main logo

Gwneuthuro a Weldio

Play Video about A Fabrication & Welding student using a piece of equipment to smooth a metal object in a clamp whilst sparks fly off

Pam Dewis Prentisiaeth?

Dechreuwch eich gyrfa gyda phrentisiaeth i ennill cyflog wrth ddysgu.

Mae cwmnïau ledled Gogledd Cymru a thu hwnt yn recriwtio pobl ar gyfer prentisiaethau a hyfforddiant yn y sgiliau sydd eu hangen arnynt i lwyddo yn eu gyrfa.

Fel prentis byddwch chi’n ennill cyflog wrth ddysgu, ennill sgiliau, gwybodaeth, profiad a chymwysterau cydnabyddedig ar hyd y ffordd. P’un ai rydych chi rhwng 16 ac 19 oed neu’n 20 oed neu’n hŷn, gallai ystod o opsiynau prentisiaeth fod ar gael i chi.

Mae gwneuthuro a weldio yn ddiwydiant anferth sy’n gweithgynhyrchu gwaith metal ar gyfer amrywiaeth eang o diwydiannau a defnyddiau.

Bydd prentisiaid yn treulio amser yn ein cyfleusterau o’r radd flaenaf sydd wedi’u hadnewyddu’n ddiweddar ar ein safle Glannau Dyfrdwy a Ffordd y Bers ar gyfer diwrnod rhyddhau o’r gwaith neu asesiad. Yn ogystal â hynny byddant yn cael eu hasesu ar y safle gan ein timau asesu sy’n cael eu gwasanaethu gan y diwydiant.

Dylai prentisiaid gwneuthuro a weldio gael sgiliau ymarferol da a gallu dilyn gwybodaeth dechnegol a diagramau.

Y Prentisiaethau Rydym yn eu Cynnig

Rydym yn cynnig hyfforddiant prentisiaeth lefel 2 a 3 mewn Gwneuthuro a Weldio.

Lefel 2 mewn Gwneuthuro a weldio

Gofynion Mynediad – Cyflogaeth mewn diwydiant perthnasol

Hyd Arferol – 24 mis

Dull Astudio ac Asesu – Asesu yn y gwaith a rhyddhau o’r gwaith ar ddiwrnod

Lleoliad – Y gweithle a Glannau Dyfrdwy neu Ffordd y Bers

Lefel 3 mewn Gwneuthuro a weldio

Gofynion Mynediad – Cyflogaeth mewn diwydiant perthnasol

Hyd Arferol – 18 – 22 mis

Dull Astudio ac Asesu – Asesu yn y gwaith a rhyddhau o’r gwaith ar ddiwrnod

Lleoliad – Y gweithle a Glannau Dyfrdwy neu Ffordd y Bers

Ystyried Prentisiaeth? | Taith Charlotte Kronospan

Play Video

Cyfleusterau Gwneuthuro a Weldio

Gweithdy Gwneuthuro a Weldio

Siaradwch â'r tîm

Os ydych yn chwilio am brentisiaeth, cysylltwch â ni heddiw!

mobile phone svg

Cysylltwch â ni

0300 30 30 006

mail svg

Cyfeiriad e-bost

Ymweld â'n horiel
Dewch i edrych o gwmpas i weld yn union sut beth yw astudio gyda ni yn Cambria.
Neu edrychwch o gwmpas ein safleoedd coleg trwy ymweld yma .
Previous slide
Next slide
Astudiaeth Achos
Jack Cooper

Jack Cooper
Prentis Gwneuthuro a Weldio

“Fe wnes i ddewis weldio gan fy mod i eisiau sgil sy’n cael ei gydnabod yn fyd eang a gyrfa sydd â llawer o botensial a chyfleoedd i ddilyn llwybrau gwahanol. Mae hefyd yn galluogi i mi adeiladu pethau a gwneud gwaith ymarferol, sy’n broses dwi’n ei mwynhau’n fawr.

 Mae’n amhosibl cyrraedd ble rydw i heddiw heb y cymhwyster hwn. Mae wedi fy ngalluogi i weithio i gwmni weldio am 5 mlynedd o dan gynllun prentisiaeth rhyddhau am y diwrnod lle roeddwn i’n gallu ennill ac arbed arian wrth ddysgu. Cefais lawer o brofiad ac yn y pen draw fe wnes i orffen gyda’m Diploma Lefel 3 NVQ mewn Gwneuthuro a Weldio sy’n gymhwyster sy’n cael ei gydnabod yn fyd-eang ac mae bron pob cwmni peirianneg/weldio yn chwilio amdano. Ar hyn o bryd dwi’n byw yn Seland Newydd ar fisa gwyliau gweithio 12 mis, felly bydd y cymhwyster hwn yn fy helpu i ddod o hyd i swydd, a fydd yn ei thro yn fy helpu i gael parhau i fyw yma. Mae’n agor nifer o ddrysau. Ar hyn o bryd dwi’n ystyried gwneud cais i nifer o gwmnïau weldio yn Seland Newydd i gael rhagor o brofiad er mwyn gweithio fel peiriannydd ar y môr yn y dyfodol.  

Mae prentisiaeth mewn gwneuthuro a weldio yn eich galluogi i ddysgu wrth ennill cyflog, bydd myfyrwyr yn gorffen gyda sgil cydnabyddedig a dymunol a fydd yn ddefnyddiol drwy gydol eu bywyd. 

Mae’r tiwtoriaid gwneuthuro a weldio yng Ngholeg Cambria heb eu hail, yn barod iawn eu cymwynas ac yn gefnogol iawn.”

Dangos Rhagor
A hairdressing student cutting someone's hair in a salon

Jane Moore

“During my apprenticeship I was getting the training as well as getting paid. It opens your eyes up to the working environment and gets you ready for your future.

I think it’s brilliant to have the opportunity to do an apprenticeship as a mature person.”

Dangos Rhagor
A Construction Apprentice in their office looking towards the camera with plans on the stand up table below her

Alice Stansford

“During my apprenticeship I was getting the training as well as getting paid. It opens your eyes up to the working environment and gets you ready for your future.

I think it’s brilliant to have the opportunity to do an apprenticeship as a mature person.”

Dangos Rhagor
Chwilio am brentisiaeth? Cymerwch gip ar ein Siop Swyddi i weld y prentisiaethau gwag!
Chwilio am ragor o wybodaeth am Wasanaeth Prentisiaethau Gwag Llywodraeth Cymru!

Y Cyflogwyr Rydym yn Gweithio Gyda Nhw

The Magellan Aerospace logo
The Electroimpact logo
The Flintshire County Council Logo

Tudalen Pynciau Llawn Amser

Gwybodaeth am y Cyflogwr

Digwyddiadau Diweddaraf
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llysfasi
11/04/2024

17:30

Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.