main logo

Gofal Plant, Astudiaethau Plentyndod a Gwaith Chwarae

Play Video

Pam dewis Prentisiaeth?

Dechreuwch eich gyrfa gyda phrentisiaeth i ennill cyflog wrth ddysgu.

Mae cwmnïau ledled Gogledd Cymru a thu hwnt yn recriwtio pobl ar gyfer prentisiaethau a hyfforddiant yn y sgiliau sydd eu hangen arnynt i lwyddo yn eu gyrfa.

Fel prentis byddwch chi’n ennill cyflog wrth ddysgu, ennill sgiliau, gwybodaeth, profiad a chymwysterau cydnabyddedig ar hyd y ffordd. P’un ai rydych chi rhwng 16 ac 19 oed neu’n 20 oed neu’n hŷn, gallai ystod o opsiynau prentisiaeth fod ar gael i chi.

Os rydych yn mwynhau gweithio gyda phlant, gall prentisiaeth mewn gofal plant fod yn yrfa berffaith i chi!

Mae angen i bobl sy’n astudio tuag at y cymhwyster hwn fod yn gweithio mewn lleoliadau gofal plant a reoleiddir gyda theuluoedd a phlant o dan 8 oed a/neu
wasanaethau plant y GIG ar gyfer y rhai sy’n gweithio gyda theuluoedd a phlant 0-19 oed.

Bydd Prentisiaid yn mynd i weithdai ac yn dysgu’r wybodaeth greiddiol yn ogystal â chael eu hasesu yn y gweithle gan ein timau sydd â phrofiad yn y diwydiant.

Bydd angen i ddysgwyr yn y diwydiant hwn fod â llawer o egni, creadigrwydd a gallu gweithio’n dda fel rhan o dîm

Y Prentisiaethau rydym yn eu cynnig

Rydym yn cynnig hyfforddiant prentisiaeth gofal plant ar Lefel 2, 3, 4 a 5.

Lefel 2 mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant

Gofynion Mynediad – Cyflogaeth mewn diwydiant perthnasol fel cymhorthydd mewn lleoliad gofal plant

Hyd Arferol – 16 mis

Dull Astudio ac Asesu – Asesiad yn y gwaith a mynd i weithdai

Lleoliad – Yn y gweithle ac i ffwrdd o’r gwaith

Lefel 3 mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant

Gofynion Mynediad – Cyflogaeth mewn diwydiant perthnasol mewn lleoliad gofal plant mewn swydd oruchwylio

Hyd Arferol – 18 mis

Dull Astudio ac Asesu – Asesiad yn y gwaith a mynd i weithdai

Lleoliad – Yn y gweithle ac i ffwrdd o’r gwaith

Lefel 4 mewn Ymarfer Proffesiynol mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant

Gofynion Mynediad – Cyflogaeth mewn diwydiant perthnasol mewn swydd oruchwylio mewn lleoliad gofal plant

Hyd Arferol – 24 mis

Dull Astudio ac Asesu – Asesiad yn y gwaith a mynd i weithdai

Lleoliad – Yn y gweithle a Glannau Dyfrdwy neu Iâl

 

Lefel 5 mewn Arwain a Rheoli mewn Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant

Gofynion Mynediad – Cyflogaeth mewn diwydiant perthnasol

Hyd Arferol – 36 mis

Dull Astudio ac Asesu – Asesiad yn y gwaith a mynd i weithdai

Lleoliad – Yn y gweithle a Glannau Dyfrdwy neu Iâl

Lefel 5 mewn Fframwaith Proffesiynol mewn Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant

Gofynion Mynediad – Cyflogaeth mewn diwydiant perthnasol

Hyd Arferol – 9 mis

Dull Astudio ac Asesu – Asesiad yn y gwaith a mynd i weithdai

Lleoliad – Yn y gweithle a Glannau Dyfrdwy neu Iâl

Magu Prentisiaethau gyda Choleg Cambria | Gofal Dydd Plant Roots and Wings

Play Video

Siaradwch â'r tîm

Os ydych chi’n chwilio am brentisiaeth, cysylltwch â ni heddiw!

mobile phone svg

Cysylltwch â ni

0300 30 30 006

mail svg

Cyfeiriad e-bost

Ymweld â'n horiel
Dewch i edrych o gwmpas i weld yn union sut beth yw astudio gyda ni yn Cambria.
Neu edrychwch o gwmpas ein safleoedd coleg trwy ymweld yma .
Previous slide
Next slide
Astudiaethau Achos
Hairdresser, Kimberly Jones taking a hero shot at her salon looking at the camera

Kimberly Jones

“Yn ystod fy mhrentisiaeth roeddwn i’n cael yr hyfforddiant yn ogystal â chael fy nhalu. Mae’n agor eich llygaid i’r amgylchedd gwaith ac yn eich paratoi ar gyfer eich dyfodol.

Dwi’n meddwl bod cael y cyfle i wneud prentisiaeth fel person aeddfed yn wych.”

Dangos Rhagor
Apprenticeships-Hairdressing.jpg

Jane Moore

“Yn ystod fy mhrentisiaeth roeddwn i’n cael yr hyfforddiant yn ogystal â chael fy nhalu. Mae’n agor eich llygaid i’r amgylchedd gwaith ac yn eich paratoi ar gyfer eich dyfodol.

Dwi’n meddwl bod cael y cyfle i wneud prentisiaeth fel person aeddfed yn wych.”

Dangos Rhagor
A construction apprentice standing at her desk looking towards the camera

Alice Stansford

“Yn ystod fy mhrentisiaeth roeddwn i’n cael yr hyfforddiant yn ogystal â chael fy nhalu. Mae’n agor eich llygaid i’r amgylchedd gwaith ac yn eich paratoi ar gyfer eich dyfodol.

Dwi’n meddwl bod cael y cyfle i wneud prentisiaeth fel person aeddfed yn wych.”

Dangos Rhagor
Chwilio am brentisiaeth? Cymerwch gip ar ein Siop Swyddi i weld y prentisiaethau gwag!
Chwilio am ragor o wybodaeth am Wasanaeth Prentisiaethau Gwag Llywodraeth Cymru!

Cyflogwyr rydym yn gweithio â nhw

Tudalen Pynciau Llawn Amser

Gwybodaeth am y Cyflogwr

Digwyddiadau Diweddaraf
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llysfasi
11/04/2024

17:30

Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.