main logo

Cerbydau Modur

Play Video

Pam Dewis Prentisiaeth?

Rhowch hwb i’ch gyrfa gyda phrentisiaeth ac ennillwch gyflog wrth i chi ddysgu.

Ar draws Gogledd Cymru a thu hwnt, mae cwmnïau yn recriwtio ar gyfer prentisiaethau ac yn hyfforddi pobl yn y sgiliau sydd eu hangen arnynt i lwyddo yn eu gyrfa.

Fel prentis byddwch yn ennill cyflog wrth ddysgu, gan ennill sgiliau, gwybodaeth, profiad a chymwysterau cydnabyddedig ar hyd y ffordd. P’un a ydych rhwng 16 a 19 oed neu’n 20 oed a hŷn, efallai y bydd amrywiaeth o opsiynau prentisiaeth ar gael i chi.

Mae’r Diwydiant Modurol yn ddiwydiant sy’n tyfu o hyd ac yn chwilio am dalent newydd i ymuno â’r sector.

Rydym yn cynnig ystod eang o gymwysterau prentisiaeth sy’n addas ar gyfer cynnal a chadw cerbydau ysgafn a cherbydau trwm a diagnosteg ochr yn ochr â chyrsiau byrrach i gadw gwybodaeth y diwydiant yn gyfredol fel Systemau Cynorthwyo Gyrwyr Uwch (ADAS) a chyrsiau Hybrid/Cerbydau Trydan hyd at L4.

Bydd prentisiaid yn treulio amser yn ein cyfleusterau o’r radd flaenaf sydd wedi’u hadnewyddu’n ddiweddar ar safle Glannau Dyfrdwy a Ffordd y Bers i gael eu rhyddhau am y dydd neu i gael eu hasesu yn ogystal â chael eu hasesu ar y safle gan ein timau asesu sy’n cael eu gwasanaethu gan y diwydiant.

Dylai fod gan brentisiaid cerbydau modur ddiddordeb brwd mewn ceir a cherbydau eraill a dylent allu gweithio’n gyflym ac yn effeithlon.

Y Prentisiaethau Rydym yn eu Cynnig

Rydym yn cynnig hyfforddiant prentisiaeth lefel 2 a 3 mewn cerbydau modur.

Lefel 2 VCQ mewn cynnal a chadw ac atgyweirio cerbydau ysgafn

Gofynion Mynediad – Cyflogaeth mewn diwydiant perthnasol

Hyd Arferol – 24 mis

Dull Astudio ac Asesu – Asesiad yn y gwaith a rhyddhau o’r gwaith

Lleoliad – Yn y gwaith a Glannau Dyfrdwy neu Ffordd y Bers

Lefel 2 VCQ mewn cynnal a chadw ac atgyweirio cerbydau trwm

Gofynion Mynediad – Cyflogaeth mewn diwydiant perthnasol

Hyd Arferol – 24 mis

Dull Astudio ac Asesu – Asesiad yn y gwaith a rhyddhau o’r gwaith

Lleoliad – Yn y gwaith a Glannau Dyfrdwy neu Ffordd y Bers

Lefel 3 VCQ mewn cynnal a chadw ac atgyweirio cerbydau ysgafn

Gofynion Mynediad – Cyflogaeth mewn diwydiant perthnasol

Hyd Arferol – 18 – 24 mis

Dull Astudio ac Asesu – Asesiad yn y gwaith a rhyddhau o’r gwaith

Lleoliad – Yn y gwaith a Glannau Dyfrdwy neu Ffordd y Bers

Lefel 3 VCQ mewn cynnal a chadw ac atgyweirio cerbydau trwm

Gofynion Mynediad – Cyflogaeth mewn diwydiant perthnasol

Hyd Arferol – 18 – 24 mis

Dull Astudio ac Asesu – Asesiad yn y gwaith a rhyddhau o’r gwaith

Lleoliad – Yn y gwaith a Glannau Dyfrdwy neu Ffordd y Bers

 

 

Cyfleusterau Cerbydau Modur

Cyfleuster Cerbydau Uwch

Gweithdy Cerbydau Modur

Stephen Kelly

Stephen Kelly

Wedi astudio – Lefel 2 a 3 mewn Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbydau Ysgafn

“Yn ystod fy Mhrentisiaeth fe wnes i ddysgu bob agwedd ar sut i drwsio ceir, gwnes i ddysgu am dechnolegau newydd ac esblygol o ran cerbydau newydd. Fe wnes i edrych ymhellach ar ddiagnosis a pham a sut mae diffygion yn digwydd ar gerbydau.

