i’r amgylchedd gwaith ac yn eich paratoi ar gyfer eich dyfodol.

Dwi’n meddwl bod cael y cyfle i wneud prentisiaeth fel person aeddfed yn wych.”

Dangos Rhagor
Chwilio am brentisiaeth? Cymerwch gip ar ein Siop Swyddi i weld y prentisiaethau gwag!
Chwilio am ragor o wybodaeth am Wasanaeth Prentisiaethau Gwag Llywodraeth Cymru!

Cyflogwyr yr ydym yn gweithio â nhw

The Magellan Aerospace logo
The Electroimpact logo
The Flintshire County Council Logo

Tudalen Pynciau Llawn Amser

Gwybodaeth am y Cyflogwr

Digwyddiadau Diweddaraf
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llysfasi
11/04/2024

17:30

Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.