Rhagor o fanylion | |
|---|---|
Cod y Cwrs | LP01279 |
Lleoliad | Glannau Dyfrdwy |
Hyd | Llawn Amser, Gallwch chi gwblhau’r cwrs mewn dwy flynedd i ennill y Diploma Estynedig, sy’n darparu’r hyn sy’n cyfateb i dri chymhwyster Safon Uwch. Mae pwynt ymadael ar ôl blwyddyn un lle gallwch chi ennill y Diploma Sylfaen. Mae dulliau asesu yn cynnwys aseiniadau mewnol, astudiaethau achos ac arholiadau allanol. |
Adran | Iechyd a Gofal Cymdeithasol |
Dyddiad Dechrau | 01 Sep 2026 |
Dyddiad gorffen | 18 Jun 2027 |
Trosolwg o’r Cwrs
Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio i'ch paratoi ar gyfer gyrfa foddhaol yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol. Mae'n gyfwerth â thri chymhwyster Safon uwch, gan roi sylfaen academaidd gadarn i chi ar gyfer eich dyfodol.
Beth fyddwch chi’n ei astudio:
Dros ddwy flynedd, byddwch chi’n ymchwilio i ystod amrywiol o bynciau, gan ddatblygu gwybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth hanfodol sy'n berthnasol i wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Mae'r cwricwlwm yn cynnwys materion cyfredol yn y sector, egwyddorion gofal ac arfer diogel, ffactorau sy'n effeithio ar dwf a datblygiad unigol, hyrwyddo hawliau, cefnogi unigolion sydd mewn perygl, a gweithio yn y sector gofal iechyd.
Er mwyn gwella eich ceisiadau prifysgol ymhellach, bydd cyfle i chi gwblhau unedau estynedig, gan gynnwys elfennau gwyddoniaeth, i gyflawni'r hyn sy'n cyfateb i dri chymwyster Safon Uwch. I'r rhai sydd ei angen, rydym hefyd yn cynnig ailsefyll TGAU Bioleg rhan-amser gyda'r nos.
Bydd dysgwyr newydd hefyd yn cwblhau'r cymhwyster Craidd HSC ochr yn ochr â'r rhaglen Lefel 3, gan eu paratoi ar gyfer gwaith yn y sector.
Profiad Ymarferol:
Mae rhan sylweddol o'r cwrs hwn yn cynnwys profiad lleoliad ymarferol. Byddwch yn cwblhau o leiaf 150 awr mewn lleoliad perthnasol yn ystod eich blwyddyn gyntaf ac yn parhau â'ch lleoliad yn eich ail flwyddyn.

5 TGAU gradd C/4 neu uwch gan gynnwys Saesneg Iaith/Cymraeg (Iaith Gyntaf) a Mathemateg a Gwyddoniaeth os yn bosib, NEU gwblhau rhaglen Lefel 2 berthnasol yn llwyddiannus y mae’n rhaid iddi gynnwys cyflawniad mewn rhifedd a llythrennedd.
Bydd dysgwyr nad ydynt wedi cwblhau Lefel 2 Craidd mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol eto hefyd yn cwblhau’r cymhwyster hwn ochr yn ochr â’u lefel 3.
Yng Ngholeg Cambria rydyn ni’n eich annog chi i wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau fydd eich graddau, y mwyaf o opsiynau a fydd gennych chi, ac fe allai eich galluogi i symud ymlaen at gwrs lefel uwch.

Gallwch chi gwblhau’r cwrs mewn dwy flynedd i ennill y Diploma Estynedig, sy’n darparu’r hyn sy’n cyfateb i dri chymhwyster Safon Uwch. Mae pwynt ymadael ar ôl blwyddyn un lle gallwch chi ennill y Diploma Sylfaen. Mae dulliau asesu yn cynnwys aseiniadau mewnol, astudiaethau achos ac arholiadau allanol.
Ar ôl cwblhau, byddwch chi wedi’ch paratoi’n dda ar gyfer cyflogaeth uniongyrchol mewn amrywiol rolau, fel Cynorthwyydd Gofal Iechyd (HCA), Cynorthwyydd Ffisiotherapi, Gweithiwr Prosiect, neu Dechnegydd Ambiwlans.
Mae’r cymhwyster hwn hefyd yn darparu sylfaen ardderchog ar gyfer addysg uwch, gan agor drysau i ystod eang o gyrsiau prifysgol fel Gwaith Cymdeithasol, Addysgu, Hybu Iechyd, Seicoleg, Ffisiotherapi, Therapi Galwedigaethol, Bydwreigiaeth, Nyrsio a Radiograffeg.

Efallai y bydd rhai cyrsiau yn gofyn am brynu cit/offer. Edrychwch ar y rhestr cit atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Lawrlwythiadau Defnyddiol
Rhestr OfferBarod i ddechrau ar eich taith?
Ein diwrnodau agored
Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llaneurgain
14/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llysfasi
07/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i’ch helpu i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
13/11/2025
17:00
Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch.
Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/11/2025