“Ar Lefel 3 roedden ni’n edrych yn fanylach ar wahanol gydrannau cerbydau, er enghraifft fe wnaethon ni ymchwilio i’r gwahanol drosglwyddiadau sydd ar gael a chydrannau’r llinell yrru. Hefyd fe wnaethon ni astudio injans yn fanwl a’u cydrannau sylfaenol yn ogystal â’r synwyryddion a’r modiwlau sy’n rhan o hynny, systemau cyfathrebu cerbydau a chydrannau trydanol. Mae’r rhain yn rhoi gwell dealltwriaeth i chi o gerbydau ar y ffordd fel y gallwch chi wneud diagnosis cywir a darparu profiad gwell i’r cwsmer.

“Bu’r cwrs o gymorth mawr i mi yn fy ngyrfa gan fy mod i wastad wedi bod yn gyndyn i ymchwilio i’r ochr drydanol gan eu bod bob amser mor gymhleth i weithio gyda nhw. Ond rwan mae gen i’r hyder i wneud diagnosis o broblem boed yn drydanol neu’n broblem mecanyddol a bod 100% yn hyderus ynof fi fy hun fy mod i wedi darganfod y diagnosis cywir trwy ddod o hyd i namau.

“Mae’n bosib mai dyma un o’r pethau gorau dwi wedi’i wneud i gynorthwyo fy ngyrfa, ac fe fyddwn i’n argymell yn fawr i unrhyw sydd ddim yn siŵr ynglŷn â gwneud y cymhwyster fynd ymlaen a gwneud hynny, mae wedi bod yn amhrisiadwy i mi!”

Dangos rhagor
frankie - Yale 6 (1)

Frankie McCamley

Studied – A Level English, Drama, Maths and French

Currently – Presenter and News Correspondent for the BBC 

“I wasn’t sure what I wanted to do in the future, so I chose a range of different subjects to study at A Level. I’m now employed by the BBC as a Presenter and News Correspondent and studying at Yale Sixth gave me the confidence and skills to go onto university. I made some amazing friends, had some great teachers who I’ll never forget and had a great time in Wrexham! 

“I look back on my time at Yale with pride and fondness and will never forget it!”

Dangos rhagor

Siaradwch â'r tîm

Os ydych yn chwilio am brentisiaeth, cysylltwch â ni heddiw!

mobile phone svg

Cysylltwch â ni

0300 30 30 006

mail svg

Cyfeiriad e-bost

Ymweld â'n horiel
Dewch i edrych o gwmpas i weld yn union sut beth yw astudio gyda ni yn Cambria.
Neu edrychwch o gwmpas ein safleoedd coleg trwy ymweld yma .
Previous slide
Next slide
Astudiaethau Achos
Hairdresser, Kimberly Jones taking a hero shot at her salon looking at the camera

Kimberly Jones

“During my apprenticeship I was getting the training as well as getting paid. It opens your eyes up to the working environment and gets you ready for your future.

I think it’s brilliant to have the opportunity to do an apprenticeship as a mature person.”

Dangos Rhagor
A hairdressing student cutting someone's hair in a salon

Jane Moore

“During my apprenticeship I was getting the training as well as getting paid. It opens your eyes up to the working environment and gets you ready for your future.

I think it’s brilliant to have the opportunity to do an apprenticeship as a mature person.”

Dangos Rhagor
A Construction Apprentice in their office looking towards the camera with plans on the stand up table below her

Alice Stansford

“During my apprenticeship I was getting the training as well as getting paid. It opens your eyes up to the working environment and gets you ready for your future.

I think it’s brilliant to have the opportunity to do an apprenticeship as a mature person.”

Dangos Rhagor
Chwilio am brentisiaeth? Cymerwch gip ar ein Siop Swyddi i weld y prentisiaethau gwag!
Chwilio am ragor o wybodaeth am Wasanaeth Prentisiaethau Gwag Llywodraeth Cymru!

Y Cyflogwyr Rydym yn Gweithio Gyda Nhw

The Magellan Aerospace logo
The Electroimpact logo
The Flintshire County Council Logo

Tudalen Pynciau Llawn Amser

Gwybodaeth am y Cyflogwr

Digwyddiadau Diweddaraf
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llysfasi
11/04/2024

17:30

Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.