L1 mewn Busnes, Teithio a Digwyddiadau

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LP01246
Lleoliad
Iâl
Hyd
Llawn Amser, Dyma gwrs blwyddyn lawn amser.
Adran
Busnes, Arwain a Rheoli, Dysgu Sylfaen
Dyddiad Dechrau
02 Sep 2026
Dyddiad gorffen
19 Jun 2027

Trosolwg o’r Cwrs

Yn barod i ddechrau eich gyrfa ym myd cyffrous busnes, teithio neu gynllunio digwyddiadau? Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio i roi'r sgiliau, y rhinweddau a'r wybodaeth i chi y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt yn y sector twristiaeth prysur. P'un ai ydych chi newydd ddechrau neu'n awyddus i ddatblygu eich sgiliau, mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio ar eich cyfer chi.

Beth Fyddwch chi'n ei Ddysgu
Byddwch yn ennill dealltwriaeth gref o sut i weithio ar draws y sectorau busnes, teithio a chynllunio digwyddiadau. Byddwch yn barod i ddatblygu ac ymarfer y sgiliau y mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi’n sylweddol.

Mae pynciau’r cwrs yn cynnwys:
*Deall gwasanaethau i gwsmeriaid gwych
*Dysgu’r sgiliau i sefydlu busnes eich hun
*Cynllunio pob mathau o ddigwyddiadau yn effeithiol, o ymgasgliadau corfforaethol i briodasau a phartïon
*Edrych ar y ffactorau sy’n dylanwadu’r diwydiant
*Rheoli cyllidebau a strategaethau marchnata effeithiol.

Cefnogaeth ar gyfer Eich Llwyddiant
Canolbwyntir ar ddatblygu eich sgiliau llythrennedd a rhifedd trwy gydol y rhaglen. Bydd gennych chi’r cyfle i fynd i’r afael â chymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Cyfathrebu a Chymhwyso Rhif. Bydd y cymwysterau hyn yn eich helpu chi i symud ymlaen at lefelau uwch o ddysgu.

Byddwch chi’n cael Anogwr Cynnydd a fydd yno i'ch cefnogi chi bob cam o'r ffordd. Bydd yr anogwr yn sicrhau bod unrhyw gymorth gydag anghenion dysgu ychwanegol ar waith cyn i chi ddechrau ar eich cwrs. Byddan nhw hefyd yn sicrhau bod unrhyw anghenion newydd am gymorth a fyddai’n gallu ymddangos yn cael eu cynnwys yn eich rhaglen i’ch helpu chi i lwyddo. Mae'r cwrs hwn wedi'i gefnogi'n llawn i fodloni eich anghenion unigol a'ch gwahaniaethau dysgu.
4 TGAU gradd E/2 neu uwch, un gan gynnwys Saesneg Iaith/Cymraeg (Iaith Gyntaf) a Mathemateg.

Ar gyfer pob dysgwr sy’n edrych i symud ymlaen i’r cwrs Lefel 1 hwn o Sgiliau Sylfaen – mae’n rhaid eich bod wedi ennill eich cymhwyster Mynediad 3, wedi symud ymlaen mewn Mathemateg a Saesneg/Cymraeg a chyrraedd pob un o’r targedau yn eich CDU.

Yng Ngholeg Cambria, byddem ni’n eich annog chi i wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau fydd eich canlyniadau, y mwyaf o ddewisiadau fydd gennych chi, a gallai hynny arwain at ddechrau cwrs lefel uwch.
Byddwch chi’n cyflawni’r cymhwyster trwy gwblhau gwaith cwrs a fydd yn cael ei asesu’n fewnol. Gallai hyn gynnwys creu siartiau gwybodaeth, dylunio taflenni neu gwblhau aseiniadau ysgrifenedig.
Ar ôl cwblhau’r cwrs llawn amser blwyddyn o hyd hwn yn llwyddiannus, byddwch yn barod i ddilyn gyrfa cyffrous mewn swyddi fel:

*Cymhorthydd Gwasanaethau i Gwsmeriaid
*Gwasanaethydd Twristiaeth a Hamdden
*Asiant Twristiaeth
*Prentis mewn Cynllunio Digwyddiadau
*Cynrychiolydd Gwyliau.

Mae’r cwrs hwn hefyd yn gam gwych i gwrs neu brentisiaeth arall! Gallwch symud ymlaen at gwrs Lefel 2 neu brentisiaeth gan agor hyd yn oed mwy o ddrysau ar gyfer eich dyfodol.
Bydd angen prynu offer a/neu wisg hanfodol ar gyfer rhai cyrsiau. Edrychwch ar y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Lawrlwythiadau Defnyddiol
Rhestr Offer

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llaneurgain
14/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llysfasi
07/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i’ch helpu i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
13/11/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/11/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost