Rhagor o fanylion | |
|---|---|
Cod y Cwrs | LP01641 |
Lleoliad | Iâl |
Hyd | Llawn Amser, Mae hwn yn gwrs llawn amser blwyddyn o hyd. |
Adran | Dysgu Saesneg |
Dyddiad Dechrau | 01 Sep 2026 |
Dyddiad gorffen | 31 Jul 2027 |
Trosolwg o’r Cwrs
Dysgu Saesneg: Llwybr ESOL i Addysg Bellach yw’r cwrs perffaith os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf a’ch bod yn awyddus i ddatblygu eich sgiliau ar gyfer addysg bellach neu gyflogaeth. P'un a ydych chi’n anelu at wella'ch sgiliau cyfathrebu ar gyfer bywyd bob dydd, ennill cymwysterau cydnabyddedig, neu symud ymlaen i yrfa newydd, mae'r rhaglen llawn amser hon yn cynnig y gefnogaeth a'r strwythur sydd eu hangen arnoch chi i lwyddo.
Beth Fyddwch Chi’n ei Ddysgu
Trwy gydol y cwrs, byddwch yn magu hyder yn Saesneg yn ogystal â dysgu sgiliau hanfodol ar gyfer cyfleoedd yn y dyfodol. Byddwch yn ennill cymwysterau a fydd yn eich helpu i gyflawni eich nodau:
*Tystysgrif City & Guilds mewn ESOL Sgiliau ar gyfer Bywyd: Byddwch yn datblygu eich sgiliau darllen, ysgrifennu, siarad a gwrando er mwyn gwella rhuglder a hyder yn y Saesneg.
* City & Guilds mewn Cyflogadwyedd: Byddwch yn dysgu sgiliau allweddol ar gyfer y gweithle fel gwaith tîm, cyfathrebu, a datrys problemau, er mwyn eich paratoi ar gyfer cyflogaeth.
*Cymhwyster Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Cymhwyso Rhif: Byddwch yn cryfhau eich sgiliau rhifedd, sy’n hanfodol ar gyfer gwaith a bywyd bob dydd, ac yn dysgu sgiliau llythrennedd digidol ymarferol.
*Cynaliadwyedd a Chymuned: Byddwch yn dysgu sgiliau allweddol i wella cynaliadwyedd a hyd yn oed gwirfoddoli yn eich cymuned leol.
Yng Ngholeg Cambria, rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau bod pob dysgwr yn teimlo eu bod yn cael croeso a chefnogaeth. Nod y cwrs hwn yw eich helpu i ddod yn rhan o fywyd coleg, a’ch helpu i fod yn rhan o gymuned ehangach Coleg Cambria.
Byddwch yn elwa o gynllun dilyniant strwythuredig a fydd yn sicrhau rhaglen ddatblygu wedi'i theilwra sy'n cyfateb i'ch anghenion a'ch uchelgeisiau unigol. Byddwn ni’n rhoi'r adnoddau a'r anogaeth sydd eu hangen arnoch chi i gyrraedd eich nodau, p'un a ydych chi’n anelu i barhau i astudio, dod o hyd i waith, neu ddod yn fwy annibynnol yn eich bywyd bob dydd.
Byddwch chi hefyd yn elwa o:
*Ddosbarthiadau pwrpasol
*Tiwtoriaid ESOL profiadol a chefnogol
*Pontio i fywyd coleg â chymorth
*Cymwysterau cydnabyddedig a fydd yn eich helpu i lwyddo a symud ymlaen.

Bydd ymgeiswyr yn cael eu gwahodd am asesiad cychwynnol i sicrhau lefel sylfaenol Mynediad 3.
Byddwch yn cwblhau aseiniadau wedi’u gosod yn allanol a’u marcio’n fewnol.
Gall y cwrs hwn arwain at gymwysterau pellach mewn ‘Dysgu Saesneg’ neu gefnogi eich dilyniant i astudiaethau galwedigaethol.
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Barod i ddechrau ar eich taith?
Ein diwrnodau agored
Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llaneurgain
14/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llysfasi
07/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i’ch helpu i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
13/11/2025
17:00
Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch.
Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/11/2025