main logo

Gweinyddu Busnes

Play Video

Pam dewis Prentisiaeth?

Dechreuwch eich gyrfa gyda phrentisiaeth i ennill cyflog wrth ddysgu.

Mae cwmnïau ledled Gogledd Cymru a thu hwnt yn recriwtio pobl ar gyfer prentisiaethau a hyfforddiant yn y sgiliau sydd eu hangen arnynt i lwyddo yn eu gyrfa.

Fel prentis byddwch chi’n ennill cyflog wrth ddysgu, ennill sgiliau, gwybodaeth, profiad a chymwysterau cydnabyddedig ar hyd y ffordd. P’un ai rydych chi rhwng 16 ac 19 oed neu’n 20 oed neu’n hŷn, gallai ystod o opsiynau prentisiaeth fod ar gael i chi.

Gall Prentisiaethau Gweinyddu Busnes fod yn gam cyntaf i ystod anferth o ddiwydiannau a bydd y cymwysterau hyn yn rhoi’r sgiliau sydd eu hangen arnoch i lwyddo yn y byd gwaith a gyrfa yn y dyfodol.

Yn aml bydd gofyn i chi weithio fel rhan o dîm a rhyngweithio gyda’r holl adrannau eraill yn rheolaidd.

Bydd prentisiaid yn cael eu hasesu yn y gweithle gan ein timau asesu sydd â phrofiad yn y diwydiant, mae angen i ddysgwyr sy’n cwblhau’r cymwysterau hyn fod yn llawn cydymdeimlad, trefnus a chael sgiliau cyfathrebu ardderchog.

Y Prentisiaethau rydym yn eu cynnig

Rydym yn cynnig hyfforddiant prentisiaeth gweinyddu busnes ar Lefel 2, 3 a 4.

Diploma Lefel 2 City & Guilds mewn Gweinyddu Busnes

Gofynion Mynediad – Cyflogaeth mewn diwydiant perthnasol

Hyd Arferol – 15 mis

Dull Astudio ac Asesu – Asesiad yn y gwaith

Lleoliad – Gweithle

Diploma Lefel 3 City & Guilds mewn Gweinyddu Busnes

Gofynion Mynediad – Cyflogaeth mewn diwydiant perthnasol

Hyd Arferol – 15 mis

Dull Astudio ac Asesu – Asesiad yn y gwaith

Lleoliad – Gweithle

Ellen ORiordan

Ellen O’Riordan

Wedi Astudio – Lefel 2 a Lefel 3 mewn Gweinyddu Busnes 

Ar Hyn o Bryd –Swyddog Cefnogi Prosiect ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

“Pan mi wnes i ddechrau’r cymhwyster Lefel 2 roeddwn i’n gweithio ar lefel Band 2 o fewn y GIG. Mae cwblhau’r ddau gymhwyster Gweinyddu Busnes wedi caniatáu i mi symud ymlaen yn fy ngyrfa wrth barhau i weithio yn y GIG ac erbyn hyn dwi’n gweithio ar lefel Band 4. Heb y cymwysterau yma, byddai hyn ddim yn bosib oherwydd fuaswn i ddim yn bodloni’r meini prawf manyleb person ar gyfer fy swydd bresennol fel Swyddog Cefnogi Prosiect.

“Yn fy nghyfweliad diweddar, un o’r cwestiynau gwnaethon nhw ofyn i mi oedd pa ddull cyfathrebu buaswn i’n ei ddefnyddio i ymgysylltu â rhanddeiliaid. Ar ôl cwblhau unedau gwybodaeth a thystiolaeth yn ymwneud â chyfathrebu ar Lefel 2 a Lefel 3, roeddwn i’n gallu rhoi ateb oedd wedi’i strwythuro’n dda yn y cyfweliad.

“Cefais i gefnogaeth wych gan fy ymarferydd dysgu yn y gwaith Sarah a helpodd fi i ennill y cymwysterau.”

Dangos Rhagor
frankie - Yale 6 (1)

Frankie McCamley

Studied – A Level English, Drama, Maths and French

Currently – Presenter and News Correspondent for the BBC 

“I wasn’t sure what I wanted to do in the future, so I chose a range of different subjects to study at A Level. I’m now employed by the BBC as a Presenter and News Correspondent and studying at Yale Sixth gave me the confidence and skills to go onto university. I made some amazing friends, had some great teachers who I’ll never forget and had a great time in Wrexham! 

“I look back on my time at Yale with pride and fondness and will never forget it!”

Dangos Rhagor

Siaradwch â'r tîm

Os ydych yn chwilio am brentisiaeth, cysylltwch â ni heddiw!

mobile phone svg

Cysylltwch â ni

0300 30 30 006

mail svg

Cyfeiriad e-bost

Ymweld â'n horiel
Dewch i edrych o gwmpas i weld yn union sut beth yw astudio gyda ni yn Cambria.
Neu edrychwch o gwmpas ein safleoedd coleg trwy ymweld yma .
Previous slide
Next slide
Astudiaethau Achos
Hairdresser, Kimberly Jones taking a hero shot at her salon looking at the camera

Kimberly Jones

“Yn ystod fy mhrentisiaeth roeddwn yn cael yr hyfforddiant yn ogystal â chael fy nhalu. Mae’n agor eich llygaid i’r amgylchedd gwaith ac yn eich paratoi ar gyfer eich dyfodol.

Dwi’n meddwl bod cael y cyfle i wneud prentisiaeth fel person aeddfed yn wych.”

Dangos Rhagor
Apprenticeships-Hairdressing.jpg

Jane Moore

“Yn ystod fy mhrentisiaeth roeddwn yn cael yr hyfforddiant yn ogystal â chael fy nhalu. Mae’n agor eich llygaid i’r amgylchedd gwaith ac yn eich paratoi ar gyfer eich dyfodol.

Dwi’n meddwl bod cael y cyfle i wneud prentisiaeth fel person aeddfed yn wych.”

Dangos Rhagor
A construction apprentice standing at her desk looking towards the camera

Alice Stansford

“Yn ystod fy mhrentisiaeth roeddwn yn cael yr hyfforddiant yn ogystal â chael fy nhalu. Mae’n agor eich llygaid i’r amgylchedd gwaith ac yn eich paratoi ar gyfer eich dyfodol.

Dwi’n meddwl bod cael y cyfle i wneud prentisiaeth fel person aeddfed yn wych.”

Dangos Rhagor
Chwilio am brentisiaeth? Cymerwch gip ar ein Siop Swyddi i weld y prentisiaethau gwag!
Chwilio am ragor o wybodaeth am Wasanaeth Prentisiaethau Gwag Llywodraeth Cymru!

Ein Partneriaid Cyflogwyr

Tudalen Pynciau Llawn Amser

Gwybodaeth am y Cyflogwr

Digwyddiadau Diweddaraf
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llysfasi
11/04/2024

17:30

Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.