main logo

Gweithgynhyrchu Bwyd

Play Video

Pam Dewis Prentisiaeth?

Dechreuwch eich gyrfa gyda phrentisiaeth i ennill cyflog wrth ddysgu.

Mae cwmnïau ledled Gogledd Cymru a thu hwnt yn recriwtio pobl ar gyfer prentisiaethau a hyfforddiant yn y sgiliau sydd eu hangen arnynt i lwyddo yn eu gyrfa.

Fel prentis byddwch chi’n ennill cyflog wrth ddysgu, ennill sgiliau, gwybodaeth, profiad a chymwysterau cydnabyddedig ar hyd y ffordd. P’un ai rydych chi rhwng 16 ac 19 oed neu’n 20 oed neu’n hŷn, gallai ystod o opsiynau prentisiaeth fod ar gael i chi.

Mae nifer enfawr o fusnesau gweithgynhyrchu bwyd yng Ngogledd Cymru sy’n cyflenwi bwyd a diod ledled y DU ac yn fyd-eang!

Bydd prentisiaid yn cael eu hasesu yn y gwaith gan ein timau sydd â phrofiad yn y diwydiant a chael cyrchu adnoddau’r coleg i helpu gyda’u hastudiaethau.

Y Prentisiaethau Rydym yn eu Cynnig

Darganfyddwch am y cyrsiau Lefel 2 mewn Gweithgynhyrchu Bwyd rydym yn eu cynnig isod.

Mae rhagor o gymwysterau Lefel 2, 3 a 4 ar gael yn y sector gweithgynhyrchu bwyd, ffoniwch ni ar 0300 30 30 006 am ragor o wybodaeth.

Diploma Lefel 2 Hyfedredd mewn Gweithrediadau Bwyd a Diod

Gofynion Mynediad – Hŷn na 16 oed. Gweithio mewn gwaith sy’n talu cyflog yn y sector gweithgynhyrchu bwyd am 16 awr yr wythnos neu ragor.

Hyd Arferol – 18 mis

Dull Astudio ac Asesu – Asesiad yn y gwaith

Lleoliad – Y gweithle

Diploma Lefel 2 Hyfedredd mewn Cigyddiaeth a Phrosesu Cig

Gofynion Mynediad – Hŷn na 16 oed. Gweithio mewn gwaith sy’n talu cyflog yn y sector gweithgynhyrchu bwyd am 16 awr yr wythnos neu ragor.

Hyd Arferol – 21 mis

Dull Astudio ac Asesu – Asesiad yn y gwaith

Lleoliad – Y gweithle

Diploma Lefel 2 mewn Hyfedredd mewn Arwain Tîm yn y Diwydiant Bwyd

Gofynion Mynediad – Hŷn na 16 oed. Gweithio mewn gwaith sy’n talu cyflog yn y sector gweithgynhyrchu bwyd am 16 awr yr wythnos neu ragor.

Hyd Arferol – 18 mis

Dull Astudio ac Asesu – Asesiad yn y gwaith

Lleoliad – Y gweithle

Diploma Lefel 2 mewn Hyfedredd mewn Sgiliau Diwydiant Pobi 

Gofynion Mynediad – Hŷn na 16 oed. Gweithio mewn gwaith sy’n talu cyflog yn y sector gweithgynhyrchu bwyd am 16 awr yr wythnos neu ragor.

Hyd Arferol – 18 mis

Dull Astudio ac Asesu – Asesiad yn y gwaith

Lleoliad – Y gweithle

Diploma Lefel 3 Hyfedredd mewn Gweithrediadau Technegol Bwyd a Diod

Gofynion Mynediad – Cyflogaeth mewn diwydiant perthnasol

Hyd Arferol – 21 mis

Dull Astudio ac Asesu – Asesiad yn y gwaith

Lleoliad – Y gweithle

Diploma Lefel 3 Hyfedredd mewn Cigyddiaeth a Phrosesu Cig Uwch

Gofynion Mynediad – Cyflogaeth mewn diwydiant perthnasol

Hyd Arferol – 24 mis

Diploma Lefel 3 mewn Hyfedredd mewn Rheoli Technegol yn y Diwydiant Bwyd 

Gofynion Mynediad – Cyflogaeth mewn diwydiant perthnasol

Hyd Arferol – 21 mis

Dull Astudio ac Asesu – Asesiad yn y gwaith

Lleoliad – Y gweithle

Tystysgrif Lefel 4 Hyfedredd mewn Rhagoriaeth Gweithgynhyrchu Bwyd

Gofynion Mynediad – Cyflogaeth mewn diwydiant perthnasol

Hyd Arferol – 24 mis

Dull Astudio ac Asesu – Asesiad yn y gwaith

Lleoliad – Y gweithle

Naomi Spaven

Naomi Spaven

Wedi astudio – Lefel 2 mewn Hyfedredd Sgiliau’r Diwydiant Pobi

Mae’r cwrs hwn wedi rhoi cymaint o hyder i mi ac wedi fy helpu yn fy nhasgau bob dydd yn y gwaith.

“Mae cael cefnogaeth fy nhiwtor, Daryl, wedi bod yn amhrisiadwy – nid yn unig mae wedi bod wrth law i helpu gydag unrhyw ymholiadau sy’n gysylltiedig â’r cwrs sydd gen i, ond hefyd i helpu gydag unrhyw gwestiynau yn y gweithle oedd gen i hefyd!

“Mae mor hyfryd cael cymhwyster pobi ac alla i ddim aros i symud ymlaen i Lefel 3.”

Dangos rhagor
Matt Edwards - Butchery comp

Matt Edwards

Erbyn hyn – Ymarferydd Dysgu yn y gwaith Cynhyrchu Bwyd

“Fe wnes i ddechrau gweithio fel cigydd yn 14 oed ac roeddwn i’n gwneud hynny nes i mi ddod yn asesydd yn 2019. Roeddwn i eisiau bod yn asesydd i helpu cigyddion newydd i ennill cymwysterau a rhannu cymaint o’m gwybodaeth ag y galla’ i.

“Roeddwn i’n enillydd medal aur World Skills ar gyfer cigyddiaeth yn 2016 ac yn 2017 fe es i gynnal gwrthdystiad cigyddiaeth, yn anffodus nid oes categori ar gyfer cigyddiaeth bellach ond dwi’n gobeithio y bydd yn cael ei adfer yn y dyfodol.

“Erbyn hyn dwi’n llysgennad ISEiW (Rhagoriaeth Sgiliau Ysbrydoledig yng Nghymru) felly baswn i’n hoffi hyrwyddo cystadlaethau mawr i gigyddion fel y gallan nhw gymryd rhan a chodi proffil cigyddiaeth yng Nghymru.

“Dwi hefyd eisiau cael cymaint o gigyddion â phosibl i gystadlaethau i brofi’n wirioneddol y sgil a’r dalent sydd yn y diwydiant hwn. Weithiau gall cigyddiaeth gael ei anwybyddu, ond mae’n syfrdanu pobl pan maen nhw’n gweld beth all cigyddion ei gynhyrchu ledled Cymru.”

Dangos rhagor

Siaradwch â'r tîm

Os ydych yn chwilio am brentisiaeth, cysylltwch â ni heddiw!

mobile phone svg

Cysylltwch â ni

0300 30 30 006

mail svg

Cyfeiriad e-bost

Ymweld â'n horiel
Dewch i edrych o gwmpas i weld yn union sut beth yw astudio gyda ni yn Cambria.
Neu edrychwch o gwmpas ein safleoedd coleg trwy ymweld yma .
Previous slide
Next slide
Astudiaethau Achos
Hairdresser, Kimberly Jones taking a hero shot at her salon looking at the camera

Kimberly Jones

“During my apprenticeship I was getting the training as well as getting paid. It opens your eyes up to the working environment and gets you ready for your future.

I think it’s brilliant to have the opportunity to do an apprenticeship as a mature person.”

Dangos Rhagor
A hairdressing student cutting someone's hair in a salon

Jane Moore

“During my apprenticeship I was getting the training as well as getting paid. It opens your eyes up to the working environment and gets you ready for your future.

I think it’s brilliant to have the opportunity to do an apprenticeship as a mature person.”

Dangos Rhagor
A Construction Apprentice in their office looking towards the camera with plans on the stand up table below her

Alice Stansford

“During my apprenticeship I was getting the training as well as getting paid. It opens your eyes up to the working environment and gets you ready for your future.

I think it’s brilliant to have the opportunity to do an apprenticeship as a mature person.”

Dangos Rhagor
Chwilio am brentisiaeth? Cymerwch gip ar ein Siop Swyddi i weld y prentisiaethau gwag!
Chwiliwch am ragor o wybodaeth am Wasanaeth Prentisiaethau Gwag Llywodraeth Cymru!

Cyflogwyr Rydym yn Gweithio Gyda Nhw

The Magellan Aerospace logo
The Electroimpact logo
The Flintshire County Council Logo

Gwybodaeth i Gyflogwyr

Digwyddiadau Diweddaraf
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llysfasi
11/04/2024

17:30

Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.