Diploma Lefel 1 mewn Gosod Brics a Gwaith Trywel

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LP00298
Lleoliad
Glannau Dyfrdwy
Hyd
Llawn Amser, Dyma gwrs blwyddyn lawn amser.
Adran
Gwaith Brics, Dysgu Sylfaen
Dyddiad Dechrau
01 Sep 2026
Dyddiad gorffen
31 Jul 2027

Trosolwg o’r Cwrs

Barod i adeiladu dyfodol cadarn? Y cwrs hwn yw eich cam cyntaf perffaith i'r diwydiant adeiladu, gan eich rhoi chi ar y llwybr i ddod yn osodwr brics medrus. Byddwch chi'n ennill yr hyder, y wybodaeth a'r sgiliau ymarferol sydd eu hangen arnoch chi ar gyfer gyrfa werth chweil.

Beth Fyddwch chi'n ei Ddysgu:
Mae'r rhaglen flwyddyn hon, syn cael ei chyflwyno dros dridiau'r wythnos, yn cyfuno profiad gweithdy ymarferol â dysgu hanfodol yn yr ystafell ddosbarth. Byddwch chi’n mynd i’r afael â:

*Iechyd, diogelwch a lles mewn adeiladu
*Gweithio'n effeithiol yn y diwydiant adeiladu
*Ymwybyddiaeth o’r amgylchedd
*Cyrchu offer yn y maes Adeiladu
*Anheddau Preswyl yn y maes Adeiladu
*Sgiliau Gosod Brics Sylfaenol
*Sgiliau Gosod Blociau Sylfaenol
*Adeiladu waliau ceudod
*Adeiladu waliau bloc ac agoriadau mewn gwaith brics
*Hybu eich sgiliau cyfathrebu a rheoli amser
*Cynllunio eich gyrfa yn y dyfodol.

Eich Taith Ddysgu a'ch Cymorth:
Rydyn ni yma i'ch cefnogi bob cam o'r ffordd! Bydd gennych chi Anogwr Cynnydd a fydd yn gweithio gyda chi drwy gydol y rhaglen, gan sicrhau bod unrhyw anghenion dysgu ychwanegol yn cael eu bodloni er mwyn i chi llwyddo. Bydd cyfle gennych i ymgymryd â chymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Cyfathrebu a Chymhwyso Rhif. Bydd y cymwysterau hyn yn eich helpu chi i symud ymlaen i lefelau uwch o ddysgu.
4 TGAU gradd E/2 neu uwch, ac mae’n rhaid i ohonynt fod yn Fathemateg a Saesneg neu Gymraeg (Iaith Gyntaf).

I’r holl ddysgwyr sy’n bwriadu symud ymlaen i’r cwrs Lefel 1 hwn o Raglen Lefel Mynediad – rhaid eich bod wedi cyflawni eich prif gymhwyster, wedi symud ymlaen mewn mathemateg a Saesneg ac wedi cyrraedd yr holl dargedau yn eich CDU.

Yng Ngholeg Cambria byddem yn eich annog i wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Bydd gennych chi ragor o ddewisiadau os oes gennych chi raddau da, a gallai hynny arwain at gyrchu cwrs lefel uwch.
Byddwch chi’n dysgu drwy amrywiaeth o asesiadau diddorol, gan gynnwys tasgau gweithdy ymarferol, adeiladu tystiolaeth portffolio ffotograffig, asesiadau ysgrifenedig diwedd uned, gwaith prosiect a thrafodaethau wedi’u recordio. Anogir dysgwyr i ddogfennu eu datblygiad a’u cynnydd eu hunain trwy dynnu lluniau o’u gwaith. Dylid anodi ffotograffau dysgwyr i ddangos eu dealltwriaeth o ganlyniadau dysgu a meysydd pwnc penodol.
Ar ôl cwblhau, byddwch chi wedi paratoi’n dda ar gyfer eich camau nesaf, boed hynny’n symud ymlaen i gwrs galwedigaethol lefel uwch, prentisiaeth, neu’n uniongyrchol i gyflogaeth. Gall y cwrs hwn agor drysau i gyfleoedd cyffrous ym maes adeiladu.
Bydd angen prynu offer a/neu wisg hanfodol ar gyfer rhai cyrsiau. Edrychwch ar y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Lawrlwythiadau Defnyddiol
Rhestr Offer

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llaneurgain
14/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llysfasi
07/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i’ch helpu i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
13/11/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/11/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost